211 CC

4g CC - 3g CC - 2g CC
260au CC 250au CC 240au CC 230 CC 220au CC - 210au CC - 200au CC 190au CC 180au CC 170au CC 170au CC
216 CC 215 CC 214 CC 213 CC 212 CC - 211 CC - 210 CC 209 CC 208 CC 207 CC 206 CC


Digwyddiadau

  • Y cadfridog Carthaginaidd Hasdrubal Barca yn dychwelyd i Sbaen wedi gorchfygu'r gwrthryfel yn Numidia. Mewn dwy frwydr, mae'n lladd y ddau gadfridog Rhufeinig yn Sbaen; Publius Cornelius Scipio a'i frawd Gnaeus Cornelius Scipio Calvus — Publius ar afon Baetis (Afon Guadalquivir) a Gnaeus ger Carthago Nova (Cartagena). Mae Carthago'n adennill ei holl diriogaethau yn Sbaen i'e de o Afon Ebro.
  • Byddin Gweriniaeth Rhufain yn cipio Syracusa, ac felly'n meddiannu'r cyfan o Sicilia.
  • Y Rhufeiniaid yn cipio dinas Capua, oedd mewn cynghrair a Hannibal.
  • Y cadfridog Rhufeinig Marcus Valerius Laevinus yn gwneud cytundeb a Chynghrair Aetolia i wrthwynebu Philip V, brenin Macedon.
  • Arsaces II yn olynu ei dad Arsaces I fel brenin Parthia.

Genedigaethau

Marwolaethau

  • Publius Cornelius Scipio, cadfridog Rhufeinig
  • Gnaeus Cornelius Scipio Calvus, cadfridog Rhufeinig
  • Arsaces I, brenin Parthia