31 Rhagfyr
Math o gyfrwng | pwynt mewn amser mewn perthynas ag amserlen gylchol |
---|---|
Math | 31st |
Rhan o | Rhagfyr |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
<< Rhagfyr >> | ||||||
Ll | Ma | Me | Ia | Gw | Sa | Su |
1 | 2 | 3 | 4 | 5 | 6 | |
7 | 8 | 9 | 10 | 11 | 12 | 13 |
14 | 15 | 16 | 17 | 18 | 19 | 20 |
21 | 22 | 23 | 24 | 25 | 26 | 27 |
28 | 29 | 30 | 31 | |||
2020 | ||||||
Rhestr holl ddyddiau'r flwyddyn |
31 Rhagfyr yw'r pumed dydd a thrigain wedi'r tri chant (365ain) o'r flwyddyn yng Nghalendr Gregori (366fed mewn blwyddyn naid) a diwrnod ola'r flwyddyn. Yn Gymraeg gelwir y noson hon yn Nos Galan.
Digwyddiadau
- 406 - Nifer o lwythau Almaenig, yn eu plith y Fandaliaid, Bwrgwndiaid a’r Alaniaid, yn croesi Afon Rhein, sydd wedi rhewi. Dinistrir amddiffynfeydd yr ymerodraeth Rufeinig ar y ffin, ac mae'r Almaenwyr yn meddiannu rhannau helaeth o Âl.
- 1857 - Y Frenhines Victoria yn dewis Ottawa fel prifddinas Canada.
- 1879 - Arddangoswyd bylb golau gwynias o wneuthuriad Thomas Edison am y tro cyntaf erioed. Edefyn carbon oedd y wifren wynias yn y bylb.
- 1909 - Agorwyd Pont Manhattan yn Ninas Efrog Newydd.
- 1987 - Robert Mugabe yn dod yn Arlywydd Simbabwe.
- 1999
- Panama yn cael rheolaeth dros Gamlas Panamâ.
- Boris Yeltsin yn ymddiswyddo fel Llywydd Rwsia.
- 2014 - Beji Caid Essebsi yn dod yn Arlywydd Tiwnisia
- 2019 - Pandemig COVID-19: Mae Gweriniaeth Pobl Tsieina yn son wrth Gyfundreth Iechyd y Byd am achos o COVID-19 yn Wuhan.
- 2020 - Diwedd cyfnod pontio Brexit.
- 2022 - Pab Bened XVI yn marw, bron i ddeng mlynedd ar ol ei ymddiswyddiad.
- 2023 - Margrethe II yn cyhoeddi ei hymwrthodiad fel brenhines Denmarc.
Genedigaethau
- 1378 - Pab Calistus III (m. 1458)
- 1491 - Jacques Cartier, fforiwr (m. 1557)
- 1514 - Andreas Vesalius, anatomydd a meddyg (m. 1564)
- 1869 - Henri Matisse, arlunydd (m. 1954)
- 1877 - Viktor Dyk, awdur (m. 1931)
- 1878 - Caradoc Evans, awdur (m. 1945)[1]
- 1908 - Simon Wiesenthal, iddew a oroesedd yr Holocost (m. 2005)[2]
- 1917 - Ruth Rogers-Altmann, arlunydd (m. 2015)
- 1924 - Taylor Mead, actor (m. 2013)
- 1931 - Mildred Scheel, meddyg (m. 1985)
- 1933 - Chryssa, arlunydd (m. 2013)[3]
- 1935 - Salman, brenin Sawdi Arabia
- 1937
- Syr Anthony Hopkins, actor[4]
- Tess Jaray, arlunydd
- 1941
- Syr Alex Ferguson, rheolwr pêl-droed Manchester United rhwng 1986 a 2013
- Sarah Miles, actores
- 1943
- John Denver, canwr (m. 1997)
- Syr Ben Kingsley, actor
- 1948 - Donna Summer, cantores (m. 2012)
- 1954 - Alex Salmond, gwleidydd, Prif Weinidog yr Alban 2007-2014 (m. 2024)[5]
- 1959 - Val Kilmer, actor
- 1962 - Nélson Luís Kerchner, pel-droediwr
- 1964 - Michael McDonald, actor a chomediwr
- 1965 - Gong Li, actores
- 1977 - Psy, canwr a rapiwr
Marwolaethau
- 192 - Commodus, ymherodr Rhufeinig, 31
- 1384 - John Wycliffe, diwinydd, 66[6]
- 1802 - Francis Lewis, llofnodydd Datganiad Annibyniaeth yr Unol Daleithiau, 90
- 1950 - Karl Renner, Arlywydd Awstria, 80
- 1966 - Helene Roth, arlunydd, 79
- 1976 - Judith Westphalen, arlunydd, 54
- 1980 - Marshall McLuhan, addysgwr, athronydd ac ysgolhaig, 69
- 1998 - Guta von Freydorf-Stephanow, arlunydd, 87
- 2002 - Aat Breur-Hibma, arlunydd, 89
- 2008 - Lidiya Mayorova, arlunydd, 81
- 2013 - James Avery, actor, 68
- 2014 - Edward Herrmann, actor, 71
- 2015 - Natalie Cole, cantores, 65[7]
- 2019 - Ratko Janev, ffisegydd atomig, 80
- 2021 - Betty White, actores, 99
- 2022
- Pab Bened XVI, 95
- Aled Glynne, darlledwr, 65
Gwyliau a chadwraethau
- Nos Galan
- Calennig
- Rasys Nos Galan
- Hogmanay (yr Alban)
- Gŵyl mabsant: Sant Gwynin a Sant Silvester
- Chwechwed diwrnod Kwanzaa (yr Unol Daleithiau)
Cyfeiriadau
- ↑ "EVANS, CARADOC (1878-1945), awdur". Y Bywgraffiadur Cymreig. Cyrchwyd 31 Rhagfyr 2024. Unknown parameter
|awdur=
ignored (help) - ↑ (Saesneg) Pick, Hela (21 Medi 2005). Obituary: Simon Wiesenthal. The Guardian. Adalwyd ar 7 Mehefin 2013.
- ↑ "Famous Greek Artist Chryssa Passes Away". 23 Rhagfyr 2013.
- ↑ "Oscars 2021: Anthony Hopkins accepts award from Welsh countryside". BBC (yn Saesneg). 26 Ebrill 2021. Cyrchwyd 31 Rhagfyr 2024.
- ↑ Torrance, David (2010). Salmond: Against The Odds. Birlinn. t. 12.
- ↑ "John Wycliffe | Biography, Legacy, & Facts". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 26 Hydref 2019.
- ↑ Adam Sweeting (3 Ionawr 2016). "Natalie Cole obituary". Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 31 Rhagfyr 2024.