Y Dywysoges Lilian, Duges Halland

Y Dywysoges Lilian, Duges Halland
GanwydLillian May Davies Edit this on Wikidata
30 Awst 1915 Edit this on Wikidata
Abertawe Edit this on Wikidata
Bu farw10 Mawrth 2013 Edit this on Wikidata
Djurgården, Sweden Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethmodel Edit this on Wikidata
TadWilliam John Davies Edit this on Wikidata
MamGladys Mary Curran Edit this on Wikidata
PriodIvan Craig, Prince Bertil Edit this on Wikidata
LlinachTŷ Bernadotte Edit this on Wikidata
Gwobr/auUrdd Croes Terra Mariana, Grand Cross of Honor for Services to the Republic of Austria, Urdd y Tair Seren, Uwch Groes Dosbarth 1af Urdd Teilyngdod Gwladwriaeth Ffederal yr Almaen, Uwch Groes Urdd Filwrol Crist, Marchog Uwch Groes Urdd yr Hebog, Marchog Uwch-Groes Urdd Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal, Urdd y Dannebrog, Uwch-Groes Urdd Isabel la Católica Edit this on Wikidata
Clawr yr hunangofiant a sgwennodd yn 2000

Aelod o deulu brenhinol Sweden oedd y Dywysoges Lilian, Duges Halland (ganwyd Lillian May Davies; 30 Awst 191510 Mawrth 2013).

Fe'i ganwyd yn Abertawe, yn ferch i William John Davies a'i wraig Gladys Mary Curran. Roedd ei thad yn golier ac yna'r rhedeg stondin marchnad; roedd ei mam yn gynorthwydd mewn siop.[1] Pan ddaeth yn fodel mewn cylchgronau ffasiwn, gollyngodd un 'l' yn ei henw 'Lilian'. Roedd yn weddw i'r Tywysog Bertil, Dug Halland (sef ewyrth Carl XVI Gustaf, brenin Sweden). Bu ei gŵr farw yn 1997 yn eu cartref. Cyhoeddodd lyfr ar ei bywyd hi a'i gŵr yn y flwyddyn 2000.

Priodas gyntaf

Am rai blynyddoedd, yn y 1940au, bu'n briod i Ivan Craig, actor. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, gweithiodd Lilian Craig mewn ffatri gwneud radios ar gyfer y llynges ac yna mewn ysbyty ar gyfer milwyr wedi'u clwyfo.

Ei hail briodas i'r Tywysog Bertil

Mewn parti dathlu ei phen-blwydd yn 28 oed yn Llundain, yn 1943, cyfarfu â'r Tywysog Bertill o Sweden a daethant yn gariadon. Edrychai'n bur debyg y bydai Bertil yn dod yn frenin ymhen blynyddoedd, wedi i'w frawd Gustaf Adolf farw yn 1947. Pe bai wedi priodi Lillian yr adeg yma, byddai wedi colli'r siawns i fod yn frenin gan nad oedd priodas cymysg yn dderbyniol gan y wlad. Bu'r ddau'n byw am 30 mlynedd yn ddibriod.

Bu ei dad, Brenin Sweden, fyw'n hen ŵr ac ni choronwyd Bertil yn frenin, eithr aeth y goron i ŵyr y Brenin, sef Carl Gustaf. Priododd ef ferch o dras cyffredin, a rhoddodd sêl ei fendith ar garwriaeth ei ewyrth Bertil a Lilian a phriododd y ddau ar 7ed Rhagfyr, 1976 yn Eglwys Palas Drottningholm ym mhresenoldeb y Brenin a'r Frenhines Silvia.

Cyfeiriadau

  1. "Y Gymraes a ddaeth yn dywysoges Sweden". BBC Cymru Fyw. 2024-09-10. Cyrchwyd 2024-09-11.

Dolenni allanol