Y Barbariaid
Enghraifft o: | clwb rygbi'r undeb |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1890 |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Gwefan | http://www.barbarianfc.co.uk |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Tîm rygbi'r undeb y mae eu chwaraewyr yn cael eu dewis trwy wahoddiad yw'r Barbariaid neu'r Baa-Baas (enw swyddogol: Barbarian F.C.). Fe'i sefydlwyd yn Lloegr ym 1890. Nid yw'r tîm yn cymryd rhan mewn unrhyw bencampwriaeth, nid oes ganddo bencadlys na chae chwarae swyddogol, ac nid oes ganddo hyd yn oed unrhyw chwaraewyr cofrestredig. Mae ei chwaraewyr, waeth beth fo'u cenedligrwydd, yn cael eu gwahodd gan lywydd ac ysgrifennydd y clwb, ac maen nhw'n cymryd rhan mewn ffordd amatur yn unig waeth beth fo'u statws proffesiynol.
Ers 1890 mae chwaraewyr o dros 25 o wledydd wedi chwarae drostyn nhw. Yn draddodiadol mae o leiaf un chwaraewr heb gap yn cael ei ddewis ym mhob gêm. Hynodrwydd y rhai sy'n cymryd y cae i'r Barbariaid yw bod y chwaraewr yn gwisgo gwisg y clwb (du a gwyn) ond yn gwisgo sanau ei dîm ei hun.
Hyd nes i rygbi'r undeb ddod yn broffesiynol, roedd y Barbariaid fel arfer yn chwarae chwe gêm flynyddol: yn erbyn Phenarth, Caerdydd, Abertawe a Chasnewydd adeg y Pasg; gêm yn erbyn Chaerlŷr ar 27 Rhagfyr a Gêm Goffa Mobbs yn erbyn Undeb Rygbi Dwyrain Canolbarth Lloegr yn y gwanwyn. Ym 1948 gwahoddwyd y Barbariaid i gystadlu ag Awstralia fel rhan o daith y Wallabies o amgylch Prydain, Iwerddon a Ffrainc. Er bod y gêm wedi'i chgynllunio'n wreiddiol fel modd o godi arian tua diwedd y daith, daeth yr ornest yn boblogaidd a thraddodiadol. Wedi'i chwarae bob tair blynedd i ddechrau, mae wedi dod yn amlach yn y cyfnod proffesiynol, ac yn aml mae'r Barbariaid yn chwarae un o'r timau cenedlaethol sy'n ymweld â Phrydain bob hydref.
Yn 2017 ffurfiwyd tîm merched am y tro cyntaf yn hanes y clwb.
Mae sawl clwb rygbi ledled y byd yn seiliedig ar fodel y Barbariaid o dîm gwadd, gan gynnwys y Barbariaid Awstralia, Barbariaid Seland Newydd, Barbariaid De Affrica a'r Barbarians français (Ffrainc).
Llyfryddiaeth
- Nigel Starmer-Smith, The Barbarians: The Official History of the Barbarians Football Club (Llundain, 1977)
- Alan Evans,The Barbarians: The United Nations of Rugby (Caeredin, 2005)