Llandyrnog

Llandyrnog
Mathcymuned, pentref Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,096, 1,103 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Ddinbych Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd1,803.56 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.175°N 3.337°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000161 Edit this on Wikidata
Cod OSSJ107650 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruGareth Davies (Ceidwadwyr)
AS/au y DUBecky Gittins (Llafur)

Pentref a chymuned yn Sir Ddinbych, Cymru, yw Llandyrnog("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif ar y ffordd B5429, tua tair milltir i'r dwyrain o dref Dinbych a milltir i'r dwyrain o Afon Clwyd. Y prif gyflogwr yn y pentref yw Hufenfa Llandyrnog, sy'n cynhyrchu caws. I'r dwyrain o'r pentref mae bryngaer Moel Arthur. Ceir yma ddwy dafarn, y Golden Lion a'r Ceffyl Gwyn, a siop. Ceir yma hefyd ar gyrion y pentref ffatri laeth a chaws enfawr.

Mae'r eglwys leol yn un o bedair eglwys ganoloesol yr ardal. Cysegrwyd yr eglwys i Sant Teyrnog neu Tyrnog; credir fod yr adeilad presennol yn dyddio o'r 15g, ond mae'r fynwent gron yn awgrymu ei bod yn sefydliad hynafol iawn. Adferwyd yr adeilad gan y pensaer Fictoraidd Eden Nesfield rhwng 1876 a 1878. Ar ochr ddwyreniol yr eglwys mae ffenestr liw nodedig.

Bu yma ysgol ers 1840 ac yn 1856 roedd 120 o blant ar y gofrestr.[1] Yn 2009 roedd 27 o blant.[2]

Pentref Llandyrnog (canol y llun) o Foel Arthur

Cyfrifiad 2011

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llandyrnog (pob oed) (1,096)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llandyrnog) (352)
  
33.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llandyrnog) (686)
  
62.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llandyrnog) (137)
  
32.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau

  1. The Hand-book for the Vale of Clwyd gan William Davis, Argraffwyd gan Isaac Clarke 1856 tudalen 172
  2. Gwefan Sir Ddinbych[dolen farw]
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.