Ymosodiad Israel ar lynges ddyngarol Gaza 2010
![]() | |
Enghraifft o: | Anghydfod diplomyddol, môr-ladrad ![]() |
---|---|
Dyddiad | 31 Mai 2010 ![]() |
Lladdwyd | 10 ![]() |
Olynwyd gan | Cyrch ar longau cymorth Gaza ![]() |
Lleoliad | dyfroedd rhyngwladol ![]() |
![]() |
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/0/0e/Gaza_flotilla_clash_demonstration_in_Belfast_1.jpg/200px-Gaza_flotilla_clash_demonstration_in_Belfast_1.jpg)
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/c/ca/Mavi_Marmara_leaving_port.jpg/200px-Mavi_Marmara_leaving_port.jpg)
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/7/7c/Israel_outline_ashkelon.png/200px-Israel_outline_ashkelon.png)
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/cy/thumb/b/b1/Activistboatclash.jpg/200px-Activistboatclash.jpg)
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/5/59/Ship_to_Gaza_by_Latuff.gif/200px-Ship_to_Gaza_by_Latuff.gif)
Ar 31 Mai, 2010 ceisiodd chwech o gychod dyngarol gludo nawdd a chymorth i drigolion Llain Gaza; llynges wedi'i threfnu gan Mudiad Rhyddid i Gaza, sef cymdeithas ryngwladol sy'n dadlau dros hawliau dynol y Palesteiniaid gyda phobl megis Desmond Tutu a Noam Chomsky yn flaenllaw ynddi. Ymosododd milwyr o lynges Israel ar un o'r cychod, sef y MV Mavi Marmara[1] o Dwrci gan ladd rhwng 10 ac 16 o sifiliaid.[2][3] Roedd y llongau mewn dyfroedd rhyngwladol ar y pryd.
Credir fod tua 60 wedi eu hanafu, ond rhoddodd Israel waharddiad ar i'r cyfryngau gyhoeddi dim am yr ymosodiad. Mewn canlyniad, mae union amgylchiadau'r digwyddiad yn ansicr. Yn ôl yr ymgyrchwyr ar y llong, daeth y milwyr Israelaidd ar fwrdd y llong a dechrau saethu.[4] Fodd bynnag, dywedododd Llu Amddiffyn Israel fod o leiaf saith milwr wedi eu hanafu mewn sgarmes, dau ohonynt yn ddifrifol, ar ôl i'r ymgyrchwyr dyngarol geisio cipio'u harfau.[5] Honnodd byddin Israel i'r ymgyrchwyr ddefnyddio pastynau a chyllyll yn erbyn y milwyr hefyd, er nad oedd yr un gwn wedi ei ddarganfod ar fwrdd y llong.[5]
Cafwyd gwrthwynebiad cryf yn erbyn ymosodiad Israel ar y llongau cymorth gan nifer helaeth o wledydd. Dywedodd Prif Weinidog Twrci, Recep Tayyip Erdoğan, fod Israel wedi gweithredu fel "terfysgwyr annynol" ac "na ddylai neb feddwl y gwnawn gadw'n dawel yn wyneb hyn."[3]
Yn ôl yr Israeliaid roeddent wedi gofyn i gapten y cwch fynd i borthladd Ashdod i'w archwilio rhag ofn ei fod yn cludo arfau yn ogystal ag anghenion dyngarol.[6] Enw'r ymosodiad gan fyddin Israel oedd 'Ymgyrch gwynt awyr' (Saesneg: Operation Sky Winds).
Rhyddhau'r teithwyr
Rhyddhawyd Kevin Neish gan yr Israeliaid ar ôl 5 diwrnod mewn carchar. Dywedodd Neisha, sydd o Ganada, "Llofruddiwyd 16 o bobl ar y cwch, nid 9. Tra yn y ddalfa, dywedwyd wrthyf sawl tro y byddwn yn cael fy lladd; mae'r hyn a wnaeth yr Israeliaid i rai eraill o'r criw yn llawer iawn gwaeth."[7]
Post mortem
Mae post mortem ar naw o'r teithwyr a lofruddiwyd wedi profi fod pump wedi eu saethu naill ai yng nghefn y pen gan filwyr Israel neu yn eu cefnau, ar bellter o gyn lleied â 45 cm. Cynhaliwyd y post mortem yn Nhwrci.[8]
Y Llongau
Roedd 6 llong o wahanol wledydd yn rhan o'r llynges ddyngarol:
Challenger 1[9]
Challenger 1I
Eleftheri Mesogeios
MV Mavi Marmara (Blue Marmara)[10]
MV Rachel Corrie[11]
- Nodyn:Country data Groeg Sfendoni
Sifiliaid blaenllaw a chyffredin
Dëllir fod oddeutu 700 o sifiliaid cyffredin ar y llongau gan gynnwys yr ennillyd Gwobr Nobel dros Heddwch, Mairead Corrigan Maguire, 25 Aelod Senedd Ewrop, aelodau o wasg y byd, 20 o bobl o wledydd Prydain a llawer iawn o Dwrci. Trefnwyd y llynges gan IHH (İnsani Yardım Vakfı) sef Corff (wedi'i ganoli yn Nhwrci) dros Iawnderau Dynol, Rhyddid a Chymorth Dyngarol).
Roedd 663 o bobl ar y cychod, a'r rheiny'n dod o 37 gwlad.[12] Dyma rai enwau adnabyddus:
Enw | Cenedl | Adnabyddus am... |
---|---|---|
![]() |
Awstralia | Ffotograffydd efo'r Sydney Morning Herald |
![]() |
Awstralia | Newyddiadurwr efo'r Sydney Morning Herald |
![]() |
Brasil | Gwneuthurwr Ffilm o Frasil |
![]() |
yr Almaen | Aelod o Bundestag yr Almaen |
![]() |
Yr Almaen | Aelod o Bundestag yr Almaen |
![]() |
yr Almaen | Cyn-aelod o Bundestag yr Almaen |
![]() |
Iwerddon | Aelod o Senedd Iwerddon |
![]() |
Israel | Aelod Israeli-Arab o Knesset |
![]() |
Israel | Arweinydd Cangen y Gogledd o'r "Islamic Movement in Israel" |
![]() |
Ciwait | Aelod o Senedd Ciwait. |
![]() |
Libanus | Newyddiadurwr o gwmni teledu Al Jazeera |
![]() |
Pacistan | Cynhyrchydd Sianel Newyddion AAJ TV |
![]() |
Pacistan | Newyddiadurwr o Bacistan a Phrif Gyfarwyddwr |
![]() |
Palestina | Cyn-Archesgob o Gesarea ar ran catholigion Groeg |
![]() |
Qatar | Cynhyrchydd Al Jazeera Saesneg-ei-iaith |
![]() |
Rwsia | Newyddiadurwr o Rwsia |
![]() |
Sweden | Hanesydd o Sweden |
![]() |
Sweden | Awdur o Sweden |
![]() |
Sweden | Arlunydd Sweden-Israelaidd |
![]() |
Sweden | Hanesydd o Sweden |
![]() |
Sweden | Aelod o Senedd Sweden |
Sinan Albayrak | Twrci | TActor o Dwrci |
![]() |
UAE | Newyddiadurwr o Dwbai |
![]() |
Yr Emiradau Arabaidd Unedig | Cynhrchydd rhaglenni dogfen a newyddiadurwr o'r Alban. |
![]() ![]() |
Y Deyrnas Unedig ac Iwerddon | Enillydd Gwobr Nobel o Iwerddon |
![]() |
Iwerddon | Cyn Ysgrifennydd Cynorthwyol y cenhedloedd Unedig[13] |
![]() |
Yr Alban | Merch o'r Alban a garcharwyd gan yr Israeliaid am geisio dod a chymorth i Gaza yn 2009. |
![]() |
yr Unol Daleithiau | morwr a ddioddefodd yn arw pan ymosododd Israel ar yr SS Liberty [14] |
![]() |
yr Unol Daleithiau | Cyn Llysgennad yr Unol Daleithiau i Irac |
MV Rachel Corrie
Ar y 5ed o Fehefin, 2010 glaniodd milwyr Israel ar fwrdd yr MV Rachel Corrie, ond y tro hwn, ni chafwyd trais. Yn Iwerddon y cofrestwyd y cwch a'r capten yw Eric Harcus, o Ynysoedd Erch, yr Alban. Aethpwyd a'r cwch i borthladd Israelaidd Ashdod.[15] Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Iwerddon y bydden nhw'n dial yn ddiplomyddol yn erbyn Israel am gipio'r cwch mewn dyfroedd rhyngwladol. Enwyd y cwch ar ôl myfyriwr a laddwyd gan deirw-dur yn 2003 tra'n ceisio atal cartref Palesteinaidd rhag cael ei ddymchwel yn Gaza gan filwyr Israel. Trefnwyd y cwch gan Fudiad Rhyddid i Gaza.[16]
Gweler hefyd
- Gwrthdaro Arabaidd-Israelaidd
- Ymosodiad Israel ar Lain Gaza 2008–2009
- Ymosodiad Israel ar Lain Gaza 2014
- International Solidarity Movement
Cyfeiriadau
- ↑ Erthygl: "The Gaza Freedom flotilla" yn The Guardian; 01 Mehefin, 2010
- ↑ "gan Edmund Sanders; Teitl: "At least 10 die as Israel halts aid flotilla"; Los Angeles Times". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-05-31. Cyrchwyd 2010-06-01.
- ↑ 3.0 3.1 "Times Online". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-08-11. Cyrchwyd 2010-05-31.
- ↑ "Deaths as Israeli forces storm Gaza aid ship" BBC News, 31 Mai 2010.
- ↑ 5.0 5.1 Israel Navy commandos: Gaza flotilla activists tried to lynch us Haaretz.com 31-05-2010. Adalwyd ar 02-06-2010
- ↑ Papur dyddiol Israel: Haaretz
- ↑ "CTV News, British Columbia". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-06-07. Cyrchwyd 2010-06-06.
- ↑ Gwefan y Guardian; Adalwyd ar 06/06/2010
- ↑ ""As American as Apple Pie", gan Greta Berlin, freegaza.org, 30-05-2010". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-06-03. Cyrchwyd 2010-05-31.
- ↑ "The Richmonder". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-11-08. Cyrchwyd 2010-06-01.
- ↑ "Irish captives' fate unknown after Gaza strike
- ↑ 'Israel to deport all activists seized on Gaza flotilla'
- ↑ "Israel to deport activists detained after flotilla raids" ; 01 Mehefin, 2010 ym mhapur dyddiol The Irish Times.
- ↑ USS Liberty
- ↑ Gwefan y BBC.
- ↑ "AJC". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-06-05. Cyrchwyd 2010-06-05.