Cytser a welir yn awyr y gogledd yw Andromeda. Fe'i lleolir ger Cassiopeia. Y seren ddisgleiriaf yw Alpheratz. Mae'r cytser yn cynnwys galaeth troellog Andromeda (Messier 31: M31 ar y map).
Enwyd y cytser gan y Groegiaid cynnar ar ôl y dduwies Andromeda.