Llywodraeth Vichy
Enghraifft o'r canlynol | gwlad ar un adeg, regime, Gwladwriaeth byped |
---|---|
Daeth i ben | 29 Awst 1944 |
Label brodorol | État français |
Dechrau/Sefydlu | 10 Gorffennaf 1940 |
Rhagflaenydd | y Drydedd Weriniaeth Ffrengig |
Olynydd | Provisional Government of the French Republic |
Enw brodorol | État français |
Gwladwriaeth | Ffrainc |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Llywodraeth Vichy oedd llywodraeth y rhan ddeheuol o Ffrainc yn y cyfnod 1940-1944 yn ystod yr Ail Ryfel Byd yn dilyn Brwydr Ffrainc. Galwai'r wladwriaeth ei hun yn État français ("Gwladwriaeth Ffrainc"), dan reolaeth y marsial Philippe Pétain, a defnyddiai ddinas Vichy yn Allier fel prifddinas. Yn ymarferol, roedd dan reolaeth yr Almaen Natsïaidd.
Hanes
Roedd Pétain wedi olynu Paul Reynaud fel arweinydd Ffrainc ar 16 Gorffennaf 1940. Ar 22 Mehefin, ildiodd byddinoedd Ffrainc i'r Almaen yn Compiègne. Dan y cytundeb, roedd yr Almaen i feddiannu gogledd a gorllewin Ffrainc, tra roedd y gweddill o Ffrainc a'i threfedigaethau i fod dan lywodraeth hanner-annibynnol. Cytunodd Pétain, oedd yn 84 oed, i weithredu fel pennaeth y wladwriaeth yma. Penododd Pierre Laval a François Darlan fel dirprwyon iddo.
Wedi i'r Cyngheiriad lanio yn y gogledd-orllewin yn 1944, symudodd yr Almaenwyr Lywodraeth Vichy i Belfort ac yn nes ymlaen i Sigmaringen yn yr Almaen. Wedi buddugoliaeth y Cyngheiriaid, dienyddiwyd nifer o aelodau o'r llywodraeth, yn eu plith Laval, am deyrnfradwriaeth, tra dedfrydwyd Pétain i garchar am oes.