Callor

Callor
Camau yn ffrwydrad Mynydd Mazama, Oregon; enghraifft o ffurfio callor
Mathpant, tirffurf folcanig Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Ffurfiant daearegol ar wyneb y ddaear yw callor (Saesneg: caldera). Mae'n bant mawr tebyg i grochan sy'n ffurfio yn fuan ar ôl gwagio siambr magma mewn ffrwydrad llosgfynydd. Ni all y siambr magma wag gynnal y creigiau uwch ei phen mwyach, ac mae'r ddaear yn cwympo i'r gwagle, gan adael pant mawr ar yr wyneb (hyd at ddegau o gilometrau mewn diamedr). Er ei fod weithiau'n cael ei ddisgrifio fel crater, mewn gwirionedd mae'n fath o lyncdwll enfawr, gan ei fod yn cael ei ffurfio trwy ymsuddiant a chwymp yn hytrach na ffrwydrad neu ardrawiad.[1]

Cyfeiriadau

Eginyn erthygl sydd uchod am ddaeareg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato