Caerffili (sir)

Bwrdeistref Sirol Caerffili
ArwyddairGweithio'n Gytun Er Lles Pawb Edit this on Wikidata
Mathprif ardal Edit this on Wikidata
PrifddinasCaerffili Edit this on Wikidata
Poblogaeth181,019 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd277.3879 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaDinas a Sir Caerdydd, Blaenau Gwent, Casnewydd, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf, Powys, Torfaen Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.656°N 3.183°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW06000018 Edit this on Wikidata
GB-CAY Edit this on Wikidata

Mae Bwrdeistref Sirol Caerffili yn fwrdeistref sirol yn ne-ddwyrain Cymru ac yn un o 22 awdurdod unedol. Fe'i enwir ar ôl ei ganolfan weinyddol, tref Caerffili. Yn y Cyfrifiad diwethaf, roedd y boblogaeth yn 181,019 (2018)[1]. Caiff y sir ei llywodraethu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Ei phrif dref a'r dref fwyaf yw Caerffili a cheir adeiladau sirol hefyd yn Ystrad Mynach sy'n fwy canolog. Y trefi eraill yn y fwrdeistref hon yw: Bedwas, Rhisga, Trecelyn, Coed Duon, Bargod, Tredegar Newydd a Rhymni.

Daearyddiaeth

Ffurfir rhan ogleddol y fwrdeistref gan ehangder Cwm Rhymni. Mae Afon Rhymni yn tarddu yn y bryniau yn y gogledd ac yn llifo tua'r de am tua deng milltir ar hugain, gan droelli i'r dwyrain, ychydig i'r gogledd o Gaerffili cyn cyrraedd Môr Hafren. Mae'r dyffryn hefyd yn cynnwys cymunedau Abertyswg, Fochriw, Pontlotyn, Tir-Phil, Brithdir, Tredegar Newydd, Aberbargod, Rhymni ac Ystrad Mynach, a threfi Bargoed a Chaerffili.[2]

Hanes

Gorwedd y fwrdeisdref sirol ar gyrion Maes Glo'r De. Dechreuodd droi o fod yn gymuned o amaethwyr i fod yn ddiwydiannol gyda datblygiad y diwydiant haearn ar ddechrau'r Chwyldro Diwydiannol. Ym 1752, rhoddwyd prydles 99 mlynedd ar gyfer darn o dir yng Nghwm Rhymni a roddodd yr hawl i'r prydleswyr gloddio am lo a mwyn haearn. Dilynwyd hyn gyda chytundebau cloddio eraill, cloddiwyd siafftiau pyllau a datblygodd y diwydiant glo.[3] Erbyn dechrau'r 20g, roedd deugain o lofeydd yn y dyffryn.[4]

Un o'r pyllau a suddwyd ar ddiwedd y 19g oedd Glofa Elliot. Yn ei anterth, cyn y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd yn cynhyrchu dros filiwn o dunelli o lo y flwyddyn ac yn cyflogi bron i dair mil o bobl. Yn 1967 disbyddwyd y glo a chaeodd y lofa. Cliriwyd y rhan fwyaf o’r safle ond mae’r Cyt Winshio'r Gorllewin (East Winding House) wedi goroesi ac mae bellach yn adeilad rhestredig Gradd II, gydag amgueddfa'n canolbwytio ar y diwydiant glo yn yr ardal wedi agor ar y safle.[5] Yr oedd holl byllau'r dyffryn wedi eu cau erbyn diwedd yr 20g; cliriwyd llawer o'r tomenni sbwriel fel nad yw'n amlwg bellach fod y dyffryn wedi cartrefu prif ddiwydiant glofaol y byd.[6]

Ffurfiwyd y fwrdeistref sirol ar 1 Ebrill 1996 trwy uno Cyngor Dosbarth Cwm Rhymni ym Morgannwg Ganol â bwrdeistref Gwent a arferai fod yn Islwyn.[7] Yn 2008, o ganlyniad i gynrychiolaethau o wahanol gymunedau yn y fwrdeistref, cyflwynwyd cynllun drafft yn cynnig sawl newidiad i'r ffiniau rhwng y cymunedau.[8]

Preswylwyr enwog

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

  1. http://www.ons.gov.uk/peoplepopulationandcommunity/populationandmigration/populationestimates/datasets/populationestimatesforukenglandandwalesscotlandandnorthernireland.
  2. Concise Road Atlas: Britain. AA Publishing. 2015. t. 27. ISBN 978-0-7495-7743-8.Concise Road Atlas: Britain.
  3. "The History of the Upper Rhymney Valley". Bute Town. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-11-15. Cyrchwyd 2 May 2016.
  4. "The Rhymney Valley today". Bute Town. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 Mawrth 2016. Cyrchwyd 2 May 2016.
  5. "A History of Elliot Colliery". Winding House Project. Cyrchwyd 2 May 2016.
  6. "The Rhymney Valley today". Bute Town. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-15. Cyrchwyd 2 May 2016..
  7. "Local Government (Wales) Act 1994". The National Archives. legislation.gov.uk. Cyrchwyd 2 May 2016.
  8. "Communities boundary review". Caerphilly County Borough Council. Cyrchwyd 2 Mai 2016.

Dolenni allanol


Eginyn erthygl sydd uchod am fwrdeistref sirol Caerffili. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato