Lucius Junius Brutus
Lucius Junius Brutus | |
---|---|
Ganwyd | c. 540 CC Unknown |
Bu farw | 509 CC o marwolaeth mewn brwydr Silva Arsia |
Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol |
Galwedigaeth | gwleidydd hynafol, Rhufeinig, milwr Rhufeinig |
Swydd | seneddwr Rhufeinig, Conswl Rhufeinig |
Tad | Marcus Junius |
Mam | Tarquinia |
Priod | Vitellia |
Plant | Titus Junius Brutus, Tiberius Junius Brutus |
Llinach | Junii Bruti |
Roedd Lucius Junius Brutus, yn ôl hanes traddodiadol Rhufain, yn un o ddau gonswl cyntaf Gweriniaeth Rhufain.
Roedd yn fab i Tarquinia, chwaer y brenin Lucius Tarquinius Superbus. Ffugiodd dwpdra i osgoi perygl yn ystod teyrnasiad gormesol Tarquinius, a thrwy hynny cafodd yr enw "Brutus". Dechreuodd y digwyddiadau a arweiniodd at ddiwedd y frenhiniaeth yn Rhufain pan reibiodd mab y brenin, Sextus, wraig o'r enw Lucretia, gwraig Collatinus. Dywedodd Lucretia wrth ei gŵr beth oedd wedi digwydd, yna lladdodd ei hun. Ymunodd Collatinus a Lucius Junius Brutus i yrru Tarquinius a Sextus o Rufain, a sefydlu Gweriniaeth Rhufain. Daeth Brutus a Collatinus yn ddau gonswl cyntaf Rhufain.