C.P.D. Adar Glas Tretomos
![]() | |
Enw llawn | Trethomas Bluebirds A.F.C. |
---|---|
Sefydlwyd | 1903 |
Maes | CCB Centre For Sporting Excellence, Hengoed |
Rheolwr | Mark Dunford |
Cynghrair | Nodyn:Welsh football updater |
Nodyn:Welsh football updater | Nodyn:Welsh football updater |
Mae Adar Gleision Trethomas (neu Adar Glas Trethomas; Saesneg: Trethomas Bluebirds A.F.C.) yn dîm pêl-droed sydd wedi'u lleoli ym mhentref Tretomos ym Mwrdeistref Sirol Caerffili. Mae'r clwb yn chwarae yn adran Cymru South.
Hanes
Ffurfiwyd y clwb ym 1903 fel Clwb Pêl-droed Trethomas (Trethomas F.C.). Prynwyd y maes chwarae Llanbafon Drive, gan y glowyr oedd yn gweithio yng ngwaith glo a golosg Bedwas a Thretomos. Daeth yr enw "Bluebirds" oddeutu'r flwyddyn 2000 gan un o'r sefydlwyr oedd yn un o gefnogwyr Clwb Pêl-droed Caerdydd.[1] Ymunodd y clwb â Chynghrair Sir Gwent yn 2003, gan ennill dyrchafiad i Adran Dau fel Pencampwyr yn 2005-06. Daeth dyrchafiad i Adran Un yn dilyn ar ôl i'r clwb ddod yn ail yn nhymor 2012–13.[2]
Dyrchafwyd hwy i byramid Gynghrair Bêl-droed Cymru yn 2015–16 am y tro cyntaf.
Cwpan Cymru
Cafodd y clwb rediad ardderchog yng Nghwpan Cymru yn 2019-20, gan guro Dinas Powys (4-0), Lucas Cwmbrân (3-1), Penparcau (3-1) a Llanidloes (4-3), colli i Nomadiaid Cei Connah ( 3-0) yn y 32 olaf.[1]
Yn nhymor 2024-25 bu i'r clwb gyrraedd yr ail rownd ond colli i Hwlffordd ar giciau o'r smotyn wedi gêm gyfartal. Tretomos oedd yr unig dîm o gynghrair rhanbarthol i chwarae tîm o Uwch Gynghrair Cymru.[3]
Anrhydeddau
- Pencampwyr Adran Un Cynghrair Sir Gwent (1): 2015–16[4]
- Ail Gynghrair Rhanbarth Dau Cynghrair Sir Gwent yn ail (1): 2012–13
- Pencampwyr Adran Tri Cynghrair Sir Gwent (1): 2005–06
- Cwpan Ardal De – Enillwyr: 2021–22[5]
- Tlws CBDC – Enillwyr: 2022–23[6]
Dolenni allanol
- Gwefan swyddogol Adar Glas Tretomos
- @TrethomasBluebirds Tudalen Facebook y Clwb
Cyfeiriadau
- ↑ 1.0 1.1 "Trethomas Bluebirds". Gwefan Ardal South CBDC. Cyrchwyd 22 Hydref 2024.
- ↑ "Teams". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 Mai 2019. Cyrchwyd 28 Mai 2019.
- ↑ "Uchafbwyntiau Highlights: Hwlffordd 0-0 Adar Gleision Trethomas (5-3 C.O.S) Cwpan Cymru JD". Sianel Youtube Sgorio. 20 Hydref 2024.
- ↑ "Football Club History Database - Trethomas Bluebirds".
- ↑ Jones, Harrison Jones (25 Mai 2022). "Cardiff Draconians 0-1 Trethomas Bluebirds: Alfie Jones delivers Ardal South Cup trophy win". Y Clwb Pel-Droed. Cyrchwyd 26 Mai 2022.
- ↑ "Trethomas Bluebirds crowned Dragon Signs Amateur Trophy winners". .faw.cymru. Football Association of Wales. 29 Ebrill 2023. Cyrchwyd 31 Mai 2023.