Arllwysiad olew
Math | environmental disaster, environmental impact of the petroleum industry, spilling |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Arllwysiad olew yw'r term a ddefnyddir am olew yn cael ei golli i'r amgylchedd oherwydd damwain neu gamgymeriad. Fel rheol, defnyddir y term am olew yn cael ei golli i'r môr.
Gall hyn ddigwydd pan fo damwain i danceri olew neu i rigiau drilio. Gall hefyd ddeillio o ddamwain i longau eraill, sy'n peri iddynt golli olew puredig sy'n cael ei ddefnyddio fel tanwydd. Gallant greu difrod mawr i'r amgylchedd, a gall yr effeithiau barhau am flynyddoedd.
Arllwysiadau olew
- Arllwysiad olew Deepwater Horizon, Gwlff Mexico, 2010
- Arllwysiad olew Amoco Cadiz, Llydaw, 1978