Grawn

Grawn neu Grawnfwyd yw'r term a ddefnyddir am rai mathau o weiriau (Poaceae) a dyfir am eu grawn, sy'n fath ar ffrwyth a elwir yn caryopsis. Y rhain yw'r pwysicaf o'r gwahanol fwydydd a dyfir trwy'r byd, ac mewn rhai gwledydd prin fod y tlodion yn bwyta dim arall.
Ymhlith y mathau pwysicaf mae
- indrawn, sy'n arbennig o bwysig yng Ngogledd America, De America ac Affrica
- reis, y math pwysicaf yn y trofannau, yn arbennig yn Asia
- gwenith, y math pwysicaf yn y rhannau oerach o'r byd
- haidd
- sorghwm
- ceirch
- rhyg
- miled
Gweler hefyd
- Bara ceirch
- Brywes
- Llymru
- Picws mali