Yr Hen Deyrnas yw'r enw a roddir i'r cyfnod rhwng tua 2686 CC a 2134 CC yn hanes yr Hen Aifft.
Syniad a ddatblygwyd gan eifftolegwyr yn y 19g oedd rhannu hanes yr Hen Aifft yn nifer o deyrnasoedd; nid oedd yr hen Eifftwyr ei hunain yn meddwl am eu hanes fel hyn. Ystyrir bod yr Hen Deyrnas yn cynnwys brenhinoedd y Trydydd Brenhinllin hyd y Chweched Brenhinllin.
Roedd prifddinas yr Aifft ym Memphis yn y cyfnod yma. Yn ystod yr Hen Deyrnas yr adeiladwyd Pyramidau'r Aifft.
Brenhinoedd yr Hen Deyrnas
3ydd Brenhinllin 2686 CC – 2613 CC
Enw
Nodiadau
Dyddiadau (CC)
Sanakhte
-
2686 - 2668
Djoser
Yn gyfrifol am Pyramid Djoser a gynlluniwyd gan Imhotep
2668 - 2649
Sekhemkhet
-
2649 - 2643
Khaba
-
2643 - 2637
Huni
-
2637 - 2613
4ydd Brenhinllin
Nomen (Praenomen)
Nodiadau
Dyddiadau (CC)
Sneferu
Adeiladodd y Pyramid Cam, pyramid lle mae’r ongl yn newid ran o’r ffordd I fyny’r adeilad. Roedd hefyd yn gyfrifol am adeiladu’r Pyramid Coch.