Gair
Sain neu gyfuniad o seiniau llafar mewn iaith sy'n cyfleu ystyr yw gair. Mae'n un o seiliau hanfodol pob iaith. Ei swyddogaeth yw rhoi enw i wrthrych neu ddynodi ansawdd, syniad, meddwl, gweithred, ac ati. Mae dau neu ragor o eiriau gyda'i gilydd yn ffurfio cymal neu frawddeg. Geirdarddiad yw'r term am y gangen o ieithyddiaeth sy'n astudio tarddiad geiriau a'u hanes.
Yn drosiadol, defnyddir yr ymadrodd "Y Gair" i ddynodi'r Ysgruthyrau Cristionogol, ac yn arbennig y Testament Newydd. Gall gair golygu "annerchiad" neu "araith" yn ogystal.
Dosbarthau o eiriau yn ôl swyddogaeth gramadegol
- Berfau
- Enwau
- Ansoddeiriau
- Rhagenwau
- Arddodiaid
- Adferfau
- Cysyllteiriau
- Y fannod
Gweler hefyd
- Gair du
- Gair llanw
- Gair mwys
- Gair teg
- Geirdarddiad
Cyfeiriadau
- Geiriadur Prifysgol Cymru, d.g. gair.
- Peter Wynn Thomas, Gramadeg y Gymraeg (Gwasg Prifysgol Cymru, 1996)