Corhedydd y graig

Corhedydd y graig
Anthus petrosus

,

Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Passeriformes
Teulu: Motacillidae
Genws: pipit[*]
Rhywogaeth: Anthus petrosus
Enw deuenwol
Anthus petrosus
Dosbarthiad y rhywogaeth

Aderyn a rhywogaeth o adar yw Corhedydd y graig (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: corhedyddion y graig) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Anthus petrosus; yr enw Saesneg arno yw Rock pipit. Mae'n perthyn i deulu'r Siglennod (Lladin: Motacillidae) sydd yn urdd y Passeriformes. Mae'r teulu'n cynnwys y siglennod yn ogystal a'r corhedyddion.[1] Mae'n aderyn gweddol gyffredin o gwmpas y traethau yng Nghymru.

Mae'n aderyn gweddol gyffredin ar hyd traethau creigiog yn Ewrop o Lydaw hyd Rwsia. Nid yw'n aderyn mudol fel rheol, ond mae'r adar sy'n nythu yng ngweldydd Llychlyn a Rwsia yn symud tua'r de yn y gaeaf.

Fel y rhan fwyaf o'r corhedyddion mae'n aderyn brown ar y cefn a brown golau gyda marciau duon ar y fron a'r bol. Gall fod yn anodd ei wahaniaethu oddi wrth gorhedyddion eraill, megis Gorhedydd y Waun, ond mae coesau twyll yn nodwedd i sylwi arni. Pryfed yw'r prif fwyd.

Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn A. petrosus, sef enw'r rhywogaeth.[2]

Teulu

Mae'r corhedydd y graig yn perthyn i deulu'r Siglennod (Lladin: Motacillidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:

Rhestr Wicidata:

rhywogaeth enw tacson delwedd
Anthus chloris Anthus chloris
Corhedydd De Georgia Anthus antarcticus
Corhedydd cefnwyrdd Anthus hodgsoni
Corhedydd euraid Tmetothylacus tenellus
Corhedydd gyddfgoch Anthus cervinus
Corhedydd melyn Anthus campestris
Corhedydd y coed Anthus trivialis
Corhedydd y dŵr Anthus spinoletta
Corhedydd y graig Anthus petrosus
Corhedydd y waun Anthus pratensis
Siglen goedwig Dendronanthus indicus
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Bwyd

Pryfed mân o’r traeth yn arferol, ond cofnodwyd y canlynol pan fuont o dan bwysau:

  • 16 Rhagfyr 2010: Bore 14 Rhag 2010 corhedydd y graig yn pigo am sbarion yn y lôn ym mhen uchaf Stryd Llyn, Caernarfon. Eira mawr ar ei ffordd - eto![3]

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

  1. [https://web.archive.org/web/20040610130433/http://www.cymdeithasedwardllwyd.org.uk/ Archifwyd 2004-06-10 yn y Peiriant Wayback Gwefan Cymdeithas Edward Llwyd]; adalwyd 30 Medi 2016.
  2. Gwefan Avibase; adalwyd 3 Hydref 2016.
  3. Tywyddiadur Llên Natur [1] trwy Fwletin Llên Natur [2]
Safonwyd yr enw Corhedydd y graig gan un o brosiectau . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.