Anatole France
Anatole France | |
---|---|
Ffotograff o Anatole France ym 1921 | |
Ffugenw | Anatole France, Anatolis Fransas |
Ganwyd | Jacques François-Anatole Thibault 16 Ebrill 1844 Paris |
Bu farw | 12 Hydref 1924 Q22994052 |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, bardd, nofelydd, llyfrgellydd, beirniad llenyddol, awdur ffuglen wyddonol, rhyddieithwr, cofiannydd, critig |
Swydd | llywydd corfforaeth, seat 38 of the Académie française |
Adnabyddus am | Thaïs, Les dieux ont soif |
Mudiad | rhyddfeddyliaeth |
Priod | Valérie Guérin de Sauville, Emma Laprévotte |
Partner | Léontine Lippmann |
Plant | Suzanne Thibault |
Gwobr/au | Gwobr Lenyddol Nobel, Gwobrau Montyon, Vitet Prize, Officier de la Légion d'honneur, Chevalier de la Légion d'Honneur, Grand Prize for the Best Novels of the Half-Century |
llofnod | |
Llenor o Ffrainc yn yr iaith Ffrangeg oedd Anatole France (Jacques-Anatole-François Thibault; 16 Ebrill 1844 – 12 Hydref 1924) sydd yn nodedig am ei nofelau, dramâu, a beirniadaeth lenyddol sydd yn mynegi sgeptigiaeth, eironi, ac hynawsedd deallusol. Dyfarnwyd iddo Wobr Lenyddol Nobel ym 1921 "i gydnabod ei orchestion llenyddol penigamp, a nodweddir gan urddas eu harddull, cydymdeimlad dwfn o'r ddynolryw, graslonrwydd, ac anian wir Ffrengig".[1]
Ganed ef ym Mharis yn fab i werthwr llyfrau. Yn ei ieuenctid ymroddai ei hun i lenydda, a dylanwadwyd ar ei farddoniaeth gynnar gan y Parnasiaid. Trodd at ryddiaith ffuglennol, gan fynegi sgeptigiaeth ideolegol yn ei nofelau cynnar, gan gynnwys Le Crime de Sylvestre Bonnard (1881), La Rôtisserie de la Reine Pédauque (1893), a Les Opinions de Jérome Coignard (1893). Arbrofodd hefyd â nofelau rhamantus, Thaïs (1890) a Le Lys rouge (1894). Mae'r cylch L'Histoire contemporaine (1897–1901) yn ymwneud â gwleidyddiaeth ac achos Dreyfus. Mae ei nofelau diweddarach yn ymdrin â phynciau cymdeithasol. Cofleidiodd gomiwnyddiaeth tuag at ddiwedd ei oes. Bu farw yn Saint-Cyr-sur-Loire, ger Tours, yn 80 oed.[2]
Cyfeiriadau
- ↑ (Saesneg) "The Nobel Prize in Literature 1921", Sefydliad Nobel. Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 19 Ebrill 2023.
- ↑ (Saesneg) Anatole France. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 19 Ebrill 2023.