Derwydd
![]() | |
Enghraifft o: | hen broffesiwn ![]() |
---|---|
Math | crefyddwr ![]() |
![]() |
Y Celtiaid |
---|
![]() |
Llwythau eraill |
Rhanbarthau hynafol |
Mytholeg Oidelig |
Ieithoedd Celtiaid |
Prif fudiadau gwleidyddol |
Hanes Cymru |
---|
![]() |
Cynhanes Cymru |
Oes y Celtiaid |
Cyfnod modern cynnar |
Teyrnasoedd |
Rhestr digwyddiadau |
Iaith |
Crefydd |
Llenyddiaeth |
Deddfau pwysig
|
Mytholeg a symbolau |
Hanesyddiaeth |
![]() |
- Am y pentref, gweler, Derwydd, Sir Gaerfyrddin.
Roedd derwydd yn aelod o ddosbarth o offeiriaid a gwybodusion ymhlith y Celtiaid yn y cyfnod cyn-Gristnogol. Ceir y cyfeiriadau atynt yn bennaf ym Mhrydain a Gâl. Y gred gyffredinol oedd bod y gair yn dod o'r gair derwen, ond credir yn awr nad oes cysylltiad â'r goeden; daw o'r Frythoneg *do-are-wid (rhoddodd *are-wid heb do- y gair Cymraeg arwydd).
Tystiolaeth
Awduron Groeg a Rhufeinig
Ceir y cyfeiriad cyntaf at y Druidae gan awduron Groegaidd megis Soton o Alexandria, a ddyfynnir gan Diogenes Laertius yn yr 2g CCC. Cyfeiria nifer o awduron Rhufeinig at druides, yn arbennig gan Iŵl Cesar yn ei lyfr Commentarii de Bello Gallico. Dywed fod llawer o ddarpar-dderwyddon o Gâl yn cael eu gyrru i Brydain i'w haddysgu. Dywed awduron eraill megis Diodorus Siculus a Strabo fod y dosbarth offeiriadol Celtaidd yn cynnwys derwyddon, beirdd (bardi) ac ofyddion (vates). Dywed Diodorus Siculus a rhai awduron eraill eu bod yn aberthu bodau dynol i'r duwiau.
Iŵl Cesar
Yn ôl Iŵl Cesar, roedd y derwyddon "yn ymwneud â phethau cysegredig, yn ymddwyn yr aberthau cyhoeddus a phreifat, ac yn dehongli holl faterion crefydd." Dywedodd fod nifer o ddynion ifanc yn mynd at ar gyfer addysg a bod y rhain yn parchu'r Derwyddon yn fawr. Yn ôl Cesar, roedd y derwyddon yn "parchu bron bob dadl" a byddent yn dyfarnu ar drosedd, llofruddiaeth, "anghydfod ynghylch etifeddiaeth". Os na fyddai rhywun yn parchu dyfarniad y derwyddon, byddent yn cael ei gwahardd ac fe ystyrir hyn y gosb waethaf.[1]
Adroddodd Cesar fod "un yn llywyddu" gyda'r "awdurdod goruchaf" ymhlith y derwyddon. Ar farwolaeth yr Archdderwydd hwn, byddai derwydd arall yn cymryd ei le os ystyrir yn rhagorol; ond mi fyddai etholiad os oedd mwy nag un yn "gyfartal" neu weithiau byddai brwydr.[1]
Mi fyddai'r derwyddon, dyweded Cesar, yn "ymgasglu am dymor penodedig o'r flwyddyn mewn lle cysegredig yn nhiriogaethau'r Carnutes, yr hwn a gyfrifir yn rhanbarth canolog holl Gâl." Credir i draddodiad y derwydd ddeillio o ynys Brydain ac yna daeth i Gâl; ac mi fyddai'r rhai a oedd eisiau addysg bellach yn mynd i Brydain i astudio.[1]
Ni fyddai'r Derwyddon yn rhyfela nac chwaith yn talu gwrogaeth. Anfonwyd llawer gan eu rhieni a'u perthnasau atynt ac mi fyddent yn treulio cymaint ag ugain mlynedd yn hyfforddi ag yn dwyn i gof llawer o benillion. Nid oeddent yn ei hystyried yn gyfreithlon i i ysgrifennu'r penillion hyn ond mi fyddent yn defnyddio llythrennau Groegaidd ar gyfer pob mater arall.[1]
Credent "nad oedd eneidiau yn darfod, ond yn myned ar ôl marw o'r naill gorff i'r llall". Roeddent hefyd yn trafod gyda'r ifanc am "barchu'r sêr a'u symudiad, parchu maint y byd a'n daear, parchu natur pethau, parchu gallu a mawredd y duwiau anfarwol." Credai'r Celtiaid eu bod yn ddigidyddion i'r Duw "Dis". Dywedodd Cesar fod y Galiaid a fyddai'n mynd i frwydr neu yn mynd i berygl yn cyflogi'r Derwyddon i aberthu dynion neu'n addo y byddent yn gwneud.[1]
Plinius yr Hynaf
Yn ôl Plinius yr Hynaf (23-79 OC) yn ei lyfr Hanes Naturiol y ceir y cyfeiriad cynharaf ar ran y dderwen a'r uchelwydd yn nefodau'r derwyddon:
- Y mae'r [derwyddon] yn meddwl bod popeth sy'n tyfu arni (y dderwen) wedi ei anfon o'r nefoedd... Dyw'r uchelwydd ddim i'w gael yn aml ar y dderwen, a phan geir ef y mae'n cael ei hel gyda defodaeth grefyddol arbennig, os yn bosibl ar chweched dydd y lleuad... Maent yn galw'r uchelwydd wrth enw sy'n golygu, yn eu hiaith hwy, "gwella popeth". Ar ôl paratoi ar gyfer aberth a gwledd o dan y coed, y maent yn dod â dau darw yno ac yn clymu eu cyrn ynghyd am y tro cyntaf. Mae'r offeiriad, wedi ei wisgo mewn gwyn, yn dringo'r goeden ac yn torri'r uchelwydd â chryman aur, ac fe'i delir gan eraill mewn clogwyn gwyn. Yna y maent yn lladd yr ebyrth, gan weddïo ar dduw i fendithio'r rhodd... Maent yn credu bod yr uchelwydd, o'i gymryd mewn diod, yn rhoi ffrwythlondeb i anifeiliaid diffrwyth ac yn gwrthweithio pob gwenwyn.[2]
Ymddengys fod derwydd yn gorfod dysgu corff helaeth o ddysgeidiaeth ar ei gof, gan nad oeddynt yn ei ysgrifennu. Gwaharddwyd dinasyddion Rhufeinig rhag ymwneud â defodau derwyddol gan yr ymerawdwr Awgwstws ac yn ddiweddarach eto gan Claudius yn 54 OC.

Mae'r hanesydd Rhufeinig Tacitus yn disgrifio'r ymosodiad ar Ynys Môn gan fyddin Rufeinig dan Suetonius Paulinus. Yn wynebu'r milwyr Rhufeinig dros Afon Menai roedd derwyddon a gwragedd (ni ddywedir bod y gwragedd yn dderwyddon) yn cyhoeddi melltithion arnynt. Dywed Tacitus wrth y Rhufeiniaid dorri'r llwyni coed lle cynhelid eu defodau. Mae awgrym fod yr ynys o bwysigrwydd arbennig i'r derwyddon; efallai y gellir cysylltu hyn a'r offrymau niferus a chyfoethog a ddarganfuwyd yn Llyn Cerrig Bach.
Ffynonellau Cymreig a Gwyddelig
Mae cyfeiriad hwyr ar dderwyddon gan Nennius, sy'n dweud yn ei Historia Brittonum i Wrtheyrn alw deuddeg derwydd ato wedi i Sant Garmon ei esgymuno o'r eglwys Gristionogol. Ceir yr enghraifft gynharaf o'r gair Cymraeg derwydd ei hun yn y gerdd ddarogan Armes Prydain (tua 930), ond mae'n sicr mae gair arall am broffwyd neu ddaroganwr ydyw yn hytrach na "derwydd" yn yr ystyr glasurol.[3]
Ceir llawer o gyfeiriadau at dderwyddon yn llenyddiaeth gynnar Iwerddon, lle maent yn ymddangos fel cynghorwyr y brenhinoedd. Yng Nghylch Wlster mae Cathbad, prif dderwydd llys Conchobar, brenin Wlster, yn cael ei ddilyn gan gant o ddynion ieuanc sy'n dymuno dysgu ei grefft. Yn hanesion Iwerddon gall y derwyddon weld y dyfodol a bwrw hud.
Derwyddon diweddar
Ym 1649, mynegodd yr hynafiaethydd John Aubrey'r farn mai'r derwyddon oedd yn gyfrifol am adeiladu Côr y Cewri. Mae'r farn honno dal yn boblogaidd heddiw, ac mae derwyddon modern yn cynnal defodau yno ar y dydd hwyaf o'r flwyddyn. Dechreuodd diddordeb gynyddu yn y derwyddon yn y 18g, gyda William Stukeley a chyfrol Henry Rowlands, Mona Antiqua Restaurata yn ddylanwadol iawn. Efallai mai'r prif ddylanwad oedd Iolo Morganwg. Cyhoeddwyd nifer o lyfrau yn cynnwys deunydd Iolo ar ôl ei farwolaeth, er enghraifft Barddas (dwy gyfrol: 1862, 1874). Honnai'r awdur ei fod yn gasgliad o destunau hynafol beirdd ar athroniaeth dderwyddol y Cymry, er y credir bellach mai ffugiadau Iolo ei hun yw'r rhan fwyaf. Gelwir gradd uchaf aelodau Gorsedd y Beirdd yn "dderwyddon."
Cyfeiriadau
- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 Caesar, Julius (1910). Caesar's Commentaries on the Gallic war : literally translated, with explanatory notes. University of California Libraries. New York : Hinds & Noble. tt. 146–149.
- ↑ Hanes Naturiol XVI.249, dyfynnwyd gan Gwyn Thomas yn Duwiau'r Celtiaid (Gwasg Carreg Gwalch, 1992).
- ↑ Ifor Williams (gol.), Armes Prydain.
Llyfryddiaeth
- Aldhouse-Green, Miranda J., Exploring the World of the Druids (Llundain: Thames and Hudson, 1997)
- Chadwick, Nora K., The Druids (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1966)
- Fitzpatrick, A. P., Who were the Druids? (Llundain: Weidenfeld & Nicolson, 1997)
- Hutton, Ronald, The Druids (Llundain: Hambledon Continuum, 2007)
- Piggott, Stuart, The Druids (Llundain: Thames and Hudson, 1975)