Darganfyddiadau a dyfeisiau Cymreig

Mae'r rhestr hon o arloesiadau a darganfyddiadau Cymreig yn cyfeirio at arloesiadau a darganfyddiadau a wnaed yng Nghymru neu gan bobl o Gymru.

Cerflun Aneurin Bevan, seflydlwr y GIG

Arloesedd yng Nghymru neu gan Gymry

1557 - hafaliad = a'r symbol plws +

Robert Recorde

Meddyg a mathemategydd Cymreig oedd Robert Recorde (c. 1512 – 1558). Dyfeisiodd yr hafalliad (sef =) a hefyd cyflwynodd y symbol plws (sef <b>+</b>) i siaradwyr Saesneg yn 1557. 

1706 - y symbol pi (sef π)

Roedd William Jones, FRS (1675 – 1 Gorffennaf 1749[1]) yn fathemategydd Cymreig, sy'n fwyaf nodedig am ddefnyddio'r symbol π (y llythyren Roegaidd Pi) i gynrychioli cymhareb cylchedd cylch i'w ddiamedr am y tro cyntaf.

1794 - pêl-ferynau (ball barings)

Dyfeisiwr a meistr haearn Cymreig oedd Philip Vaughan a batentiodd y cynllun cyntaf ar gyfer pêl-ferynau ym 1794.[2][3]  Roedd Cymro arall yn flaengar iawn yn y maes hwn, sef Joseph Henry Hughes o Firmingham a gofrestrodd batent am bêl-feryn amgen yn 1877.

1810 - Sosialaeth Iwtopaidd, cwmniau cydweithredol a diwrnod 8 awr

Gwneuthurwr tecstilau Cymreig, dyngarwr a diwygiwr cymdeithasol oedd Robert Owen (14 Mai 1771 – 17 Tachwedd 1858), ac un o sylfaenwyr sosialaeth iwtopaidd a'r mudiad cydweithredol. Ymdrechodd i wella amodau gwaith mewn ffatrioedd, hyrwyddodd gymunedau sosialaidd arbrofol, a cheisiodd ddull mwy cyfunol o fagu plant, gan gynnwys rheolaeth y llywodraeth ar addysg.[4] Yn gynnar yn y 19g, cododd Robert Owen y galw am ddiwrnod deg awr ym 1810, a'i sefydlu yn ei fenter arloesol, "sosialaidd" yn New Lanark. Erbyn 1817 roedd wedi llunio nod y diwrnod wyth awr a bathodd y slogan: "Wyth awr o lafur, Wyth awr o hamdden, Wyth awr o orffwys".[5]

1826 - gambit mewn gwyddbwyll

Gambit Evans (sef y Capten William Davies Evans, o Hwlffordd) a ddyfeisiodd y symudiad gambit mewn gwyddbwyll a elwir ers hynny'n 'Gambit Evans'. Dros y blynyddoedd, defnyddiwyd y symudiad hwn gan chwaraewyr fel Paul Morphy, Jan Timman, ac yn y 1990au gan Garry Kasparov, yn fwyaf arbennig mewn buddugoliaeth 25 symudiad yn erbyn Viswanathan Anand ym Mhencampwriaeth Goffa Tal yn Riga, 1995.

1835 - y propelar sgriw i longau

Peiriannydd a dyfeisiwr Cymreig oedd Robert Griffiths (13 Rhagfyr 1805 - Mehefin 1883) o fferm Lleweni, Dyffryn Clwyd, Sir Ddinbych. Yn 1845 aeth i Ffrainc lle sefydlodd weithfeydd peiriannau a gweithfeydd haearn yn Havre. Derbyniodd batentau ar gyfer y propelar sgriw (i yrru llongau) yn 1835, peiriant caboli a llyfnu gwydr yn 1836 a nifer o batentau eraill a oedd yn ymwneud â nyts a bolltau.[6]

1836 - mwyndoddi haearn

Caiff David Thomas ei gyfri'n un o brif feistri haearn y byd. Tra'n gweithio yng Ngwaith Ynyscedwyn, Ystradgynlais, Cwm Tawe, y dyfeisiodd y broses a fyddai'n hybu'r Chwyldro Diwydiannol. Ar 5 Chwefror 1837, defnyddiodd Thomas chwythellu poeth (hot blast) i fwyndoddi mwyn haearn a glo carreg.[7]

1842 - y gell danwydd hydrogen

Ymddangosodd y cyfeiriadau cyntaf at y gell danwydd hydrogen ym 1838 mewn llythyr dyddiedig Hydref 1838 ond a gyhoeddwyd yn rhifyn Rhagfyr 1838 o The London and Edinburgh Philosophical Magazine a Journal of Science. Awdur y llythyr oedd y ffisegydd a'r bargyfreithiwr o Gymru Syr William Grove am ddatblygiad ei gelloedd tanwydd crai cyntaf. Defnyddiodd gyfuniad o blatiau haearn llen, copr a phorslen, a hydoddiant o sylffad copr ac asid gwan.[8][9]

1861 - siopa trwy'r post

Entrepreneur Cymreig oedd Syr Pryce Pryce-Jones (16 Hydref 1834 – 11 Ionawr 1920) a ffurfiodd y busnes archebu drwy’r post cyntaf, gan chwyldroi’r ffordd y gwerthid cynhyrchion. Drwy greu’r catalogau mail-order cyntaf ym 1861 – a oedd yn cynnwys nwyddau gwlân – gallai cwsmeriaid archebu drwy’r post, a chludwyd y nwyddau ar y rheilffordd.[10][11] Crynhodd y BBC ei etifeddiaeth fel "Yr arloeswr archebu drwy'r post a ddechreuodd ddiwydiant biliwn o bunnoedd".[12]

1878 - y meicroffon a'r telegraff argraffu

Roedd David Edward Hughes (16 Mai 1831 – 22 Ionawr 1900) yn ddyfeisiwr Cymreig, yn arbrofwr ymarferol, ac yn athro cerdd a oedd yn adnabyddus am ei waith ar y telegraff argraffu a'r meicroffon. Symudodd ei deulu o gwmpas ei amser ef felly efallai iddo gael ei eni yn Llundain neu Gorwen.[13] Yn 21 oed dyfeisiodd 'delegraff printio' ac yn 1860 fe'i prynwyd gan Lywodraeth yr U.D. ac o fewn ychydig flynyddoedd roedd yn cael ei defnyddio drwy Ewrop; daeth y Hughes Telegraph System hefyd yn safon drwy Ewrop.[14]

1880 - merched mewn meddygaeth, diwygio cymdeithasol

Meddyg Cymreig oedd Frances Elizabeth Hoggan (g. Morgan; 20 Rhagfyr 1843 – 5 Chwefror 1927)[15] a'r fenyw gyntaf o wledydd Prydain i dderbyn doethuriaeth mewn meddygaeth o unrhyw brifysgol yn Ewrop. Roedd hi hefyd yn ymarfer meddygaeth arloesol, yn ymchwilydd ac yn ddiwygiwr cymdeithasol a'r meddyg benywaidd cyntaf i gael ei chofrestru yng Nghymru.[16] Agorodd hi a'i gŵr y practis meddygol gŵr-a-gwraig, a par cyntaf yng ngwledydd Prydain. 

1884 - cyfreithloni amlosgiad

Amlosgodd y Doctor William Price (1800-1893) ei fab ar ben bryn yn Llantrisant yn dilyn ei farwolaeth, a ystyrid yn weithred cableddus yr adeg honno. Tra yn y llys, nododd Price, er nad oedd amlosgi yn gyfreithlon yn y DU, nid oedd ychwaith yn anghyfreithlon. Arweiniodd hyn at Ddeddf Amlosgi 1902. Heddiw, ceir cerflun o Price yn Llantrisant.[17]

1886 - ffotograffiaeth gofod dwfn

Peiriannydd a dyn busnes Cymreig oedd Isaac Roberts FRS (27 Ionawr 1829 – 17 Gorffennaf 1904)[18] a oedd yn fwyaf adnabyddus am ei waith fel seryddwr amatur, gan arloesi ym maes astro-ffotograffiaeth nifylau. Yr oedd yn aelod o Gymdeithas Seryddol Lerpwl ac yn gymrawd o'r Royal Geological Society. Derbyniodd Roberts hefyd Fedal Aur y Gymdeithas Seryddol Frenhinol yn 1895. 

1896 - peiriant hedfan cynnar

William (Bill) Frost (1848-1935) oedd y person cyntaf i hedfan awyren a oedd yn cael ei bweru gan beiriant.[19] Yr oedd yn gynllunydd Cymreig o beiriant hedfan cynnar, y Frost Airship Glider. Dechreuodd uchelgais Frost i ddyfeisio'r peiriant hedfan yn ~1880.[20] Er gwaethaf ei dlodi, llwyddodd i adeiladu'r "Frost Airship Glider", sy'n ymddangos, mewn egwyddor, i fod yn debyg i awyren esgyn fertigol, gyda thanciau llawn nwy.[21]

1896 - Seneddwr Iechyd y Cyhoedd a'r Unol Daleithiau

Ganed Dr Martha Hughes Cannon (1857-1932) yn Llandudno cyn iddi ymfudo i'r Unol Daleithiau. Gweithiodd fel meddyg a threuliodd lawer o'i hamser fel Swffragét yn ogystal ag fel diwygiwr iechyd cyhoeddus. Ym 1896 daeth yn seneddwr talaith (state senator) benywaidd cyntaf yr Unol Daleithiau a chyflwynodd filiau deddfwriaethol a chwyldrodd iechyd cyhoeddus yn Utah. Mae adeilad yr Adran Iechyd, yn Salt Lake City, wedi’i enwi ar ei hôl.[17]

1904 - yr olwyn sbâr

Er mwyn hwyluso'r broses anodd o newid teiar, dyfeisiodd Walter Davies a Tom Davies o Lanelli, y teiar sbâr yn 1904. Ar y pryd, roedd ceir modur yn cael eu gwneud heb olwynion sbâr.[22][23]

1934 - Llawfeddygaeth offthalmig

Llawfeddyg offthalmig Cymreig oedd Tudor Thomas (23 Mai 1893 – 23 Ionawr 1976) a ddaeth i sylw'r byd yn 1934 pan wnaeth waith arloesol yn impio cornbilen a adferodd olwg dyn a oedd yn ddall ers 27 mlynedd. Bu hefyd yn athro clinigol i Ysgol Feddygaeth Genedlaethol Cymru.[24]

1935 - radar

Ffisegydd Cymreig oedd Edward George Bowen, CBE, FRS (14 Ionawr 1911 – 12 Awst 1991)[25] a wnaeth gyfraniad mawr i ddatblygiad radar. Chwaraeodd ran allweddol yn sefydlu seryddiaeth radio yn Awstralia a'r Unol Daleithiau.

1936-1939 - "Tad meteoroleg fodern"

Mae David Brunt (1886-1965) yn adnabyddus am droi rhagolygon y tywydd yn wyddoniaeth a elwir yn Wyddor Tywydd). Rhwng 1936 a 1939 cyfrannodd at y ddealltwriaeth ddamcaniaethol o wasgaru niwl a defnyddiwyd y wybodaeth hon wrth ddatblygu system wasgaru niwl FIDO.[26]

1963 - cwch chwyddadwy anhyblyg (RIB)

Mae'r RIB yn gwch ysgafn, perfformiad uchel a chynhwysedd uchel wedi'i adeiladu gyda gwaelod cragen anhyblyg wedi'i gysylltu â thiwbiau aer sy'n ffurfio ochrau ac sy'n cael eu chwythu i bwysedd uchel. Mae'r dyluniad yn sefydlog, yn ysgafn, yn gyflym ac yn addas i'r môr. Mae'r coler chwyddedig yn gweithredu fel siaced achub, gan sicrhau bod y llong yn cadw ei hynofedd, hyd yn oed os y daw dŵr i'r cwch.

Yn wreiddiol, myfyrwyr a staff Coleg yr Iwerydd yn Ne Cymru oedd yn gyfrifol am ddatblygu'r RIB, dan gyfarwyddyd Desmond Hoare a oedd wedi ymddeol, ac a oedd yn bennaeth ar yr ysgol.[27]

1965 - newid pecynnau

Ym 1965 cafodd Donald Davies chwip o syniad, sef switsio pecynnau, sydd heddiw'n brif sail ar gyfer cyfathrebu data mewn rhwydweithiau cyfrifiadurol ledled y byd. Cynigiodd Davies rwydwaith cenedlaethol masnachol yn y Deyrnas Unedig a dyluniodd ac adeiladodd rwydwaith NPL ardal leol i arddangos y dechnoleg. Roedd llawer o'r rhwydweithiau cyfnewid pecynnau ardal eang a adeiladwyd yn y 1970au yn debyg iawn i'w ddyluniad gwreiddiol ef ym 1965. Rhoddodd prosiect ARPANET glod i Davies am ei ddylanwad, a oedd yn allweddol i ddatblygiad y Rhyngrwyd.[28][29][30][31][32][33][34]

1969 - y swigan lysh

Dyfeisydd y swigan lysg neu'r Alcoholmedr oedd Tom Parry Jones (27 Mawrth 1935 - 11 Ionawr 2013)[35]. Sefydlodd Lion Laboratories yng Nghaerdydd yn 1967, ac yna'r cwmni PPM Technology a Welsh Dragon Aviation. Fe'i derbyniwyd yn aelod o'r Orsedd yn 1997.

1973 - effaith Josephson

Dyfarnwyd Gwobr Nobel mewn Ffiseg i Brian Josephson, y ffisegydd Cymreig, ym 1973 am ei ragfynegiad o effaith Josephson, a wnaed yn 1962 pan oedd yn fyfyriwr PhD 22 oed ym Mhrifysgol Caergrawnt. Hyd at 2023, Josephson oedd yr unig Gymro i ennill Gwobr Nobel mewn Ffiseg. Rhannodd y wobr gyda'r ffisegwyr Leo Esaki ac Ivar Giaever.[36][37]

1976 - anadlydd electronig

Yn 1967 yng Nghaerdydd, datblygodd a marchnataodd Bill Ducie a Tom Parry Jones yr anadlydd electronig cyntaf: yr hyn a elwir ar lafar yn "swigen lysh". Sefydlodd y ddau labordy Lion yng Nghaerdydd. Peiriannydd trydanol siartredig oedd Ducie, a Tom Parry Jones yn ddarlithydd yn UWIST.[38] Cyflwynodd Deddf Diogelwch Ffyrdd 1967 y lefel uchaf o alcohol yn y gwaed cyntaf ar yrwyr yn y DU.[39]

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

  1. Roberts, Gareth Ffowc (2020). Cyfri'n Cewri. University Press Wales. t. 57. ISBN 978-1786835949.
  2. Carlisle, p. 512.
  3. Rowland, p. 160.
  4. Richard Gunderman (11 May 2021). "Robert Owen, born 250 years ago, tried to use his wealth to perfect humanity in a radically equal society". New Haven Register. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 May 2021. Cyrchwyd 11 May 2021.
  5. Marx, Karl (1915). Capital: The process of capitalist production. Translated by Samuel Moore, Edward Bibbins Aveling, and Ernest Untermann. C. H. Kerr. t. 328.
  6. Cylchgronau Cymru Ar-lein; LlGC; adalwyd 22 Mehefin 2015
  7. The National Cyclopaedia of American Biography. III. James T. White & Company. 1893. t. 360. Cyrchwyd 2020-08-27.
  8. Grove, W. R. (1838). "On a new voltaic combination". The London and Edinburgh Philosophical Magazine and Journal of Science. 3rd series 13 (84): 430–431. doi:10.1080/14786443808649618. https://archive.org/details/londonedinburghp13lond/page/430/mode/2up. Adalwyd 2 October 2013.
  9. Grove, William Robert (1839). "On Voltaic Series and the Combination of Gases by Platinum". Philosophical Magazine and Journal of Science. 3rd series 14 (86–87): 127–130. doi:10.1080/14786443908649684. https://zenodo.org/record/1431021.
  10. "Pryce-Jones: Pioneer of the Mail Order Industry". BBC. Cyrchwyd 28 February 2019.
  11. "Pryce Jones and the Welsh wool trade". BBC. Cyrchwyd 5 August 2021. Ground-breaking, Newtown-based Pryce Jones produced the world's first mail order catalogue, exporting goods across the world.
  12. Shuttleworth, Peter (25 December 2020). "Christmas: The mail-order pioneer who started a billion-pound industry". BBC News. Cyrchwyd 5 August 2021.
  13. Stephens, S. D. G. (1979). "David Edward Hughes and his audiometer". The Journal of Laryngology & Otology 93 (1): 1–6. doi:10.1017/S0022215100086667. PMID 372469. https://archive.org/details/sim_journal-of-laryngology-and-otology_1979-01_93_1/page/1.
  14. Sarkar, T. K.; Mailloux, Robert; Oliner, Arthur A. (2006). History of Wireless. USA: John Wiley and Sons. tt. 260–261. ISBN 0471783013.
  15. The Transactions of the Honourable Society of Cymmrodorion. The Society. 2003. t. 170. ISBN 978-0-9541626-0-3.
  16. "Dr Frances Hoggan". Learned Society of Wales. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-10-25. Cyrchwyd 20 December 2016.
  17. 17.0 17.1 "Welsh inventions". Wales (yn Saesneg). 2019-01-30. Cyrchwyd 2022-05-02.
  18. "Obituary Notices of Fellow Deceased". Proceedings of the Royal Society 75: 356, 362. 1904–1905. http://gallica.bnf.fr/ark:/12148/bpt6k56168b/f371.chemindefer.
  19. Beech, Richard (2013-04-15). "By jove: Ten inventions and discoveries Wales gave the world". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-06-15.
  20. Exeter and Plymouth Gazette - Thursday 10 October 1895
  21. European Patent Office GB189420431[dolen farw]
  22. Parc Howard Museum. "Stepney Spare wheel, made for early cars". BBC. Cyrchwyd 24 July 2014.
  23. "World Wide Words: Stepney". World Wide Words (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-09-23.
  24. Pioneers & Personalities Archifwyd 2016-03-03 yn y Peiriant Wayback Cardiff University
  25. R. Hanbury Brown, Harry C. Minnett and Frederick W.G. White, Edward George Bowen 1911–1991, Historical Records of Australian Science, vol.9, no.2, 1992. "Australian Academy of Science - Biographical-Edward-George-Bowen". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 21 December 2010. Cyrchwyd 2010-11-03. ; republished in Biographical Memoirs of Fellows of the Royal Society of London, 1992.
  26. "David Brunt -". Llanhilleth (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-06-15.
  27. "The RNLI Saves Lives At Sea - Atlantic College History". rnli.org.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-08-24.
  28. Needham, R. M. (2002). "Donald Watts Davies, C.B.E. 7 June 1924 – 28 May 2000". Biographical Memoirs of Fellows of the Royal Society 48: 87–96. doi:10.1098/rsbm.2002.0006. "The 1967 Gatlinburg paper was influential on the development of ARPAnet, which might otherwise have been built with less extensible technology."
  29. "Computer Pioneers - Donald W. Davies". IEEE Computer Society. Cyrchwyd 2020-02-20. The design of the ARPA network (ArpaNet) was entirely changed to adopt this technique.
  30. Roberts, Dr. Lawrence G. (November 1978). "The Evolution of Packet Switching". IEEE Invited Paper. http://www.ismlab.usf.edu/dcom/Ch10_Roberts_EvolutionPacketSwitching_IEEE_1978.pdf. Adalwyd September 10, 2017. "In nearly all respects, Davies’ original proposal, developed in late 1965, was similar to the actual networks being built today."
  31. "Pioneer: Donald Davies", Internet Hall of Fame "America’s Advanced Research Project Agency (ARPA), and the ARPANET received his network design enthusiastically and the NPL local network became the first two computer networks in the world using the technique."
  32. Berners-Lee, Tim (1999), Weaving the Web: The Past, Present and Future of the World Wide Web by its Inventor, London: Orion, p. 7, ISBN 0-75282-090-7, https://archive.org/details/weavingweb00timb/page/7 "The advances by Donald Davies, by Paul Baran, and by Vint Cerf, Bob Khan and colleagues had already happened in the 1970s but were only just becoming pervasive."
  33. Feder, Barnaby J. (2000-06-04). "Donald W. Davies, 75, Dies; Helped Refine Data Networks". The New York Times (yn Saesneg). ISSN 0362-4331. Cyrchwyd 2020-01-10. Donald W. Davies, who proposed a method for transmitting data that made the Internet possible
  34. Harris, Trevor, Who is the Father of the Internet? The case for Donald Watts Davies, https://www.academia.edu/378261, adalwyd 10 July 2013
  35. The Telegraph, Obituary: Tom Parry Jones (Saesneg). Retrieved 16 Ionawr 2013
  36. "Brian D. Josephson", Encyclopædia Britannica.
  37. Glorfeld, Jeff (18 March 2019). "Science history: The man attempting to merge physics and the paranormal". cosmosmagazine.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 March 2019. Cyrchwyd 21 March 2019.
  38. "Obituary: Tom Parry Jones". The Telegraph. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-01-12. Cyrchwyd 16 January 2013.
  39. "Drink driving law and motoring history". drinkdriving.org. Cyrchwyd 16 January 2013.