Gemau Olympaidd yr Haf 1924
Math o gyfrwng | Gemau Olympaidd yr Haf |
---|---|
Dyddiad | 1924 |
Dechreuwyd | 4 Mai 1924 |
Daeth i ben | 27 Gorffennaf 1924 |
Rhagflaenwyd gan | Gemau Olympaidd yr Haf 1920 |
Olynwyd gan | Gemau Olympaidd yr Haf 1928 |
Lleoliad | Yves du Manoir Stadium |
Gwladwriaeth | Ffrainc |
Gwefan | https://olympics.com/en/olympic-games/paris-1924 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cynhaliwyd Gemau Olympaidd yr Haf 1924 (Ffrangeg: Jeux olympiques d'été de 1924), digwyddiad aml-chwaraeon a adnabyddir yn swyddogol fel Gemau'r VIII Olympiad. Cynhaliwyd y Seremoni Agoriadol ar 5 Gorffennaf ond roedd rhaid cystadlaethau wedi cychwyn ers 4 Mai. Dyma'r ail Gemau Olympaidd yr Haf i'w cynnal ym Mharis yn dilyn Gemau 1900 yn golygu mai dyma'r ddinas cyntaf i gynnal Gemau Olympaidd yr Haf ar fwy nag un achlysur.
Y Gemau
Cafwyd 3,089 o athletwyr - 2,954 o ddynion a 135 o ferched - o 44 o wledydd gwahanol yn cystadlu mewn 17 o gampau gwahanol.[1]
Defnyddiwyd yr arwyddair Citius, Altius, Fortius, sy'n Lladin am "Cyflymach, Uwch, Cryfach" am y tro cyntaf yn ystod Gemau 1924[2] a cafodd yr athletwyr eu lleoli mewn Pentref Olympaidd am y tro cyntaf.
Enillodd yr athletwyr Harold Abrahams ac Eric Liddell y 100m a'r 400m ar ran Prydain Fawr. Gwrthododd Liddell a chystadlu yn y 100m gan fod y ras yn cael ei gynnal ar ddydd Sul ac yntau yn Gristion ymroddedig. Cafodd yr hanes ei adrodd yn y ffilm Chariots of Fire ym 1981.
Cafodd Gweriniaeth Iwerddon ei chydnabod fel gwlad annibynnol o fewn y Mudiad Olympaidd am y tro cyntaf ym Mharis gyda 49 o athletwyr yn cystadlu o dan faner y wlad yn ystod y Gemau.
Cyfeiriadau
- ↑ (PDF) The Ninth Olympiad. Amsterdam 1928. Official Report (Adroddiad). Archifwyd o y gwreiddiol ar 2008-04-08. https://web.archive.org/web/20080408184510/http://www.la84foundation.org/6oic/OfficialReports/1924/1924.pdf. Adalwyd 2022-01-31.
- ↑ "Opening Ceremony" (PDF). International Olympics Committee. 2002. t. 3. Cyrchwyd 23 August 2012.