Coch dan adain
Coch dan adain Turdus iliacus | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Passeriformes |
Teulu: | Turdidae |
Genws: | Turdus[*] |
Rhywogaeth: | Turdus iliacus |
Enw deuenwol | |
Turdus iliacus
| |
![]() | |
Dosbarthiad y rhywogaeth |
Aderyn a rhywogaeth o adar yw Coch dan adain (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: cochion dan adain) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Turdus iliacus; yr enw Saesneg arno yw Redwing. Mae'n perthyn i deulu'r Brychion (Lladin: Turdidae) sydd yn urdd y Passeriformes.[1] Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain ac mae i'w ganfod yng Nghymru.
Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn T. iliacus, sef enw'r rhywogaeth.[2]
Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod yn Asia ac Ewrop. Mae'n aderyn cyffredin yng Nghymru yn y gaeaf, ond nid ymddengys fod cofnod iddo nythu yma, er fod nifer fychan o barau yn nythu yn Yr Alban ar brydiau. Mae'r Coch Dan-aden yn aderyn mudol, sy'n symud tua'r de a thua'r gorllewin yn y gaeaf. Maent yn nythu mewn fforestydd, ond yn adeiladu'r nyth mewn llwyni neu ar lawr.
Mae'n nythu trwy rannau gogleddol Ewrop ac Asia ac yn aderyn cyfarwydd ymhellach i'r de yn y gaeaf.
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/d/d8/Redwing_nest.jpg/250px-Redwing_nest.jpg)
Gellir ei adnabod o'r cefn brown a bol wyn gyda rhesi neu smotiau tywyll, y lliw coch ar yr ochrau ac o dan yr adenydd a'r llinell wen amlwg uwchben y llygad. Mae tua'r un faint a Bronfraith. Ei brif fwyd yw pryfed yn yr haf ac aeron yn y gaeaf. Yn y gaeaf mae'n aml yn ymgasglu'n heidiau mawr, weithiau yn gymysg gyda'r Socan Eira.
Teulu
Mae'r coch dan adain yn perthyn i deulu'r Brychion (Lladin: Turdidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:
Rhestr Wicidata:
rhywogaeth | enw tacson | delwedd |
---|---|---|
Bronfraith | Turdus philomelos | ![]() |
Brych daear Crossley | Geokichla crossleyi | ![]() |
Brych daear Molwcaidd | Geokichla dumasi | |
Brych daear Siberia | Geokichla sibirica | ![]() |
Brych gyddfddu | Turdus atrogularis | ![]() |
Geokichla cinerea | Geokichla cinerea | ![]() |
Geokichla interpres | Geokichla interpres | ![]() |
Mwyalch Adeinlwyd | Turdus boulboul | ![]() |
Mwyalchen | Turdus merula | ![]() |
Mwyalchen y mynydd | Turdus torquatus | ![]() |
Socan eira | Turdus pilaris | ![]() |
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
- ↑ [https://web.archive.org/web/20040610130433/http://www.cymdeithasedwardllwyd.org.uk/ Archifwyd 2004-06-10 yn y Peiriant Wayback Gwefan Cymdeithas Edward Llwyd]; adalwyd 30 Medi 2016.
- ↑ Gwefan Avibase; adalwyd 3 Hydref 2016.
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/7/77/Open_Access_logo_PLoS_transparent.svg/12px-Open_Access_logo_PLoS_transparent.svg.png)
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/cy/thumb/c/c4/Llen-Natur-1-transparent.png/45px-Llen-Natur-1-transparent.png)