Diserth

Diserth
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth2,269, 2,523 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Ddinbych Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd372.3 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.3°N 3.4°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000153 Edit this on Wikidata
Cod OSSJ056789 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruGareth Davies (Ceidwadwyr)
AS/au y DUBecky Gittins (Llafur)
Am y pentrefan yn ne Powys gweler Diserth, Powys.'

Pentref canolig ei faint a chymuned yn Sir Ddinbych, Cymru, yw Diserth ("Cymorth – Sain" Diserth )[1][2] neu Dyserth.[3][4] Mae'n gorwedd ychydig o filltiroedd i'r de o Brestatyn ac i'r dwyrain o dref Rhuddlan. Poblogaeth 2566 (Cyfrifiad 2001).

Ffotograff a gymerwyd rhwng 1890 a 1900

Yn yr Oesoedd Canol, Diserth oedd canolfan cwmwd Prestatyn, yng nghantref Tegeingl. Yma, ar gyrion y pentref presennol, roedd plasdy Botryddan, canolfan y Conwyaid, un o deuluoedd uchelwrol grymusaf y Gogledd. Yn ôl yr hynafiaethydd Edward Lhuyd, claddwyd y bardd ac ysgolhaig Dafydd Ddu o Hiraddug (bu farw tua 1370) yn eglwys Diserth.

Ger y pentref ceir olion hen chwareli a rhaeadrau, ac mae bryn deniadol Moel Hiraddug yn y cyffiniau. Gorwedd ar yr A5151 ac mae rhan o Lwybr y Gogledd yn rhedeg heibio i'r pentref.

Lôn yn Niserth

Cyfrifiad 2011

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Diserth (pob oed) (2,269)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Diserth) (444)
  
20.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Diserth) (1369)
  
60.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Diserth) (344)
  
35.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau

  1. Gwyddoniadur Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru, 2008), tud. 295
  2. Dictionary of Place-names in Wales (Gwasg Gomer, 2007), tud. 125
  3. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  4. British Place Names; adalwyd 15 Ionawr 2022
  5. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  7. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.