Afon Tiber

Afon Tiber
Afon Tiber yn llifo dan Bont Sant Angelo yn Rhufain
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Yr Eidal Yr Eidal
Cyfesurynnau43.78692°N 12.07767°E, 41.7406°N 12.2333°E Edit this on Wikidata
AberMôr Tirrenia Edit this on Wikidata
LlednentyddChiascio, Nera, Aniene, Cremera, Paglia, Allia, Treja, Almone, Q3625623, Farfa, Magliana, Nestore, Q25300635, Naia Edit this on Wikidata
Dalgylch17,375 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd405 cilometr Edit this on Wikidata
Arllwysiad239 metr ciwbic yr eiliad Edit this on Wikidata
LlynnoeddLago di Corbara Edit this on Wikidata

Afon sy'n codi ym mynyddoedd yr Appeninau yn Yr Eidal ac yn llifo i Fôr Tirrenia yw Afon Tiber (Eidaleg: Tevere, Lladin: Tiberis). Ei hyd yw 405 km (252 milltir).

Mae'n tarddu ar lethrau deheuol yr Apeninau yn Toscana (Tuscany) ac yn llifo i'r de trwy Umbria a heibio i drefi a dinasoedd hanesyddol fel Sansepolcro, Citta di Castello, Periwgia a Todi. Yn nhalaith Lazio mae'n ymdolenni trwy'r gwastadiroedd eang cyn cyrraedd dinas Rhufain lle mae sawl pont hanesyddol yn ei chroesi. Mae'r afon yn cyrraedd y môr yn Ostia, porthladd hynafol Rhufain.

Roedd yr afon yn dduw yn y pantheon Rhufeinig. Yn ôl traddodiad Albula oedd ei henw gwreiddiol, oherwydd gwynder ei dyfroedd, ond cafodd yr enw Tiberis ar ôl i Tiberinus, brenin Alba, foddi ynddi.

Eginyn erthygl sydd uchod am Yr Eidal. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato