Ynni solar

Ffwrnais solar yn Odeillo yn y Pyreneau yn Catalonia, lle cynhyrchir tymheredd o hyd at 3,500 °C (6,330 °F).

Pelydriad electromagnetig sydd yn dod o'r haul yw egni solar neu egni'r haul. Mae planhigion yn ei ddefnyddio i greu ffotosynthesis ac ers rhai blynyddoedd mae dyn yn ei ddefnyddio fel egni adnewyddadwy i gynhyrchu trydan mewn tair ffordd wahanol:

  1. celloedd solar: drwy baneli ffotofoltaidd sy'n cynhyrchu trydan.
  2. ffwrnais solar: defnyddir rhesi o ddrychau crwm i ffocysu pelydrau'r haul ar un man i gynhyrchu tymheredd uchel iawn a throi dŵr yn ager i yrru tyrbein sy'n creu drydan.
  3. paneli solar: drwy banel o bibellau'n cynnwys hylif sy'n cael ei gynhesu ac yn ei dro'n cynhesu dŵr neu wres y tŷ.

Yn wahanol i'r broses o greu egni anadnewyddawy, ni cheir llygredd, nid oes raid talu am danwydd a gellir ei wneud ar raddfa fechan iawn. Yr anfanteision yw fod angen llawer o dir neu ddŵr, gall ddifetha'r golygfeydd naturiol ac mae'n ddibynol ar anwadalwch y tywydd.

Eginyn erthygl sydd uchod am yr amgylchedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Eginyn erthygl sydd uchod am dechnoleg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato