Llaeth
![]() | |
Enghraifft o: | dosbarth o endidau anatomegol ![]() |
---|---|
Math | bwyd, cynhwysyn bwyd, hylifau corfforol, emylsiwn, secretiad, endid anatomegol arbennig, diod o laeth buwch, diod ddialcohol ![]() |
Lliw/iau | gwyn ![]() |
Yn cynnwys | dŵr ar ffurf hylif, protein, braster, sodiwm clorid, calsiwm, fat soluble vitamins, ffosfforws, Carbohydrad, Q6164057, potasiwm, magnesiwm ![]() |
Cynnyrch | mamal, milk yielding animal ![]() |
![]() |
Mae mamalau yn cynhyrchu llaeth (neu'n y Gogledd llefrith) i fwydo eu rhai bach. Mae llaeth yn cynnwys llawer o faetholynnau sydd yn addas i anifeiliaid bach sydd ddim yn gallu treulio bwyd caled.
Mae llaeth pob rhywogaeth yn arbennig ac yn addas i'w anghenion. Er enghraifft mae llaeth merch yn cynnwys llawer o lactos, math o siwgr, ond does dim cymaint o siwgr ond llawer o brotein mewn llaeth buwch. Mae llaeth buwch yn cynnwys braster llaeth (3.5 %), soledau llaeth (8.5 %) a dŵr (88 %). Y protein pennaf yw casein.
Mae pobl yn defnyddio llaeth rhai anifeiliaid, yn bennaf llaeth buwch, gafr, ceffyl, dafad a byfflo dŵr, i wneud hufen, menyn, caws, iogwrt a hufen iâ.

