Le nozze di Figaro

Le nozze di Figaro
Math o gyfrwnggwaith drama-gerdd Edit this on Wikidata
IaithEidaleg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1785 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1785 Edit this on Wikidata
Genreopera buffa, opera Edit this on Wikidata
Cyfreslist of operas by Wolfgang Amadeus Mozart Edit this on Wikidata
CymeriadauFigaro, Cherubino, Iarll Almaviva, Marcellina, Bartolo, Basilio, Don Curzio, Barbarina, Dwy fenyw, Susanna, Iarlles Rosina Almaviva, Antonio Edit this on Wikidata
Yn cynnwysAgorawd (priodas Figaro), Non più andrai, Se vuol ballare, Voi che sapete Edit this on Wikidata
LibretyddLorenzo Da Ponte Edit this on Wikidata
Lleoliad y perff. 1afBurgtheater Edit this on Wikidata
Dyddiad y perff. 1af1 Mai 1786 Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus, parth cyhoeddus Edit this on Wikidata
CyfansoddwrWolfgang Amadeus Mozart Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Opera buffa (comedi) gan Wolfgang Amadeus Mozart, gyda libretto gan Lorenzo da Ponte, yw Le nozze di Figaro, (Saesneg: The Marriage of Figaro) K. 492. Perfformiwyd gyntaf ar 1 Mai 1786, yn y Burgtheater, Wien. Mae libreto yr opera wedi'i seilio ar y comedi gan Pierre Beaumarchais, La folle journée, ou le Mariage de Figaro ('Y Diwrnod Gwyllt, neu Priodas Figaro'). Mae'n datgan stori am y gweision Figaro a Susanna sy'n llwyddo i brodi, gan ddymchwel ymdrechion eu cyflogwr, y Cownt Almaviva i gamarwain Susanna a dysgu iddo wers am ffyddlondeb.

Ystyrir Le nozze di Figaro un o gyfansoddiadau gorau opera,[1] ac mae'n gonglfaen y repertoire sy'n ymddangos yn gyson ymysg y deg opera sydd wedi'u perffromio'r mwyaf aml, yn ôl Operabase.[2]

Cefndir

Mae Le nozze di Figaro ("Priodas Figaro") yn opera a gyfansoddwyd gan Wolfgang Amadeus Mozart ym 1786 gyda libreto Eidalaidd a ysgrifennwyd gan Lorenzo Da Ponte. Mae'r opera yn adrodd hanes Figaro i gadw ei dyweddi Susanna rhag eu meistr, Ardalydd Almaviva, sy'n credu bod gan feistr hawl i gael rhyw gyda'i morynion ar noswyl eu priodas. Mae libreto'r opera yn seiliedig ar gomedi llwyfan gan Pierre Beaumarchais, La folle journée, ou le Mariage de Figaro ("Y diwrnod gorffwyll," neu "Briodas Figaro"), a berfformiwyd gyntaf ym 1784. Mae'n adrodd sut bu'r gweision, Figaro a Susanna, llwyddo priodi, gan rwystro ymdrechion eu cyflogwr ofer, Ardalydd Almaviva, i lathludo Susanna a rhoi gwers iddo mewn pwysigrwydd ffyddlondeb.

Mae'r sioe yn gonglfaen i'r repertoire opera ac mae'n ymddangos yn gyson ymhlith y deg uchaf yn rhestr Operabase o'r operâu a berfformir amlaf.[3]

Hanes perfformio

Perfformiwyd Le nozze di Figaro am y tro cyntaf yn y Burgtheater, Fienna ar 1 Mai 1786 o dan arweiniad Mozart, yn arwain o'r allweddell, fel oedd arfer y diwrnod.[4] Ar ôl y ddau berfformiad gyntaf, fe arweiniodd Joseph Weigl. Chwaraewyd rhan Figaro gan Francesco Benucci, rhan Susanna gan Nancy Storace a rhan Ardalydd Almaviva gan Stefano Mandini yn y perfformiad cyntaf. Cafwyd naw perfformiad o'r cynhyrhciad cyntaf yn 1786.[5]

Er nad oedd cyfanswm o naw perfformiad yn ddim byd i gymharu â llwyddiannau diweddarach Mozart gyda Die Zauberflöte, a gafodd ei berfformio am fisoedd bob yn ail ddiwrnod[6], ystyrir y perfformiad cyntaf yn llwyddaint. Fe olygodd gymeradwyaeth o'r gynulleidfa ar y noson cyntaf cafodd pum aria eu hailberfformio, a saith ar 8 Mai.[4] Roedd Joseph II, pwy oedd yn ogystal yn Ymerawdwr, yn rheoli y Burgtheater, yn pryderi am hyd yr opera a chyfarwyddodd ei weinydd:

To prevent the excessive duration of operas, without however prejudicing the fame often sought by opera singers from the repetition of vocal pieces, I deem the enclosed notice to the public (that no piece for more than a single voice is to be repeated) to be the most reasonable expedient. You will therefore cause some posters to this effect to be printed.[7]

Cafodd y posteri eu hargraffu a'u rhoi yn y Burgtheater mewn amser ar gyfer y trydydd perfformiad ar 24 Mai.

Cymeriadau

Cymeriad Llais Cast perfformiad cyntaf, 1 Mai 1786

Arweinydd: W. A. Mozart

Y Cownt Almaviva bariton Stefano Mandini
Y Cowntes Rosina Almaviva soprano Luisa Laschi
Susanna, morwyn y gowntes soprano Nancy Storace
Figaro, gwas i'r cownt bas Francesco Benucci
Cherubino, gwas bach i'r cownt soprano (rôl trwser) Forotea Bussani
Marcellina, gwraig cadw tŷ Doctor Bartolo soprano Maria Mandini
Bartolo, doctor o Seville, cyfreithiwr bas Francesco Bussani
Basilio, athro cerddoriaeth tenor Michael Kelly
Don Curzio, barnwr tenor Michael Kelly
Barbarina, merch Antonio, cefnither i Susanna soprano Anna Gottlieb
Antonio, garddwr y cownt, ewythr Susanna bas Francesco Bussani
Corws y werin, pentrefwyr a gwesion


Eitemau Cerddorol

  • Agorawd - Cerddorfa
Act 1
  • 1. Cinque... dieci... venti... – Susanna, Figaro
  • 2. Se a caso madama la notte ti chiama – Susanna, Figaro
  • 3. Se vuol ballare, signor Contino – Figaro
  • 4. La vendetta, oh la vendetta! – Bartolo
  • 5. Via resti servita, madama brillante – Susanna, Marcellina
  • 6. Non so più cosa son, cosa faccio – Cherubino
  • 7. Cosa sento! tosto andate – Susanna, Basilio, Cownt
  • 8. Giovani liete, fiori spargete – Chorus
  • 9. Non più andrai, farfallone amoroso – Figaro

Act 2

  • 10. Porgi amor qualche ristoro – Cowntes
  • 11. Voi che sapete che cosa è amor – Cherubino
  • 12. Venite inginocchiatevi – Susanna
  • 13. Susanna or via sortite – Cowntes, Susanna, Cownt
  • 14. Aprite presto aprite – Susanna, Cherubino
  • 15. Esci omai, garzon malnato – Susanna, Cowntes, Marcellina, Basilio, Cownt, Antonio, Bartolo, Figaro
Act 3
  • 16. Crudel! perché finora – Susanna, Cownt
  • 17. Hai già vinta la causa – Vedrò mentr'io sospiro – Cownt
  • 18. Riconosci in questo amplesso – Susanna, Marcellina, Don Curzio, Cownt, Bartolo, Figaro
  • 19. E Susanna non vien – Dove sono i bei momenti – Cowntes
  • 20. Canzonetta sull'aria – Susanna, Cowntes
  • 21. Ricevete, o padroncina – Merched y fferm
  • 22. Ecco la marcia, andiamo – Susanna, Cowntes, Cownt, Figaro; Corws

Act 4

  • 23. L'ho perduta... me meschina – Barbarina
  • 24. Il capro e la capretta – Marcellina
  • 25. In quegl'anni in cui val poco – Basilio
  • 26. Tutto è disposto – Aprite un po' quegl'occhi – Figaro
  • 27. Giunse alfin il momento – Deh vieni non tardar – Susanna
  • 28. Pian pianin le andrò più presso – Susanna, Cowntes, Barbarina, Cherubino, Marcellina, Basilio, Cownt, Antonio, Figaro, Bartolo

Offeryniaeth

Sgoriwyd Le Nozze di Figaro ar gyfer dau ffliwt, dau obo, dau fasŵn, dau glarinét, dau gorn ffrengig, timpani, a llinynnau. Mae offeryn allweddell (piano neu harpsichord), a soddgwrth yn cyfeilio y recitativi secchi (darnau recitiatif). Nid yw offerinyniaeth y recitatif wedi'i gynnwys yn y sgôr, felly ma'en ddewis yr arweinydd a'r perfromwyr. Mae perfformiad o'r opera yn dueddol o bara am 3 awr.

Gweler hefyd

Le nozze di Figaro - disgyddiaeth

Cyfeiriadau

  1. "The 20 Greatest Operas of All Time". Classical Music.
  2. "Statistics for the five seasons 2009/10 to 2013/14". Operabase.
  3. "Statistics for the five seasons 2009/10 to 2013/14". Operabase. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-04. Cyrchwyd 1 Hydref 2018.
  4. 4.0 4.1 Deutsch 1965, t. 272
  5. Yr rhain oedd: 3, 8, 24 Mai; 4 Gorffennaf, 28 Awst, 22 (efallai 23) Medi, 15 Tachwedd, 18 Rhagfyr Deutsch 1965, t. 272
  6. Solomon 1995
  7. 9 May 1786, o Deutsch 1965, t. 272
Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.