Hashnod

Hashnod
Enghraifft o:nodwedd mewn meddalwedd Edit this on Wikidata
Mathtag, identifying artifact, user-generated content Edit this on Wikidata
Rhan ofolksonomy Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae Hashnod yn ffenomenon o'r cyfryngau cymdeithasol sydd wedi treiddio fewn i bywyd bob dydd. Defnyddir Hashtags ar wefannau cyfryngau cymdeithasol amrywiol, fel Twitter,[1] Facebook,[2] Google+ a YouTube.[3] Gall hashnod fod yn rhan o ddedfryd neu ychwanegiad ar wahân iddo. Mantais defnyddio hashnod o flaen gair, lleoliad neu ddigwyddiad yw ei fod yn gwneud yn haws i bobl ddilyn cynnwys arbennig - boed yn gyfres deledu, trafodaeth wleidyddol, protest neu diddordeb arbenigol. Defnyddir yr arwydd # a ddefnyddir hefyd mewn cyd-destunau eraill i ddynodi y gair "rhif" (megis #1 = rhif 1) neu'r arwydd am £ lle na cheir un.

Wrth ddefnyddio'r hashnod mewn defnydd cyfryngau cymdeithasol megis Twitter defnyddir yr hashnod fel rhagddodiad, heb ofod wedi'i ddilyn gan air, neu nifer o eiriau heb unrhyw fylchau rhyngddynt (gyda thanlinellu yn hytrach na hynny) i ddod o hyd i neges yn hawdd. Y gair Saesneg yw Hashtag. Nid oes modd defnyddio marciau atalnodi fel symbolau yr ebychnod fel rhan o'r gair yn yr hashnod ond gellir defnyddio'r symbol &. Mae modd hefyd defnyddio nodau diacritig o fewn hashnod ond gall hyn amrywio yn ôl cysoesedd y ffôn. Nid yw Twitter yn gwahaniaethu rhwng llythrennau bras neu bach - bydd #draiggoch yn cael ei dderbyn fel #DraigGoch, er bod yr ail hashnod yn haws ar y lygad ac, felly, yn fwy derbyniol a chyffredin ymysg defnyddwyr.

Enghraifft:

Mae'r tagiau #Eisteddfod a #Cymru neu #Caerdydd yn sicrhau y gellir dod o hyd i'r neges yn hawdd. Os yw defnyddiwr yn chwilio am hashnod, fel arfer mae'n cael rhestr o negeseuon sy'n defnyddio'r un hashnod.[4]

Hanes

Defnyddiwyd yr hashnod gyntaf yn y rhwydwaith IRC, defnyddiwyd The # (jargon: sharp) yma i nodi sianelau neu bynciau. Ail-ymddangosodd yr hashnod ar Twitter. Ni ddyfeisiwyd y nodwedd hon gan Twitter ei hun ond gan Chris Messina.[5] Ei drydar oedd

how do you feel about using # (pound) for groups. As in #barcamp [msg]?

Defnydd go iawn cyntaf yr hashtag oedd ym mis Hydref 2007. Defnyddiodd yr Americanwr, Nate Ritter, yr hashnod i adrodd am danau coedwigoedd yng Nghaliffornia. Yn ystod gwrthryfel Iran yn 2009, profodd yr hashtag ei ​​hawl i fodoli. Trwy ychwanegu hashnod at y negeseuon, gallai pobl ledled y byd ddilyn datblygiadau'n hawdd.[6]

Cydnabu Twitter ei hun hefyd fod yr hashtag yn ychwanegiad da i'r system ac felly penderfynodd ar 1 Gorffennaf, 2009 i osod hypergysylltiadau yn awtomatig ar hashnod. Fel hyn, gallai defnyddwyr chwilio'n hawdd am a chlicio ar rai hashgâu. Yn 2010 ehangwyd y system hon ac ychwanegwyd y pwnc trending. O'r foment honno, gallai pobl weld pa bynciau oedd yn boblogaidd a chwilio amdanynt.

Yn 2013, gweithredodd Facebook hefyd hashtags yn ei system,[7] ar ôl i Instagram wneud yr un peth o'r blaen.

Gofal Hashnod

Rhaid bod yn wyliadwrus wrth ddewis hashnod. Cafwyd enghraifft diniwed ym myd pêl-droed Cymru wrth i Gymru} chwarae Rwsia o hashnod. Defnyddiwyd y confensiwn o hashnod ac yna tair lythyren y ddwy wlad heb fwlch gan sillafu'r gair #WALRUS.[8]

Yn y Saesneg un o'r enghreifftiau mwyaf anffodus, a fyddai wedi elwa o ddefnyddio prif lythrennau oedd #susanalbumparty.[9]

Cost Trydar mewn Gwyddeleg

Nodwyd bod cost danfon neges destun, ar un adeg, yn ddrytach i reini yn yr Iwerddon oedd yn defnyddio'r diacritig yn yr iaith Wyddeleg tra nad oedd hyn yn wir mewn ieithoedd eraill lle roedd yr awdurdodau yn cynabod defnydd o acenion yn yr iaith.[10] Nid yw'n glir os oedd hyn yn wir ar gyfer defnyddio acenion mewn negeseuon Twitter neu dim ond negeseuon testun.

Hashnod a diwylliant poblogaidd Gymraeg

Mae defnydd o'r hashnod wedi dod yn arwydd poblogaidd o hunan-ymwybyddiaeth Gymraeg a Chymreig ar y cyfryngau cymdeithasol. Bydd geiriau neu termau Cymraeg syml yn aml yn 'trendio' ar draws rwydwaith Brydeinig Twitter e.e. dyddiadau poblogaidd - #NadoliLlawen #BlwyddynNewyddDda; digwyddiadau penodol Gymreig #DyddGwylDewi #Cymru (pan fydd gêm rygbi'r undeb neu pêl-droed bwysig; a Chymraeg fel Cân i Gymru pan ddefnyddir hashnod #CiG2019 [11] neu #DyddMiwsigCymru ar gyfer Dydd Miwsig Cymru.

Y cyfrif cyson Gymraeg gyda'r nifer o ddefnyddwyr hashnod benodol yw #yagym ('Yr Awr Gymraeg') a weinyddir gan Huw Marshall. Mae ar gyfer unigolion, cwmniau neu gyrff sydd am hyrwyddo eu gwasanaethau Cymraeg arlein. Yn ôl cyfrif @YrAwrGymraeg,

"Mae'r hashnod #yagym yn cyrraedd bron i 2,000,000 o gyfrifon Twitter pob wythnos. Gall ddefnyddio un hashnod bach helpu chi gyrraedd cynulleidfaoedd newydd.

Mae dros 11,000 yn dilyn ein cyfrif, hoffech chi gweld ni'n rhannu eich neges gyda nhw?" [12] yn rhagfyr 2018 ac yna dros 8 miliwn llinell amser a thros 1.5 miliwn cyfrif Twitter ar ddechrau 2019.[13]

Nododd Carl Morris mewn erthygl y gall defnydd o hashnod Gymraeg neu Cymreigiad o un Saesneg hwyluso trafodaeth am bwnc neu gyfres deledu am y pwnc hwnnw ond yn y Gymraeg.[14]

Hashnod mewn Ieithoedd Eraill

Defnyddir y term Saesneg hashtag yn y mwyafrif mawr o ieithoedd eraill a fel rheol wedi ei sillafu yn yr orgraff Saesneg hefyd, er y bydd Pwyleg yn sillafu gan ddefnyddio ei horgraff ei hun, hasztag (yngennir yr sz fel sh) neu Həştəq yn Azeri. Mae'r Gymraeg yn bur anodweddiadol wrth fathu ac arddel term ei hun.

Cymraeg

Bu cryn drafod am enw Cymraeg ar y gair hashtag. Yn 2012, defnyddiwyd "clicair" gan Aneirin Karadog yn 2012 ond cafodd ei 'gywiro' gan Hedd Gwynfor.[15] (Diddorol nodi i Karadog ddefnyddio calque o'r gair Llydaweg "ger-klik" (gw. isod) fel y term Cymraeg ag yntau'n rhugl mewn Llydaweg.

Cafwyd consensws mai hashnod fyddai'r gair mwyaf cyfforddus a naturiol Gymraeg i'w defnyddio. Mae'r gair "nod" yn y Gymraeg yn gallu cyfeirio at 'charcter' (megis mewn teipograffeg - ebychnod (Saesneg: exclamaition mark, collnod (Saesneg: comma) a defnyddir y gair "nod" hefyd yn y Gymraeg i olygu marcio neu ddynodi perthnogaeth e.e. nod ar glus dafad i ddynodi perchnogaeth.

Llydaweg

Y gair am hashnod yn y Llydaweg yw ger-klik [16] ("gair-clic"), sydd, efallai'n dilyn yr arfer Ffrangeg.

Ffrangeg

Gelwir yr "hashnod" yn swyddogol yn mot-dièse yn y Ffrangeg (cyfuniad o "mot" "gair" a "croes"), yn ôl adroddodd y cylchgrawn Ffrengig Journal officiel de la République française ar 23 Ionawr 2013.[17] Yn y Ffrangeg Canada dywedir mot-clic ("gair clic").

Sbaeneg

Defnyddir y term etiqueta yn y Sbaeneg.[18][19]

Rwsieg

Defnyddir Хештег sef "Cheshteg" sy'n trawslythyriad ac ynganiad Rwsieg o'r gair Saesneg, "hashtag".

Ffinneg

Defnyddir y geiriau myös avainsana neu "disgrifydd" yn y Ffinneg. Mae Canolfan Iaith Ffinneg (COTUS) yn awgrymu sawl y gair "Aihetunniste" sef "nod pwnc (subject tag)". Ond nid yw'n glir os yw hyn yn gyffredin neu beidio.

Islandeg

Defnyddir y term Myllumerki a hefyd myllutengi a kassamerki yn yr Islandeg. Mae'r gair merk yn golygu marc neu label.

Cyfeiriadau

  1. How to use hashtags, Twitter
  2. How do I use hashtags?, Facebook
  3. Hashtags gebruiken om video's te zoeken, Google
  4. Hashtags?, wordpress.com
  5. Groups for Twitter; or A Proposal for Twitter Tag Channels, Factory Joe
  6. De hashtag: #volstrektnutteloos?, Emerce, 2 juni 2012
  7. Facebook implementeert hashtags, Twittermania, 13 juni 2013 (gearchiveerd)
  8. https://golwg360.cymru/newyddion/cymru/229117-cymru-v-rwsia-walrus
  9. https://www.theguardian.com/technology/2017/aug/23/hashtag-10-years-old-social-media-technology
  10. https://www.siliconrepublic.com/comms/one-fada-for-the-price-of-three-messages-extra-data-means-texting-as-gaeilge-costs-more
  11. https://twitter.com/canigymru/status/1101589319956025345/
  12. https://twitter.com/yrawrgymraeg/status/1070412605024583680
  13. https://twitter.com/yrawrgymraeg/status/1100380021586358273/video/1
  14. https://haciaith.cymru/2014/12/18/pa-hashnod-ddylwn-i-ddefnyddio-am-raglen-teledu-saesneg/
  15. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-06-17. Cyrchwyd 2019-03-18.
  16. https://twitter.com/NeiKaradog/status/1107750554984419329
  17. "Hashtag" wordt in het Frans officieel "mot-dièse", De Redactie, 23 januari 2013
  18. "etiqueta, mejor que hashtag". Cyrchwyd 10 Hydref 2015. Unknown parameter |obra= ignored (|work= suggested) (help); Unknown parameter |fecha= ignored (|date= suggested) (help)
  19. http://www.fundeu.es/consulta/hashtag-30480/. Unknown parameter |obra= ignored (|work= suggested) (help); Unknown parameter |fecha= ignored (|date= suggested) (help); Unknown parameter |fechaacceso= ignored (|access-date= suggested) (help); Unknown parameter |título= ignored (|title= suggested) (help); Missing or empty |title= (help)

Dolenni allanol