Y Tywysog Harri
Y Tywysog Harri, Dug Sussex | |
---|---|
Ffugenw | Henry Wales |
Ganwyd | Prince Henry Charles Albert David of Wales 15 Medi 1984 Ysbyty'r Santes Fair |
Bedyddiwyd | 21 Rhagfyr 1984 |
Man preswyl | Palas Kensington, Nottingham Cottage, Frogmore Cottage, Toronto, Montecito |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | peilot hofrennydd, swyddog milwrol, noddwr y celfyddydau, chwaraewr polo, dyngarwr |
Swydd | Ymgynghorydd |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Finding Freedom, Spare |
Taldra | 72.5 modfedd |
Tad | Charles III |
Mam | Diana, Tywysoges Cymru |
Priod | Meghan Markle |
Partner | Chelsy Davy, Cressida Bonas |
Plant | Archie o Sussex, Lilibet Mountbatten-Windsor |
Perthnasau | Laura Lopes, Tom Parker Bowles |
Llinach | Tŷ Windsor |
Gwobr/au | Marchog-Cadlywydd Urdd Brenhinol Fictoraidd, Medal Jiwbilî Aur y Frenhines Elisabeth II, Medal Jiwbilî Deimwnt y Frenhines Elisabeth II, Urdd Isabel la Católica, Operational Service Medal for Afghanistan, aelod anrhydeddus, Gwobr Time 100, Gwobr Time 100, King Charles III Coronation Medal, Queen Elizabeth II Platinum Jubilee Medal |
Gwefan | https://www.royal.uk/the-duke-of-sussex, https://sussexroyal.com |
llofnod | |
Ail fab y Tywysog Siarl a Diana yw Henry Charles Albert David Mountbatten-Windsor neu'r Tywysog Harry, Dug Sussex (ganwyd 15 Medi 1984). Mae'n frawd i'r Tywysog William. Priododd yr actores Meghan Markle ym Mai 2018.[1]
Fe'i addysgwyd mewn ysgolion yn Lloegr a treuliodd gyfnodau o'i flwyddyn bwlch yn Awstralia a Lesotho. Yna cafodd hyfforddiant swyddog yn Academi Filwrol Frenhinol Sandhurst. Fe'i benodwyd yn gornet (sef ail is-gapten) yn y Blues a Royals, gan wasanaethau dros dro gyda'i frawd Y Tywysog William, a cwblhaodd ei hyfforddiant fel arweinydd milwyr. Yn 2007-2008 gwasanaethodd am dros ddeg wythnos yn Helmand, Affganistan, ond tynnodd allan ar ôl i gylchgrawn Awstralaidd ddatgelu ei bresenoldeb yna. Dychwelodd i Affganistan am gyfnod o 20 wythnos yn 2012-13 gyda Chorfflu Awyr y Fyddin. Gadawodd y fyddin yn Mehefin 2015.
Helyntion
Ffrae'r wisg ffansi Natsïaidd
Yn Ionawr 2005, mewn parti gwisg ffansi gyda'r thema "Trefedigaethwyr a Brodorion", gwisgodd Harry band-braich swastika ac iwnifform Natsïaidd, gan godi ymateb beirniadol iawn[2] ac achosi cryn embaras i'w deulu. Yn ddiweddarach, rhyddhawyd cyhoeddiad ar ei ran yn ymddiheuro am y weithred, ond roedd ei amharodrwydd i ymddiheuro'n bersonol yn cythruddo nifer o grwpiau gwrth-hiliaeth ac unigolion. Cafodd ei feirniadu am wneud sbort ar ben mater difrifol a brifo teimladau teuluoedd pobl a ddioddfefasant dan y Natsïaid. Ond bu rhai o gefnogwyr y teulu brenhinol yn barod i esgusodi'r tywysog[3]
Ffrae saethu'r adar prin
Yn Hydref 2007, wynebodd Harry gyhuddiadau o saethu dau aderyn prin tra yn Sandringham[4]. Bu dau gerddwr a warden gwarchodfa natur cyfagos yn dystion iddynt weld dau foda tinwyn yn cael eu "blastio o'r awyr" ar 24 Hydref, ond oherwydd y coed nid oeddynt yn medru gweld pwy yn union a'u saethodd. Mae bodau tinwyn ymhlith yr adar prinaf yng ngwledydd Prydain; dim ond 20 sy'n byw yn Lloegr felly collwyd 10% o stoc bridio'r adar yn y wlad honno. Dywedodd llefarydd ar ran yr RSPB fod nifer o lygad-dystion mai Harry a'i ffrind a fu'n gyfrifol am y saethu a'u bod yn "gredadwy". Fodd bynnag, penderfynodd Gwasanaeth Erlyn y Goron beidio â ffurfio cyhuddiadau, penderfyniad sydd wedi cythruddo naturiaethwyr.
Cyfeiriadau
- ↑ Tywysog Harry i briodi Meghan Markle , Golwg360, 27 Tachwedd 2017. Cyrchwyd ar 8 Rhagfyr 2017.
- ↑ Harri yn ymddiheuro'n gyhoeddus am wisgo i fyny fel Natsi BBC News, 13 Ionawr, 2005
- ↑ Harry public apology 'not needed' BBC News, 14 Ionawr, 2005
- ↑ "Prince Harry quizzed by police about shooting of rare birds" 31 Hydref 2007 The Guardian