Dylife

Dylife
Mathpentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.532°N 3.6798°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN863940 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruRussell George (Ceidwadwyr)
AS/au y DUCraig Williams (Ceidwadwr)

Pentref bychan yng nghymuned Llanbryn-mair, Powys, Cymru, yw Dylife.[1][2] Saif yn ardal Maldwyn yn uchel ar lethrau gogledd-orllewinol Pumlumon ar lôn wledig sy'n dringo o bentref Penegoes, ger Machynlleth ac un filltir i'r gorllewin o'r B4518 Llanidloes - Llanbrynmair. Mae'n rhan o blwyf eglwysig Penegoes.[3]

Mae tarddle Afon Twymyn ger Dylife. Llifa'r afon trwy geunant yma. Ceir sawl llyn gerllaw, yn cynnwys Glaslyn a Bugeilyn. Mae'n ardal eithaf glwyb ac anghysbell. Gorwedd tarddle Afon Hafren dros y gwaundir tua 3 milltir i'r de.

Yn y bryniau o gwmpas mae pobl wedi mwyngloddio am blwm ers canrifoedd lawer. Credir bod y Rhufeiniaid yn weithgar yma. yn y 18g datblygodd pentref mwyngloddio pur sylweddol yn Nylife. Bu'n ganolfan ddiwydiannol leol yn y 19g. Un o'r rhai a ddenwyd yno i weithio yn ei ieuenctid oedd yr hanesydd llenyddiaeth Charles Ashton. Erbyn hyn dim ond llond llaw o dai a geir yno.

Olion hen waith plwm yn Nylife

Heddiw mae Dylife yn atyniad i'r rhai sy'n ymddiddori mewn hanes mwyngloddio yng Nghymru. Mae Mwynglawdd Dylife yn ardal gadwriaethol. Mae Llwybr Glyndŵr yn mynd trwyddo.

Datguddwyd cofeb gerllaw ym 1990, ar gyfer darlledydd y BBC, Lewis John Wynford Vaughan-Thomas CBE, a adeiladwyd wedi ei farwolaeth ym 1987.[4]

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Russell George (Ceidwadwyr)[5] ac yn Senedd y DU gan Craig Williams (Ceidwadwr).[6]

Cyfeiriadau