Coginiaeth Cymru

Mae coginio yng Nghymru yn ymwneud â choginio a pharatoi bwyd a ryseitiau traddodiadol a modern yng Nghymru.

Hanes

Cyfyngid bwydydd traddodiadol Cymru gan ei daearyddiaeth. Pridd tenau ac asidig sydd ar draws ucheldiroedd y wlad, ond ceir digon o bridd da i dyfu ŷd, gwair yn y bryniau a'r cymoedd i fwydo defaid a gwartheg, ac afonydd, llynnoedd ac arfordiroedd i ddarparu amrywiaeth eang o bysgod.[1] Nododd Gerallt Gymro ym 1188 taw cig oen a dafad, llaeth, caws, menyn, a cheirch oedd lluniaeth y Cymry, ac yn gyffredinol roedd hwn yn wir am y mwyafrif o'r boblogaeth hyd y 19eg ganrif.[2]

Cymdeithas nomadaidd i raddau oedd gan y Celtiaid cynnar. Parhaodd yr arfer o drawstrefa (hafota a hendrefa) mewn rhannau o Gymru hyd ddiwedd yr 17g: symudodd yr amaethwr, ei deulu a'i anifeiliaid i'r hafod ar y mynydd yn yr haf, a dychwelodd i'r hendref ar lawr gwlad yn y gaeaf. Teithiodd penaethiaid a thywysogion â'u llysoedd ar hyd a lled eu tiriogaethau gan dderbyn taliad ar ffurf bwyd gan eu deiliaid. Gosodir y taliadau manwl mewn cyfreithiau'r Oesoedd Canol, yn seiliedig ar Gyfraith Hywel Dda: cwrw, bara, cig (gan amlaf yn fyw), a mêl, ac weithiau ceirch, caws, a menyn. Y rhain oedd lluniaeth y werin, yn ogystal â bwydydd darfodus megis pysgod a physgod cregyn a llysiau, yn enwedig cennin a bresych.[1]

Hyd yn oed mewn cymdeithas sefydlocach, sylfaenol oedd technegau coginio'r werin. Ym mhob cartref cyffredin roedd crochan neu bair mawr uwchben tân agored. Y pryd o fwyd clasurol a goginir yn y badell hon oedd cawl Cymreig, ac yn hanesyddol cafodd ei ailwresogi a'i ychwanegu ato dros gyfnod o ddyddiau. Gwneid gwahanol fathau o botes yn y crochan hefyd, a chymysgedd o flawd ceirch a dŵr yn sail iddynt. O'r traddodiad hwn datblygodd llymru.[1]

Cawliau a stiwiau

Heddiw, gweinir cawl yn aml am gwrs cyntaf pryd o fwyd. Ystyrir yn saig genedlaethol Cymru gan nifer.[3]

Cig

Cig oen yw cig cenedlaethol Cymru heddiw, ond yn hanesyddol fe'i bwyteid ar wyliau ac achosion arbennig yn unig. Cig moch oedd y prif gig yn niet y werin, ac ar un adeg cedwid mochyn neu ddau gan bob tŷ yng nghefn gwlad. Roedd twlc i'w weld ar waelod yr ardd mewn nifer o dai rhes y gymunedau glo yng nghymoedd y de. Un o fridiau gwartheg brodorol Cymru yw'r fuwch ddu Gymreig sy'n rhoi cig brau a blasus.[4]

Bwyd y môr

Bara lawr a chocos ar werth ym Marchnad Abertawe.

Mae bwyd y môr yn nodweddiadol o gwrs cyntaf, megis wystrys, cocos, a bara lawr. Arferid casglu niferoedd mawr o wystrys ger arfordir Gŵyr, ond yn llai mae’r dalfeydd heddiw. Parheir i gasglu cocos pob dydd mewn nifer o bentrefi Gŵyr. Gwerthir cocos ffres o Benclawdd gyda phupur a finegr am fyrbryd canol dydd. Dywedodd Richard Burton taw "cafiâr y Cymro" yw bara lawr. Yn yr hen ddyddiau, cymysgid y gwymon hwn gyda blawd ceirch, ei ffrio â bacwn a’i fwyta am frecwast neu swper. Heddiw mae nifer o fwytai yn ei weini fel cwrs cyntaf neu gyda chig neu bysgod am brif saig.[3] Dau bysgodyn sy'n bwysig iawn yng nghoginiaeth Cymru, yn enwedig y gorllewin, yw pennog a macrell. Y ffordd fwyaf cyffredin o'u paratoi yw eu piclo mewn perlysiau a sbeisys. Mae brithyll y môr hefyd yn boblogaidd.[4]

Caws

Mor hen yw'r traddodiad o wneud caws yng Nghymru mae sôn amdano yng Nghyfraith Hywel: wedi ysgariad, aeth caws mewn heli i'r wraig a chaws wedi ei hongian i'r gŵr. Ers y 1970au yn enwedig mae'r diwydiant caws wedi ffynnu yng Nghymru, a cheir amryw o gawsiau caled a meddal gan gynnwys rhai a wneir o laeth dafad a gafr. Caws Caerffili yw'r math enwocaf, ac ymhlith yr eraill mae Llanboidy, Llangloffan, Teifi, Caws Cenarth, Pencarreg, Pant Ysgawn, a Chaws y Fenni.[4]

Bwyd llysieuol

Selsig Morgannwg, y dewis llysieuol nodweddiadol ar fwydlen Gymreig.

Saig lysieuol enwocaf Cymru, sydd ar gael mewn caffis a bwytai ar draws y wlad, yw selsig Morgannwg. Ei gynhwysion yw caws, briwsion bara, cennin a pherlysiau.

Pobi

Mae gan Gymru nifer o fwydydd pob traddodiadol sy'n boblogaidd â'r werin hyd heddiw, gan gynnwys bara brith a theisen lap. Offeryn a welid yn y gegin Gymreig draddodiadol yw'r radell neu'r llechfaen, a ddefnyddir i bobi crempogau a phice ar y maen neu deisenni cri.[5]

Pwdinau

Dim ond ychydig o bwdinau sy'n unigryw i Gymru. Pwdin enwocaf y wlad yw llymru: briwsion torth geirch mewn powlen o laeth enwyn. Hen ffefryn yw pwdin reis, a weinir yn aml ar ôl rhost.[4]

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 1.2 Davidson, Alan. The Oxford Companion to Food (Rhydychen, Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2006), t. 835.
  2. Sutherland, Mared Wyn. Encyclopedia of Food and Culture (Gale, 2003), WALES.
  3. 3.0 3.1 Julie Brake a Christine Jones. Teach Yourself World Cultures: Wales (Hodder & Stoughton, 2004), t. 142.
  4. 4.0 4.1 4.2 4.3 Brake a Jones, World Cultures: Wales (2004), t.143.
  5. Brake a Jones, World Cultures: Wales (2004), t. 144.

Darllen pellach

  • Gilli Davies, Tastes of Wales (Llundain: BBC Books, 1990).
  • Bobby Freeman, A Book of Welsh Bakestone Cookery (Tal-y-bont, Ceredigion: Y Lolfa, 1987).
  • Bobby Freeman, First Catch Your Peacock: A Book of Welsh Food (Tal-y-bont, Ceredigion: Y Lolfa, 1980). Ailgyhoeddwyd fel Traditional Food from Wales (Efrog Newydd: Hippocrene, 1997).
  • R. Elwyn Hughes, Dysgl Bren a Dysgl Arian: Nodiadau ar Hanes Bwyd yng Nghymru (Tal-y-bont, Ceredigion: Y Lolfa, 2003)
  • Geoffrey Osborne Taylor, Traditional Welsh Cookery (Llundain: Robert Hale, 1997).
  • S. Minwel Tibbott, Amser Bwyd: Detholiad o Gyfarwyddiadau Cymreig (Caerdydd: Llyfrau Amgueddfa Cymru, 1977).
  • S. Minwel Tibbott, Baking in Wales (Caerdydd: Llyfrau Amgueddfa Cymru, 1991).