Saethyddiaeth

Saethyddiaeth
Math o gyfrwngmath o chwaraeon, disgyblaeth chwaraeon Edit this on Wikidata
Mathchwaraeon, shooting, chwaraeon olympaidd Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Cystadleuaeth saethyddiaeth ym Mönchengladbach, yr Almaen, Mehefin 1983
Saethydd Tibetaidd, 1938

Mae saethyddiaeth yn un o gampau'r byd chwaraeon lle defnyddir bwa saeth, mae hefyd yn ddisgyblaeth ac yn grefft sy'n cael ei ymarfer yn yr oriau hamdden. Defnyddir y bwa i saethu'r saeth tuag at darged, a hynny, fel arfer fel rhan o gystadleuaeth; mae saethyddiaeth yn un o gampau y Gemau Olympaidd Modern. "Saethydd" yw'r term am berson sy'n ymwneud â saethyddiaeth.

Hela a lladd oedd pwrpas y bwa saeth yn wreiddiol, ond cafwyd hefyd gystadleuthau mor bell yn ôl â'r Oesoedd Canol ac ni sefydlwyd cymdeithas i hybu a rhoi trefn ar y ddisgyblaeth hon tan 1676 pan ffurfiwyd The Company of Scottish Archers ac ni chyrhaeddodd y grefft yr UDA tan 1844 pan sefydlwyd The Grand National Archery Society yn Efrog Newydd.

Daw'r gair "saethyddiaeth" o'r taflegryn hwnnw a ddefnyddiwyd gan fodau dynol cynhanes: y saeth. Y Rhufeiniaid a fenthyciodd y gair i ni; Lladin: sagitta. Cofnodwyd y gair am y tro cyntaf yn y C13 yn Llyfr Iorwerth (LlI 93), "Saeth, fyr[dlyg]".[1] Benthyciad yw'r gair archery o'r Lladin 'arcus', sef bwa.

Gweler hefyd

  • Saethu - gemau gyda gynnau ee saethu colomennod clai

Cyfeiriadau

  1. Geiriadur Prifysgol Cymru Arlein (CPC); adalwyd 9 Awst 2016.