Canolfan Llywodraethiant Cymru
Lleoliad y Ganolfan: yr adeilad coch hynafol (y Pierhead) | |
Enghraifft o: | melin drafod, canolfan ymchwil |
---|---|
Rhan o | Prifysgol Caerdydd |
Dechrau/Sefydlu | 1999 |
Prif weithredwr | Richard Wyn Jones |
Pencadlys | Bae Caerdydd |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Gwefan | https://www.cardiff.ac.uk/wales-governance-centre/about-us |
Mae Canolfan Llywodraethu Cymru (WGC) (Saesneg: Wales Governance Centre) yn ganolfan ymchwil a melin drafod (think tank) yng Nghaerdydd, Cymru, sy’n gweithredu gyda nawdd a chymorth Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth Prifysgol Caerdydd. Mae'n arbenigo mewn ymchwil i gyfraith, gwleidyddiaeth, llywodraeth ac economi wleidyddol Cymru, yn ogystal â llywodraethu tiriogaethol ehangach. y DU ac Ewrop. Fe'i sefydlwyd yn 1999, pan grewyd Senedd Cymru a’i sefydliadau datganoledig cysylltiedig, er mwyn dod i ddeall, a chyhoeddi gwybodaeth am y dull newydd hwn (datganoli) o lywodraethu.
Fe'i hyrwyddwyd yn wreiddiol gan Barry Jones ym 1999. Yn dilyn partneriaeth gyda Senedd Cymru, mae'r uned wedi symud i swyddfeydd yn Adeilad Pierhead, Bae Caerdydd. Ymhlith yr academyddion eraill sy'n gysylltiedig a'r Ganolfan y mae'r Athro Roger Awan-Scully a'r Athro Laura McAllister.
Yn ystod ein degawd cyntaf, cynhalion ni nifer o ddigwyddiadau a chyfrannu at ymchwil i Gymru ddatganoledig. Yn 2009, penodwyd y cyfarwyddwr presennol, Yr Athro Richard Wyn Jones, i ddatblygu ei gwaith ymhellach. Mae'r uned yn cynnal amrywiaeth o ymchwil, digwyddiadau a phrosiectau ynghylch themâu gwleidyddol, cyfansoddiadol a pholisi yng Nghymru. Mae hefyd yn cynorthwyo myfyrwyr doethuriaeth cofrestredig, yn cynnig cyrsiau amser llawn a rhan-amser i ôl-raddedigion ac yn croesawu myfyrwyr ac ysgolheigion o sefydliadau ledled y Deyrnas Gyfunol a gweddill y byd.
Cyhoeddiadau
Mae'r uned yn cyhoeddi ei hadroddiadau'n eitha cyson. Yn eu plith y mae'r adroddiad llawnaf ar fantolen Cymru, a wnaed gan ei hadran ddadansoddi, sef Wales’ Fiscal FutureA path to sustainability? a olygai bod mantolen Cymru bellach ar gael.[1] Nodir yn yr adroddiad mai'r diffyg rhwng y refeniw a godir yng Nghymru a'r gwario cyhoeddus yw £13.5 biliwn; nodir hefyd mai refeniw trethiant yw'r drwg, a'r rheswm am hynny yw cyflogau isel.
Cyfeiriadau
- ↑ cardiff.ac.uk; adalwyd 6 Rhagfyr 2020.
Dolenni allanol
- Gwefan Sefydliad Llywodraethiant Cymru] (Cymraeg a Saesneg)
- Twitter @WalesGovernance (Cymraeg a Saesneg)