Billy Elliot the Musical

Billy Elliot the Musical
200
Poster y sioe wreiddiol yn y West End
Cerddoriaeth Elton John
Geiriau Lee Hall
Llyfr Lee Hall
Seiliedig ar Ffilm 2000 Billy Elliot
Cynhyrchiad 2005 West End Llundain
2007 Awstralia
2008 Theatr Broadway
Gwobrau Gwobr Olivier am y Sioe Gerdd Newydd Orau
Gwobr Tony am y Sioe Gerdd Orau

Sioe gerdd 2005 sy'n seiliedig ar y ffilm Billy Elliot (2000) ydy Billy Elliot the Musical. Ysgrifennwyd y gerddoriaeth gan Syr Elton John, ac mae'r llyfr a'r geiriau gan Lee Hall (a ysgrifennodd sgript y ffilm). Adrodda'r sioe hanes bachgen heb fam o'r enw Billy sy'n cyfnewid ei fenyg paffio am esgidiau ballet. Dywed y stori ei frwydr bersonol a'i hapusrwydd, gyda thyndra teuluol a chymunedol oherwydd streic y glowyr (1984-5) yng Ngogledd Lloegr yn gefndir i'r ffilm. Ysbrydolwyd sgript Hall i raddau gan nofel A. J. Cronin, The Stars Look Down, ac mae cân agoriadol y sioe yn deyrnged iddo.[1]

Agorodd y sioe yn y West End yn 2005 a chafodd ei henwebu am naw Gwobr Laurence Olivier gan ennill pedair ohynynt yn cynnwys y Sioe Gerdd Newydd Orau. Yn sgîl llwyddiant "Billy Elliot the Musical" yn y DU, gwelwyd cynyrchiadau yn Awstralia ac ar Broadway.

Caneuon

Act I
  • The Stars Look Down
  • Shine
  • Grandma's Song
  • Solidarity
  • Expressing Yourself
  • The Letter
  • Born to Boogie
  • Angry Dance
Act II
  • Merry Christmas Maggie Thatcher
  • Deep into the Ground
  • Swan Lake
  • He Could be a Star
  • Electricity
  • Once We Were Kings
  • The Letter (Reprise)
  • Finale

Dolenni Allanol

Gweler hefyd

Cyfeiriadau