Arth frown
Arth frown | |
---|---|
![]() | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Carnivora |
Teulu: | Ursidae |
Genws: | Ursus |
Rhywogaeth: | Ursus arctos |
Enw deuenwol | |
Ursus arctos Linnaeus, 1758 |
Arth fawr gyda thrwyn smwt a chrwb yn uwch i fyny'r cefn yw'r arth frown (Ursus arctos), sy'n byw yn Ewrasia a Gogledd America. Yng Ngogledd America, ceir tair is-rwyogaeth, sef yr arth Godiac, yr arth fraith a'r arth Mecsico. Yn Ewrop, ceir yr arth frown Ewrop. Mae'n hollysydd ac yn bwyta aeron, cnau, gwreiddiau, mêl, pysgod ac anifeiliaid bach.
Ar un adeg, roedd yr arth yma yn anifail cyffredin dros ran helaeth o Ewrop, yn cynnwys Cymru, ond erbyn hyn dim ond gweddillion o'r boblogaeth sydd ar ôl yng ngwledydd Llychlyn, yn Sbaen ac yn nwyrain Ewrop, yn enwedig Rwmania.
Is-rywogaethau
- Ursus arctos arctos, Arth frown Ewrop. Llychlyn hyd Rwsia, fe'i ceir yn yr Alpau, Pyreneau, Carpatiau a'r Balcanau.
- Ursus arctos syriacus, Arth frown Syria. Twrci, Syria, Libanus, Israel, Irac, Iran, gorllewin yr Himalaya, Rwsia hyd yr Altaj, Tyrcmenistan ac Affganistan.
- Ursus arctos crowtheri, Arth yr Atlas. Gogledd-orllewin Affrica. (wedi diflannu)
- Ursus arctos meridionalis, Arth frown y Cawcasws. Cawcasws.
- Ursus arctos yenisensis, Arth frown dwyrain Siberia. Dwyrain Siberia, i'r gorllewin o Afon Yenisei, Gogledd Mongolia.
- Ursus arctos isabellinus, Arth Isabel. India, Affganistan, Pacistan, Casachstan, Rwsia.
- Ursus arctos beringianus, Arth Kamchatka. Rwsia: Kamchatka, Kwriliaid.
- Ursus arctos lasiotus, Arth Wswrri. Rwsia, Tsieina, Corea, Japan: Ardal afon Amur, Sachalin, Kwriliau, Manchuria, Hokkaido.
- Ursus arctos pruniosus, Arth frown Tibet. Gogledd-orllewin Tsieina (Tibet, Sichuan), Mongolia, Dwyrain yr Himalaya.
- Ursus arctos middendorffi, Arth Godiac. Ynysoedd ger arfordir Alaska.
- Ursus arctos horribilis, Arth fraith. Alaska, Canada, Mynyddoedd y Rockies.
- Ursus arctos nelsoni, Arth Mecsico. Mecsico. (wedi diflannu)