Gemau'r Gymanwlad 2014
20ed Gemau'r Gymanwlad | |||
---|---|---|---|
Campau | 17 | ||
Seremoni agoriadol | 23 Gorffennaf | ||
Seremoni cau | 3 Awst | ||
|
Enghraifft o'r canlynol | digwyddiad aml-chwaraeon |
---|---|
Dyddiad | 2014 |
Dechreuwyd | 23 Gorffennaf 2014 |
Daeth i ben | 3 Awst 2014 |
Cyfres | Gemau'r Gymanwlad |
Lleoliad | Glasgow |
Rhanbarth | Strathclyde |
Gwefan | http://www.glasgow2014.com/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Gemau'r Gymanwlad 2014 oedd yr ugeinfed tro i Gemau'r Gymanwlad gael eu cynnal. Glasgow, Yr Alban, oedd cartref y Gemau am y trydydd tro yn eu hanes gyda'r Gemau'n digwydd rhwng 23 Gorffennaf a 3 Awst. Cafwyd cyfarfod i ddewis y ddinas fyddai'n cynnal y Gemau yn ystod Cyfarfod Ffederasiwn Gemau'r Gymanwlad yn Colombo, Sri Lanca ym mis Tachwedd 2007 gyda Glasgow yn ennill y bleidlais gyda 47 pleidlais i 24 Abuja, Nigeria.
Diflanodd Saethyddiaeth a Tenis o'r rhestr chwaraeon gyda Triathlon yn dychwelyd am y tro cyntaf ers 2006 a Jiwdo am y tro cyntaf ers 2002.
Seremoni Agoriadol
Un o nodweddion fwyaf y seremoni agoriadol, ac un oedd ychydig yn heriol, oedd dewis y gân Freedom Come-All-Ye yn drefn. O gofio hanes Y Gymanwlad a rôl y frenhiniaeth ynddi, roedd perfformio cân weriniaethol a gwrth-imperialaidd a chenedlaetholgar Albanaidd gref, gan Hamish Henderson yn ddewis annisgwyl. Perfformiwyd y gân gan y soprano o Dde Affrica, Pumeza Matshikiza.[1] Dewisiwyd Matshikiza gan fod cyfeiriad at dreflan Nyanga yn y gân - treflan ddu a fu'n ymladd yn erbyn effeithiau apartheid.
Uchafbwyntiau'r Gemau
Llwyddodd Ciribati i gipio ei medal cyntaf erioed yn Ngemau'r Gymanwlad wrth i David Katoatau ennill medal aur yng nghategori 105 kg y Codi pwysau[2] a casglodd Kirani James fedal aur cyntaf Grenada yn y 400m i ddynion ar y trac Athletau. Y nofiwr o Dde Affrica, Chad le Clos, gasglodd y nifer fwyaf o fedalau wrth iddo ennill dwy fedal aur, un arian a phedair efydd[3]. Patricia Bezzoubenko o Ganada gafodd y nifer fwyaf o fedalau aur wrth iddi gipio pum medal aur ac un medal efydd yn y gystadleuaeth Gymnasteg rhythmig[4].
Daeth perfformiad gorau Cymru yn y gystadleuaeth Gymnasteg rhythmig hefyd wrth i Francesca Jones gipio un medal aur a phum medal arian yn ogystal â Gwobr David Dixon am y perfformiad a chyfraniad gorau gan unrhyw athletwr yn ystod y Gemau[5].
Chwaraeon
Timau yn cystadlu
Roedd 70 o'r 71 o wledydd yn y Gymanwlad yn Ngemau'r Gymanwlad 2014 gyda Gambia yn tynnu yn ôl o'r Gemau ac o'r Gymanwlad ym mis Hydref 2013[6]
Medalau'r Cymry
Roed 233[7] aelod yn nhîm Cymru a gyda 36 medal, dyma oedd y perffromiad gorau erioed gan Gymru yn nhermau'r nifer o fedalau enillwyd.
Medal | Enw | Cystadleuaeth | |
---|---|---|---|
Aur | Francesca Jones | Gymnasteg rhythmig | Rhuban |
Aur | Natalie Powell | Jiwdo | Merched 58 kg |
Aur | Jazz Carlin | Nofio | 800m Dull rhydd merched |
Aur | Georgia Davies | Nofio | 50m Dull cefn merched |
Aur | Geraint Thomas | Beicio | Ras Lôn Dynion |
Arian | Francesca Jones Laura Halford Nikara Jenkins |
Gymnasteg rhythmig | Amryddawn (tîm) |
Arian | Francesca Jones | Gymnasteg rhythmig | Amryddawn unigol |
Arian | Elena Allen | Saethu | Sgît |
Arian | Francesca Jones | Gymnasteg rhythmig | Cylch |
Arian | Francesca Jones | Gymnasteg rhythmig | Pastynau |
Arian | Francesca Jones | Gymnasteg rhythmig | Pêl |
Arian | Georgia Davies | Nofio | 100m Dull cefn |
Arian | Elinor Barker | Beicio | Ras pwyntiau 25 km |
Arian | Aled Davies | Athletau | Disgen F42/44 |
Arian | Sally Peake | Athletau | Naid bolyn merched |
Arian | Jazz Carlin | Nofio | 200m Dull rhydd merched |
Efydd | Laura Halford | Gymnasteg rhythmig | Amryddawn unigol |
Efydd | Calum Jarvis | Nofio | 200m Dull rhydd |
Efydd | Matt Ellis Ieuan Williams |
Beicio | Ras tandem yn erbyn y cloc |
Efydd | Laura Halford | Gymnasteg rhythmig | Pêl |
Efydd | Elinor Barker | Beicio | Ras "scratch" |
Efydd | Michaela Breeze | Codi Pwysau | Merched 58 kg |
Efydd | Jack Thomas | Nofio | 200m Dull rhydd S14 |
Efydd | Mark Shaw | Jiwdo | 100 kg Dynion |
Efydd | Paul Taylor Jonathan Tomlinson Mark Wyatt |
Bowlio lawnt | Triawd |
Efydd | Rhys Jones | Athletau | 100m dynion T37 |
Efydd | Craig Pilling | Reslo | Rhydd 57 kg |
Efydd | Lizzie Beddoe Georgina Hockenhull Jessica Hogg Angel Romaeo Raer Theaker |
Gymnasteg | Amryddawn (tîm) |
Efydd | Daniel Jervis | Nofio | 1500m Dull rhydd |
Efydd | Geraint Thomas | Beicio | Treial amser dynion |
Efydd | Sean McGoldrick | Bocsio | Pwysau bantam |
Efydd | Nathan Thorley | Bocsio | Pwysau trwm ysgafn |
Efydd | Georgina Hockenhull | Gymnasteg | Trawst |
Efydd | Ashley Williams | Bocsio | Pwysau pryf ysgafn |
Efydd | Joseph Cordina | Bocsio | Pwysau ysgafn |
Cyfeiriadau
- ↑ https://www.heraldscotland.com/news/13171590.the-games-opens-a-ceremony-of-gallusness-with-a-powerful-charity-theme/
- ↑ "Glasgow 2014: David Katoatau claims first ever Ciribati medal published=BBC Sport". 2014-07-30.
- ↑ "Chad le Clos reaches seven medal target". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-10-22. Cyrchwyd 2014-08-10. Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Patricia Bezzoubenko wins 6th medal at Commonwealth Games". 2014-07-26. Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Gwobr olaf y gemau yn mynd i Frankie Jones". 2014-08-04. Unknown parameter
|Published=
ignored (help) - ↑ "The Gambia withdraw from Glasgow 2014". 2013-10-07. Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Commonwealth Games 2014 team has been finalised". 2014-07-04. Unknown parameter
|Published=
ignored (help)
Gweler hefyd
Dolenni allanol
- (Saesneg) Gwefan swyddogol Gemau'r Gymanwlad Archifwyd 2008-07-23 yn y Peiriant Wayback.
- (Saesneg) Cyngor Gemau Gymanwlad Cymru
Rhagflaenydd: Delhi Newydd |
Gemau'r Gymanwlad Lleoliad y Gemau |
Olynydd: Gold Coast,Queensland |