Iroquois

Tiriogaethau blaenorol Pum Cenedl yr Iroquois

Cynghrair o drigolion brodorol Gogledd America yw Cynghrair yr Iroquois neu'r Haudenosaunee. Yn wreiddiol, roedd Pum Cenedl yr Iroquois yn cynnwys y Mohawk (Kanien’kehaka), Oneida (Onyota’a:ka), Onondaga (Onoda’gega), Cayuga (Gayugaho:no) a'r Seneca (Ondowahgah). Yn hanner cyntaf y 18g, ychwanegwyd y Tuscarora at y cynghrair, i ffurfio Chwe Chenedl yr Iroquois. "Haudenosaunee" (pobl y tŷ hir) oedd eu henw arnynt eu hunain.

Yn wreiddiol, roeddynt yn byw i'r de o Lyn Ontario, yn yr hyn sy'n awr yn dalaith Efrog Newydd a'r ardaloedd cyfagos yng Nghanada. Yn ddiweddarach, symudasant tua'r gorllewin. Mae'r cenhedloedd yma i gyd yn siarad ieithoedd tebyg i'w gilydd, ond siaredir yr Ieithoedd Iroquaidd gan nifer o bobloedd eraill hefyd, megis y Wendat a'r Cherokee.

Mae rhywfaint o ansicrwydd ynghylch niferoedd yr Iroquois heddiw. Roedd tua 45,000 yng Nghanda yn 1995, tra yng nghyfrifiad 2000 yn yr Unol Daleithiau, roedd 80,822 yn hawlio cefndir ethnig Iroquois, gyda 45,217 yn ei nodi fel eu hunig gefndir ethnig.

Gweler hefyd

Baner Cynghrair yr Iroquois