Gordyndra

Cerflun o'r Ymerawdwr Rhufeinig Gaius Messius Quintus Traianus Decius o Amgueddfa Capitoline; mae ei wyneb yn dangos y gordyndra o gario baich y wlad ar ei ysgwyddau.

Mae gordyndra (Saesneg: anxiety) yn stâd o densiwn mewnol yn y corff, sy'n aml yn cynnwys ymarweddiad nerfus gan y person, megis cerdded yn ôl ag ymlaen, afiechydon somatig, cnoi ewinedd, cen gwallt neu'n meddwl am rywbeth drosodd a throsodd.[1] Dyma'r teimlad o ofnadwyaeth fod rhywbeth erchyll fel marwolaeth ar ddigwydd.[2]

Mae gordyndra'n wahanol i ofn, sydd wedi'i seilio ar rywbeth real neu beryglus. Ond mae'n seiliedig ar adwaith go-iawn i fygythiad gwirioneddol.[3] Mae gordyndra, felly'n cynnwys elfen o ofn, poeni ac ansicrwydd. Fel arfer mae'r rhain yn crynhoi mewn modd di-ffocws, cyffredinol i ryw sefyllfa arbennig a bygythiol.[4] Ymhlith yr effeithiadau a gaiff ar y corff mae: blinder corfforol a meddyliol, methu a chanolbwyntio, a theniswn yn y cyhyrau. Nid yw'n cael ei ystyried fel ymarweddiad naturiol a phan fo'n datblygu i'r eithaf, gall greu problemau seicolegol.[5]

Triniaethau

Gall rai pobl wella drwy roi'r gorau i gaffin e.e. drwy beidio ac yfed coffi.[6] Am ychydig, o wneud hyn, mae'r gordyndra'n cynyddu.[7][8][9]

Triniaethau naturiol

Gall hypnotherapi ar y cyd â triniaethau eraill gynorthwyo i leddfu gordyndra,[10] drwy feddwl mwy positif ac ymlacio'r cyhyrau. Ceir sawl llysieuyn rhinweddol sydd wedi'u defnyddio am ganrifoedd i leddfu'r symtomau hyn e.e. Llysiau'r bara (coriander), Brenhinllys (basil), Kava, rhisgl Magnolia, rhisgl Phellodendron, Hypericum perforatum, a passiflora. Hyd yma, methodd ymchwil gwyddonol a phrofi effeithiolrwydd y llysiau hyn.[11]

Cyfeiriadau

  1. Seligman, M.E.P.; Walker, E.F.; Rosenhan, D.L. (2001). Abnormal psychology (arg. 4th). New York: W.W. Norton & Company.
  2. Davison, Gerald C. (2008). Abnormal Psychology. Toronto: Veronica Visentin. t. 154. ISBN 978-0-470-84072-6.
  3. Henig, Robin Marantz (August 20, 2012). "ANXIETY!". The New York Times Magazine.
  4. Bouras, N.; Holt, G. (2007). Psychiatric and Behavioural Disorders in Intellectual and Developmental Disabilities (arg. 2nd). Cambridge University Press.
  5. "Anxiety Disorders". National Institute of Mental Health. Cyrchwyd Medi 3 2008. Check date values in: |accessdate= (help)
  6. Bruce, M. S.; Lader, M. (2009). "Caffeine abstention in the management of anxiety disorders". Psychological Medicine 19 (1): 211–4. doi:10.1017/S003329170001117X. PMID 2727208. http://journals.cambridge.org/action/displayAbstract?fromPage=online&aid=4996824.
  7. Prasad, Chandan (2005). Nutritional Neuroscience. CRC Press. t. 351. ISBN 0-415-31599-9. Cyrchwyd 7 Hydref 2012.
  8. Nehlig, Astrid (2004). Coffee, Tea, Chocolate, and the Brain. CRC Press. t. 136. ISBN 0-415-30691-4. Cyrchwyd 7 Hydref 2012.
  9. Juliano, Laura M.; Griffiths, Roland R. (2004). "A critical review of caffeine withdrawal: Empirical validation of symptoms and signs, incidence, severity, and associated features". Psychopharmacology 176 (1): 1–29. doi:10.1007/s00213-004-2000-x. PMID 15448977. https://archive.org/details/sim_psychopharmacology_2004-10_176_1/page/n8.
  10. Reavley, Nicola; Allen, Nick; Jorm, Anthony; Morgan, Amy; Purcell, Rosemary (2010). A Guide to What Works for Anxiety Disorders (PDF). Melbourne: beyondblue. ISBN 978-0-9807463-1-0. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2012-03-19. Cyrchwyd 2013-07-29.
  11. Saeed, SA; Bloch, RM; Antonacci, DJ (2007). "Herbal and dietary supplements for treatment of anxiety disorders". American family physician 76 (4): 549–56. PMID 17853630.
Eginyn erthygl sydd uchod am iechyd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato