Cyfrin gyngor

Corff sy'n cynghori pen gwladwriaeth yw cyfrin gyngor. Fel rheol mae cyfrin gynghorau yn rhan o drefn llywodraethol breniniaethau, byddent yn cynghori'r teyrn ynglŷn â sut i weithredu ei awdurdod gweithredol. Ystyr y gair "cyfrin" yw "cyfrinach(ol)"; yn hanesyddol roedd y cyfrin gyngor yn bwyllgor o gynghorwyr agosaf y brenin neu'r frenhines, a oedd yn rhoi cyngor cyfrinachol ar faterion y deyrnas.

Mewn gwledydd sydd ddim yn freniniaethau, y corff sy'n cyfateb i'r cyfrin gyngor yw'r cabinet, ond mewn rhai gwledydd, mae'r cabinet yn bwyllgor o'r cyfrin gyngor ei hun.

Cyfrin gynghorau

Cyfrin gynghorau sy'n dal i weithredu

  • Baner Awstralia Awstralia : Cyngor Gweithredol Ffederal Awstralia
  • Baner Brwnei Brwnei : Cyfrin Gyngor Brwnei
  • Baner Canada Canada : Cyfrin Gyngor y Frenhines ar gyfer Canada
    • Swyddfa'r Cyfrin Gyngor
    • Cynghorau Gweithredol taleithiau a thiriogaethau
      • Cyngor Gweithredol Alberta
      • Cyngor Gweithredol British Columbia
      • Cyngor Gweithredol Manitoba
      • Cyngor Gweithredol Newfoundland a Labrador
      • Cyngor Gweithredol New Brunswick
      • Cyngor Gweithredol Québec
      • Cyngor Gweithredol Nova Scotia
      • Cyngor Gweithredol Ontario
      • Cyngor Gweithredol Ynys Prince Edward
      • Cyngor Gweithredol Saskatchewan
      • Cyngor Gweithredol Yukon
      • Cyngor Gweithredol Tiriogaethau'r Gogledd-orllewin
      • Cyngor Gweithredol Nunavut
  • Baner Denmarc Denmarc : Cyngor Gladwriaeth Denmarc
  • Baner Hong Cong Hong Cong : Cyngor Gweithredol Hong Cong
  • Baner Seland Newydd Seland Newydd : Cyngor Gweithredol Seland Newydd
  • Baner Tonga Tonga : Cyfrin Gyngor Tonga
  • Baner Gwlad Tai Gwlad Tai : Cyfrin Gyngor Gwlad Tai
  • Baner Y Deyrnas Unedig Y Deyrnas Unedig : Cyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig
    • Pwyllgor Ynadol y Cyfrin Gyngor
    • Swyddfa'r Cyfrin Gyngor

Cyn gyfrin gynghorau

  • Baner Ffrainc Ffrainc : Conseil du Roi (diddymwyd ym 1799; cymerwyd ei le gan y Conseil d'État)
  • Baner Yr Almaen Yr Almaen : Geheimrat (diddymwyd ym 1918; cymerwyd ei le gan y Cyngor y Dalaith)
  • Baner Gweriniaeth Iwerddon Gweriniaeth Iwerddon : Cyfrin Gyngor Iwerddon (diddymwyd ym 1922)
  • Baner Japan Japan : Cyfrin Gyngor Japan (diddymwyd ym 1947)
  • Baner Gogledd Iwerddon Gogledd Iwerddon : Cyfrin Gyngor Gogledd Iwerddon (dim yn weithredol er 1972)
  • Baner Rwsia Rwsia : Cyfrin Gyngor Goruchaf (diddymwyd ym 1730)
  • Baner Yr Alban Yr Alban : Cyfrin Gyngor yr Alban (diddymwyd ym 1707)
  • Baner Sweden Sweden : Privy Council of Sweden (diddymwyd ym 1974; cymerodd cabinet y llywodraeth ei le)
  • Baner Y Deyrnas Unedig Y Deyrnas Unedig :
    • Cyngor Gweithredol Canada Uchaf 1792-1841; cymerwyd ei le gan Cyngor Gweithredol Talaith Canada
    • Cyngor Gweithredol Canada Isaf 1791-1841; cymerwyd ei le gan Cyngor Gweithredol Talaith Canada
    • Cyngor Gweithredol Talaith Canada 1841-1867; cymerwyd ei le gan Cyfrin Gyngor y Frenhines ar gyfer Canada