Y Wash
Math | bae |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Môr y Gogledd |
Sir | Norfolk |
Gwlad | Lloegr |
Gerllaw | Môr y Gogledd |
Cyfesurynnau | 52.9167°N 0.25°E |
Statws treftadaeth | safle Ramsar |
Manylion | |
Bae sgwâr bas ac aber sy'n gorwedd rhwng Norfolk a Swydd Lincoln yw'r Wash. Crëwyd yr aber gan yr afonydd Witham, Welland, Nene a Great Ouse wrth iddynt lifo i mewn i Fôr y Gogledd. Mae'r Wash yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig o 62,046 hectar (153,320 erw). Mae hefyd yn Warchodfa Natur Genedlaethol, yn Ardal Gadwraeth Arbennig, ac Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Arfordir Norfolk.
Hanes
Dywedir y collodd John, brenin Lloegr rhai o'r tlysau brenhinol yn The Wash ym 1216 pan gafodd y wagenni a oedd yn cario ei nwyddau ei ysgubo ymaith gan y llanw wrth iddynt groesi sarn ar draws yr aber.