Diwylliant Cymru

Dylanwadwyd ar ddiwylliant Cymru gan lu o bethau: cenedl, iaith, crefydd, a daearyddiaeth. Diwylliant arbennig y Cymry Cymraeg yw diwylliant Cymraeg. Mae'n rhan hanfodol o ddiwylliant Cymru ond hefyd yn rhan o hanes Y Wladfa ym Mhatagonia, a chymunedau eraill yn y byd sy'n Gymraeg eu hiaith.

Y diwylliant gwerin a thraddodiadol

Nodir diwylliant traddodiadol Cymru gan etifeddiaeth y Celtiaid wedi ei chyfuno â Christnogaeth, hen chwedlau a straeon sydd wedi ymgynefino â'r llên gwerin a'r traddodiad llenyddol, a bywyd y werin yn y cefn gwlad.

Mytholeg a'r hen grefydd

Y deunydd mytholegol y gwelir ei olion yn llenyddiaeth gynnar a chanoloesol Cymru a hefyd, i ryw raddau, yn ei chwedlau gwerin yw mytholeg Gymreig. Mae'n rhan o draddodiad hynafol Cymru ond mae'n perthyn hefyd i fyd ehangach mytholeg Geltaidd a mytholeg ryngwladol. Ceir y deunydd hwn mewn sawl ffynhonnell, yn gerddi cynnar (yn Llyfr Taliesin, er enghraifft), yn chwedlau Cymraeg cynhenid yr Oesoedd Canol (yn enwedig yn Culhwch ac Olwen a Pedair Cainc y Mabinogi), mewn cyfeiriadau yng ngwaith Beirdd y Tywysogion a Beirdd yr Uchelwyr, yn y casgliad o ddeunydd mnemonig a elwir Trioedd Ynys Prydain, ac mewn chwedlau gwerin, diweddar yn eu ffurf bresennol ond sydd o darddiad hynafol.

Llên gwerin

Mae llên gwerin Cymru yn enw cyfleus am y corff amrywiol o chwedlau, traddodiadau, coelion ac arferion poblogaidd sy'n rhan bwysig o etifeddiaeth ddiwylliannol y wlad. Mae Cymru yn un o'r gwledydd Celtaidd a cheir elfennau yn ei llên gwerin sy'n gyffredin i'r gwledydd hynny. Ceir yn ogystal nifer o elfennau a elwir yn "fotiffau llên gwerin rhyngwladol" ac sydd i'w gweld mewn sawl diwylliant arall. Yn ogystal wrth gwrs mae digon o nodweddion cynhenid Gymreig yn y gwaddol diwylliannol a elwir heddiw yn llên gwerin Cymru.

Gwyliau

Nawddsant Cymru ydy Dewi Sant. Dethlir Dydd Gŵyl Dewi ar 1 Mawrth, a chred rhai pobl y dylai fod yn wyliau cyhoeddus yng Nghymru.[1] Mae'r 16 Medi (y diwrnod pan ddechreuodd gwrthryfel Owain Glyndŵr) a'r 11 Rhagfyr (marwolaeth Llywelyn ein Llyw Olaf) wedi cael eu hawgrymu fel diwrnodau posib eraill ar gyfer gwyliau cyhoeddus.

Y gwyliau tymhorol traddodiadol yng Nghymru yw:

Traddodiadau ac arferion lleol

   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Y celfyddydau

Cerddoriaeth

Mae gan gerddoriaeth Cymru hanes hir, ond ychydig iawn o wybodaeth fanwl sydd gennym cyn y 18g pan ddechreuodd hynafiaethwyr ymddiddori yn y pwnc. Cyfeirir at Gymru'n aml fel "Gwlad y Gân", yn ystrydebol braidd.

Llenyddiaeth

Ac eithrio llenyddiaeth glasurol, llenyddiaeth Gymraeg yw'r hynaf yn Ewrop. Mae gan y Gymraeg draddodiad cyfoethog o lenyddiaeth sy'n dyddio o'r 6g hyd heddiw. Oherwydd eu bod yn ysgrifennu mewn iaith â mwy o bobl yn ei deall, mae ysgrifenwyr llenyddiaeth Saesneg Cymru yn aml wedi llwyddo i ddenu cynulleidfaoedd llawer mwy na'u cyd-wladwyr sy'n ysgrifennu yn yr iaith Gymraeg yn unig. Dwy enghraifft adnabyddus o hyn yw'r beirdd byd-enwog Dylan Thomas ac R. S. Thomas.

Celf

Prif: Celf Cymru

Er i lenyddiaeth a cherddoriaeth y wlad ddangos sawl traddodiad unigryw, mae celf Cymru i raddau helaeth wedi dibynnu ar yr un ffurfiau ac arddulliau a geir yng ngweldydd eraill Prydain. Sonir yn aml am gelf Cymru, neu gelf yng Nghymru, i gynnwys y gweithiau niferus a wnaed gan arlunwyr estron yn y wlad, yn enwedig tirluniau.

Dawns

   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Theatr

   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Diwylliant poblogaidd

Cerddoriaeth boblogaidd

Mae Cymru'n enwog am eu cerddorion cyfoes fel Manic Street Preachers, Catatonia, Tom Jones, a Charlotte Church.

Ffilm

Mae ffilm yng Nghymru, ai mewn Cymraeg neu Saesneg, wedi bod yn symbol o ddiwylliant y wlad ers blynyddoedd, ac wedi hyrwyddo enw Cymru ar draws y byd. Mae nifer o actorion a chyfarwyddwyr enwog wedi dod o Gymru, yn cynnwys Richard Burton a Peter Greenaway.

Teledu

Y prif ddarlledwyr teledu yng Nghymru yw BBC Cymru, S4C, ac ITV Wales. Yn ddiweddar mae S4C wedi cynhyrchu sawl cyfres ddrama Gymraeg o fri, gan gynnwys Y Gwyll, Byw Celwydd, a 35 Diwrnod.

Chwaraeon

Dywedir yn aml taw rygbi'r undeb yw mabolgamp genedlaethol Cymru, er mae pêl-droed yn denu mwy o wylwyr i'r maes. Bu'r Cymry hefyd yn dangos eu medr yn snwcer, dartiau, golff, paffio, ac athletau. Ymhlith yr hen chwaraeon bu cnapan, bando, pêl-droed traddodiadol, a chwarae pêl.

Coginiaeth

Mae bwydydd Cymreig yn cynnwys cawl, teisen gri, bara lawr, bara brith, selsig Morgannwg, a Welsh rarebit.

Symbolau cenedlaethol

Mae'n debyg taw'r Ddraig Goch, sy'n ymddangos ar y faner genedlaethol, yw symbol amlycaf Cymru. Ceir hefyd y genhinen Bedr a'r genhinen. Hen Wlad fy Nhadau yw'r anthem genedlaethol.

Cyfeiriadau

  1. 'St David's Day holiday would promote Wales' WalesOnline. 27-02-2007. Adalwyd ar 10-07-2010