Talgarth

Talgarth
Mathtref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,724, 1,701 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd5,531 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.993°N 3.232°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000343 Edit this on Wikidata
Cod OSSO1533 Edit this on Wikidata
Cod postLD3 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruJames Evans (Ceidwadwyr)
AS/au y DUDavid Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol)

Tref a chymuned ym Mhowys, Cymru, yw Talgarth.[1] Saif yn ardal Brycheiniog. Yma y cadwyd Llyfr Coch Talgarth, llawysgrif Gymraeg a ysgrifennwyd tua'r flwyddyn 1400.

Mae Caerdydd 57 km i ffwrdd o Talgarth ac mae Llundain yn 222.1 km. Y ddinas agosaf ydy Henffordd sy'n 36.6 km i ffwrdd.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol).[3]

Tŵr Plasdy Porthamal, lle'r arhosodd Harri Tudur ar ei daith drwy Gymru 10 Awst 1485 yn ôl traddodiad. Chwalwyd y plasdy ei hun ar ddechrau'r 19g.[4]

Adeiladau a chofadeiladau

  • Eglwys Sant Gwenllïan
  • Gwesty'r Tŵr (1873)
  • Melin Talgarth
  • Neuadd y Dref
  • Penywyrlod (siambr gladdu)

Siambrau claddu

O fewn ardal tua dwy filltir sgwâr ceir 16 siambr claddu o Oes Ganol y Cerrig (y mesolythig) a ystyrir yn nodedig iawn. Siambrau hirion yw'r rhan fwyaf, gyda cherrig anferthol yn eu gorchuddio fel nenfydau; mae eu cynlluniau mewnol yn hynod o gymhleth ac yn arwydd fod yma bobl soffistigedig iawn, amaethwyr cynnar gyda defodau claddu arbennig. Canfuwyd yr offeryn cerdd hynaf yng Nghymru ym Mhenywyrlod, Talgarth a ddyddiwyd i c. 4000 BC; darganfuwyd y siambr gan ffermwr lleol a'r offeryn cerdd ym Mehefin 1972 .

Cyfrifiad 2011

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Talgarth (pob oed) (1,724)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Talgarth) (198)
  
11.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Talgarth) (1069)
  
62%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Talgarth) (238)
  
32.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
5%

Pobl nodedig

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. "Gwefan Senedd Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-10. Cyrchwyd 2021-12-30.
  3. Gwefan Senedd y DU
  4. gatehouse-gazetteer.info; adalwyd 20 Ionawr 2016
  5. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  7. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.