Deddfau Gwrachyddiaeth

Bu nifer o Ddeddfau Gwrachyddiaeth yn hanesyddol yng Nghymru, Lloegr, yr Alban, ac Iwerddon a oedd yn ceisio rheoli gwrachyddiaeth. Roedd cosbau llym am ei hymarfer neu, yn hwyrach, esgus bod yn ei hymarfer.

Deddf Gwrachyddiaeth 1542

Deddf Gwrachyddiaeth 1541
Senedd Lloegr
Teitl HirDeddf yn erbyn Consuriaethau, Gwrachyddiaethau, Swyngyfaredd, a Chyfareddau

An Act against Conjurations, Witchcrafts, Sorcery and Inchantments.
Dyfyniad33 Hen. 8. c. 8
Dyddiadau
Cydsyniad brenhinol1 Ebrill 1542
Diddymwyd1547
Deddfwriaeth arall
Diddymwyd ganDeddf Diwygio Cyfraith Statud 1863
Statws: Diddymwyd

Oherwydd tensiynau crefyddol yr 16eg a'r 17eg canrifoedd yn Lloegr, cyflwynodd Harri VIII Ddeddf Gwrachyddiaeth 1542[1] a gweithredu nifer o gosbau llym yn erbyn ymarfer gwrachyddiaeth.

Y Ddeddf hon oedd y ddeddf gyntaf i ddiffinio gwrachyddiaeth yn ffeloniaeth, trosedd y gellid ei chosbi â marwolaeth, gan gynnwys atafaelu nwyddau ac eiddo'r person.[2] Yr oedd yn erbyn y gyfraith i:

... use devise practise or exercise, or cause to be devysed practised or exercised, any Invovacons or cojuracons of Sprites witchecraftes enchauntementes or sorceries to thentent to fynde money or treasure or to waste consume or destroy any persone in his bodie membres, or to pvoke [provoke] any persone to unlawfull love, or for any other unlawfull intente or purpose ... or for dispite of Cryste, or for lucre of money, dygge up or pull downe any Crosse or Crosses or by such Invovacons or cojuracons of Sprites witchecraftes enchauntementes or sorceries or any of them take upon them to tell or declare where goodes stollen or lost shall become ...[3]

Tynnwyd y Ddeddf hon hefyd yr hawl i fraint clerigwyr am y rhai a gafodd eu heuogfarnu o wrachyddiaeth. Roedd yr hawl hon yn eich achub rhag cael eich crogi a oeddech yn gallu darllen paragraff o'r Beibl.[3] Diddymwyd y statud hon gan fab Harri, Edward VI, ym 1547.[4]

Deddf Gwrachyddiaeth 1562

Deddf Gwrachyddiaeth 1562
Senedd Lloegr
Teitl HirDeddf yn erbyn Consuriaethau, Cyfareddau, a Gwrachyddiaethau

An Act Against Conjurations, Enchantments and Witchcrafts.
Dyfyniad5 Eliz. 1. c. 16
Dyddiadau
Cydsyniad brenhinol10 Ebrill 1563
Deddfwriaeth arall
Diddymwyd ganDeddf Gwrachyddiaeth 1603
Statws: Diddymwyd
Testun gwreiddiol y ddeddf

Pasiodd Elisabeth I ddeddf yn erbyn gwrachyddiaeth ym 1562,[1] sef Deddf yn erbyn Consuriaethau, Cyfareddau, a Gwrachyddiaethau (Act Against Conjurations, Enchantments and Witchcrafts) (5 Elis. 1. c. 16). Yr oedd, i ryw raddau, yn fwy trugarog i'r rhai a gafwyd yn euog o wrachyddiaeth na'r ddeddf gynt, gyda'r defnydd o'r gosb eithaf pan yr achoswyd niwed yn unig; fel arall, carcharwyd y parti euog am gyfnod. Eto, nid oedd modd i'r parti euog fanteisio ar fraint clerigwyr.[5]

Yn ôl cofnodion, allan o 1,158 dioddefwr, amheuwyd i 228, neu 20.6%, gael eu lladd gan wrachyddiaeth. Yn ogystal, amheuwyd i dim ond 31 person gael eu lladd gan wenwyno. Allan o 157 person a gyhuddwyd o lad drwy wrachyddiaeth, rhyddfarnwyd tua hanner ohonynt. Dim ond naw o'r cyhuddedig oedd yn ddynion.[6]

Deddf Gwrachyddiaeth 1563 yr Alban

Deddf Gwrachyddiaeth (yr Alban) 1563
Teitl HirYnghylch defnyddio gwrachyddiaethau, swyngyfaredd, a meirw-ddewiniaeth.

Anent the using of witchcraftis sorsarie and necromancie.
Dyfyniad1563 c. 9

O dan Ddeddf Gwrachyddiaeth 1563 yr Alban, a ddaeth i rym 4 Mehefin 1563,[7] yr oedd ymarfer gwrachyddiaeth a chwrdd â gwrachod ill ddau yn droseddau marwol.[8] Yr oedd y Ddeddf hon yn weithredol yn yr Alban hyd nes iddi gael ei diddymu yn sgil diwygiad gan Dŷ'r Arglwyddi er mwyn paratoi am Ddeddf Gwrachyddiaeth 1735 yr uniad rhwng Lloegr a'r Alban.[9][10]

Deddf Gwrachyddiaeth 1586 Iwerddon

Deddf Gwrachyddiaeth (Iwerddon) 1586
Senedd Iwerddon
Teitl HirDeddf yn erbyn Gwrachyddiaeth a Swyngyfaredd

An Act against Witchcraft and Sorcerie
Dyfyniad28 Elis. 1. c. 2 (I)

Yr oedd y Ddeddf hon yn Iwerddon (28 Elis. 1. c. 2 (I), Deddf yn erbyn Gwrachyddiaeth a Swyngyfaredd (An Act against Witchcraft and Sorcerie)) yn dra thebyg i Ddeddf Gwrachyddiaeth 1562 Lloegr. Yr oedd yn ffeloniaeth heb fraint eglwyswr i achosi marwolaeth drwy wrachyddiaeth. Y gosb gyntaf oedd carcharu am flwyddyn gan gynnwys chwe awr yn y rhigod. Y gosb am yr eildro oedd carcharu am oes. Y gosb am achosi marwolaeth oedd gosb eithaf.[11]

Treial gwrachod Islandmagee ym 1711 oedd yr erlyniad olaf o dan y ddeddf hon.[12] Nid yw'n gwbl glir a ddienyddiwyd unrhyw un o dan y ddeddf hon. O'r rhai a gyhuddwyd o achos marwolaeth drwy wrachyddiaeth, cafwyd William Sellor yn euog yn nhreial Islandmagee, ond nid oes cofnodion o'i ddedfryd;[12] bu farw Florence Newton yn ystod ei threial ym 1661;[13] rhyddfarnwyd Marion Fisher yn gan Syr James Barry; a lladdwyd gwrach heb brawf drwy lindagu yn Antrim ym 1698.[12]

Diddymwyd Deddf 1586 ym 1821.[14]

Deddfau cysylltiedig

  • Seiliwyd Deddf Atal Gwrachydddiaeth, 1957 yn Ne Affrica, sydd dal i fod mewn grym heddiw,[15] ar Ddeddf Gwrachyddiaeth 1735.[16]
  • An Act, Against Conjuration, Witchcraft, and Dealing with Evil and Wicked Spirits, a basiwyd gan Lys Generol Gwladfa Bae Massachusetts, Hydref 1692.[17][18]

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Nodiadau

Dyfyniadau

  1. 1.0 1.1 "WHICH WITCH (CRAFT ACT) IS WHICH?". Parliamentary Archives: Inside the Act Room. 28 October 2020. Cyrchwyd 8 September 2022.
  2. Gibson 2006, t. 1
  3. 3.0 3.1 Gibson 2006, t. 2
  4. Brosseau Gardner 2004, t. 254
  5. Gibson 2006, tt. 3–4
  6. Kesselring, K.(2016-05-12). ‘Murder’s Crimson Badge’: Homicide in the Age of Shakespeare. In The Oxford Handbook of the Age of Shakespeare. : Oxford University Press.
  7. Lizanne Henderson, Witchcraft and Folk Belief in the Age of Enlightenment: Scotland, 1670-1740 (Palgrave Macmillan UK, 2016) p.329
  8. Gibson 2006, t. 7
  9. Larner 1981, t. 78
  10. Anentis Witchcraftis, "The Scottish witchcraft act." Church history 74.1 (2005): 39. ar-lein
  11. "1586: 28 Elizabeth 1 c. 2: An Act against Witchcraft and Sorcerie". The Statutes Project. 24 January 2019. Cyrchwyd 24 March 2023.
  12. 12.0 12.1 12.2
  13. Sneddon, Andrew (November 2019). "Select document: Florence Newton's trial for witchcraft, Cork, 1661: Sir William Aston's transcript". Irish Historical Studies 43 (164): 298–319. doi:10.1017/ihs.2019.55. https://pure.ulster.ac.uk/en/publications/acc15427-23e9-472c-a214-0458e79eeea9.
  14. 1 & 2 Geo. 4 c. 18 An Act to repeal an Act, made in the Parliament of Ireland in the Twenty eighth Year of the Reign of Queen Elizabeth, against Witchcraft and Sorcery
  15. "Witchcraft Suppression Act 3 of 1957" (PDF). Government of South Africa. Cyrchwyd 16 October 2012.
  16. "The 1957 Witchcraft Act". Quackdown. 29 August 2011. Cyrchwyd 17 October 2012.
  17. Acts and laws, passed by the Great and General Court or Assembly of Their Majesties province of the Massachusetts-Bay, in New-England. Begun at Boston, the eighth day of June, 1692. And continued by adjournment, unto Wednesday the twelfth day of October following. June 2006. Cyrchwyd 2018-02-11 – drwy University of Michigan.
  18. The Charters and General Laws of the Colony and Province of Massachusetts. T. B. Wait and Co. 1814. tt. 735-736. Cyrchwyd 2018-02-11 – drwy Internet Archive.

Llyfryddiaeth

  • Brosseau Gardner, Gerald (2004), The Meaning of Witchcraft, Red Wheel/Weiser, ISBN 978-1-57863-309-8
  • Gibson, Marion (2006), "Witchcraft in the Courts", in Gibson, Marion, Witchcraft And Society in England And America, 1550–1750, Continuum International Publishing Group, pp. 1–9, ISBN 978-0-8264-8300-3
  • Larner, Christine (1981), Enemies of God, Chatto and Windus, ISBN 0-7011-2424-5

Darllen pellach

  • John Newton and Jo Bath (gol.), Witchcraft and the Act of 1604 (Leiden: Brill, 2008)
  • P G Maxwell-Stuart, The Great Scottish Witch-Hunt (Stroud: Tempus, 2007)