Belarws
![]() | |
Рэспубліка Беларусь (Belarwseg) | |
![]() | |
Arwyddair | Hospitality Beyond Borders ![]() |
---|---|
Math | gwladwriaeth sofran, gwladwriaeth unedol, gwladwriaeth y werin, gwlad, gwlad dirgaeedig, gweriniaeth ![]() |
Enwyd ar ôl | Rws Gwyn ![]() |
Prifddinas | Minsk ![]() |
Poblogaeth | 9,155,978 ![]() |
Sefydlwyd | |
Anthem | Ni, Felarwsiaid ![]() |
Pennaeth llywodraeth | Aleksandr Turchin ![]() |
Cylchfa amser | UTC+03:00, Ewrop/Minsk ![]() |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Belarwseg, Rwseg ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Dwyrain Ewrop ![]() |
Arwynebedd | 207,595 km² ![]() |
Yn ffinio gyda | Latfia, Lithwania, Gwlad Pwyl, Wcráin, Rwsia, yr Undeb Ewropeaidd ![]() |
Cyfesurynnau | 53.5283°N 28.0467°E ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Cyngor y Gweinidogion ![]() |
Corff deddfwriaethol | Cynulliad Cenedlaethol Gweriniaeth Belarws ![]() |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Arlywydd Belarws ![]() |
Pennaeth y wladwriaeth | Alexander Lukashenko ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | Aleksandr Turchin ![]() |
![]() | |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $72,793 million ![]() |
Arian | rwbl Belarws ![]() |
Canran y diwaith | 6 canran ![]() |
Cyfartaledd plant | 1.62 ![]() |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.808 ![]() |
Gweriniaeth dirgaeedig yn nwyrain Ewrop yw Belarws (hefyd Belarus,[1] Belarŵs, Belorwsia,[2] neu Rwsia Wen; Belarwseg a Rwseg: Беларусь). Mae'n ffinio â Rwsia i'r dwyrain, ag Wcráin i'r de, â Gwlad Pwyl i'r gorllewin, ac â Lithwania a Latfia i'r gogledd. Minsk yw ei phrifddinas – mae dinasoedd mawr eraill yn cynnwys Brest, Grodno, Gomel, Mogilev, Vitebsk a Bobruisk. Coedwigir un traean o'r wlad, ac mae amaethyddiaeth a gweithgynhyrchu yn ganolog i'r economi. Belarws yw un o’r gwledydd yr effeithwyd yn fwyaf difrifol arni gan ymbelydredd niwclear o ddamwain atomfa Chernobyl o 1986 yn Wcráin.
Yn ystod ei hanes, bu rhannau Belarws dan reolaeth sawl gwlad, gan gynnwys Dugiaeth Polatsk, Archddugiaeth Llethaw, Cymanwlad Gwlad Pwyl-Llethaw, ac Ymerodraeth Rwsia. Daeth Belarws yn weriniaeth Sofietaidd ym 1922. Datganodd y weriniaeth ei sofraniaeth ar 27 Gorffennaf 1990. Yn sgil cwymp yr Undeb Sofietaidd, datganodd Belarws ei hannibyniaeth yn swyddogol ar 25 Awst 1991. Alexander Lukashenko yw arlywydd y wlad ers 1994. Yn ystod ei reolaeth, mae Lukashenko wedi gweithredu polisïau y cyfnod Sofietaidd, er gwaethaf gwrthwynebiadau oddi wrth bwerau gorllewinol. Mae Belarws yn trafod gyda Rwsia i uno'r ddwy wlad yn un wladwriaeth a elwir yn Undeb Rwsia a Belarws, er bod y trafodaethau yn stolio ers sawl blwyddyn.
Daearyddiaeth
- Prif: Daearyddiaeth Belarws
Hanes
- Prif: Hanes Belarws
Rhanbarth y dalaith mawr Rws Ciefaidd oedd Belarws, tan y farwolaeth y Brenin Yaroslav I "y Doeth" ym 1054.
Gwleidyddiaeth
- Prif: Gwleidyddiaeth Belarws
Diwylliant
- Prif: Diwylliant Belarws
Economi
- Prif: Economi Belarws
Cyfeiriadau
- ↑ Gareth Jones (gol.), Yr Atlas Cymraeg Newydd (Collins-Longman, 1999)
- ↑ Geiriadur yr Academi, s.v. "Belorussia"