Demograffeg Ewrop yw hanes niferoedd a nodweddion pobloedd (demograffeg) cyfandir Ewrop. Yn 2005, amcangyfrifwyd gan y Cenhedloedd Unedig fod poblogaeth Ewrop yn 728 miliwn, ychydig dros un rhan o naw o boblogaeth y byd. Ganrif yn ôl, roedd poblogaeth Ewrop bron yn chwarter poblogaeth y byd, ond mae poblogaeth gwledydd tu allan i Ewrop wedi tyfu'n gyflymach yn ystod y cyfnod yma.
Yn ôl y Cenhedloedd Unedig, disgwylir i'r boblogaeth leihau dros y blynyddoedd nesaf:
Blwyddyn
Poblogaeth mewn miloedd
1950
547,405
1960
604,406
1970
655,862
1980
692,435
1990
721,390
2000
728,463
2005
728,389
2010
725,786
2020
714,959
2030
698,140
2040
677,191
2050
653,323
Y gwledydd mwyaf o ran poblogaeth yw yr Almaen (83,251,851), y Deyrnas Unedig (61,100,835), Ffrainc (59,765,983), yr Eidal (58,751,711). Mae poblogaeth Rwsia yn 142,200,000, a phoblogaeth Twrci yn 70,586,256, ond dim ond rhan o'r gwledydd hyn sydd yn Ewrop, a'r gweddill yn Asia.
Abkhazia2·Ajaria1·Akrotiri a Dhekelia ·Åland ·Azores ·Crimea ·De Ossetia2·Føroyar ·Gagauzia ·Gibraltar ·Gogledd Cyprus1·Jan Mayen ·Jersey ·Kosovo·Madeira4·Nagorno-Karabakh1·Nakhchivan1·Svalbard ·Transnistria·Ynys y Garn ·Yr Ynys Las5·Ynys Manaw
Dynodir gwlad anghydnabyddedig neu a gydnabyddir yn rhannol gan lythrennau italig. 1 Yn Ne Orllewin Asia yn gyfan gwbwl. 2 Yn rhannol neu'n gyfan gwbwl yn Asia, yn dibynnu ar ddiffiniadau'r ffiniau rhwng Ewrop ac Asia. 3 Gyda'r mwyafrif o'i thir yn Asia. 4 Ar Blât Affrica. 5 Ar Blât Gogledd America.