Magna Carta

Magna Carta

Siarter cyfreithiol Seisnig a gyhoeddwyd am y tro cyntaf ym 1215 yn Lladin yw'r Magna Carta (Lladin am "Siarter Mawr").

Roedd y Magna Carta yn ymofyn i John, brenin Lloegr ddatgan hawliau penodol (hawliau ei farwniaid yn bennaf), i barchu rhai trefnau cyfreithiol, a derbyn nad oedd ei ewyllys yn gallu cael ei rwymo gan y gyfraith. Roedd yn amddiffyn rhai o hawliau deiliaid y brenin yn benodol, heb ots a oeddent yn rhydd neu'n llyffethair — yn fwyaf nodweddiadol, roedd gwrit y habeas corpus, a oedd yn caniatáu apêl yn erbyn carchariad anghyfreithlon.

Gellir dadalau mai'r Magna Carta oedd y dylanwad cynnar mwyaf nodweddiadol ar hanes y broses helaeth a arweiniodd at reol cyfraith gyfansoddiadol heddiw yn y rhannau hynny o'r byd lle siaredir Saesneg. Fe gafodd y Magna Carta ddylanwad ar ddatblygiad cyfraith gyffredin a nifer o ddogfenni cyfansoddiadol, gan gynnwys Cyfansoddiad yr Unol Daleithiau. Adnewyddwyd nifer o'r cymalau yn yr Oesoedd Canol, a pharhaodd i gael ei adnewyddu hyd yr 18g. Erbyn ail hanner yr 19g, roedd y rhan fwyaf o'r cymalau yn eu ffurf wreiddiol wedi cael eu diddymu o gyfraith Lloegr.

Y Magna Carta oedd y ddogfen gyntaf i gael ei gorfodi ar frenin Seisnig gan ei ddeiliaid (y barwniaid) mewn ymdrech i gyfyngu ei bŵerau mewn cyfraith, ac i amddiffyn eu breintiau. Roedd Siarter Rhyddid 1100 yn rhagflaenydd i'r Magna Carta, ynddi ddatganodd Harri I, brenin Lloegr yn wirfoddol fod ei bŵerau o dan reolaeth y gyfraith.

Barwniaid

Barwniaid mach ar gyfer gorfodaeth y Magna Carta:

  • William d'Albini, Arglwydd Belvoir Castell.
  • Roger Bigod, Iarll Norfolk a Suffolk.
  • Hugh Bigod, etifedd iarllaeth Norfolk a Suffolk.
  • Henry de Bohun, Iarll Henffordd.
  • Richard de Clare, Iarll Hertford.
  • Gilbert de Clare, etifedd iarllaeth Hertford.
  • John FitzRobert, Arglwydd Castell Warkworth.
  • Robert Fitzwalter, Arglwydd Castell Dunmow.
  • William de Fortibus, Iarll Albemarle.
  • William Hardel, **Maer Dinas Llundain.
  • William de Huntingfield, Sheriff of Norfolk and Suffolk.
  • John de Lacie, Arglwydd Castell Pontefract.
  • William de Lanvallei, Arglwydd Standway Castell.
  • William Malet, Siryf Gwlad yr Haf a Dorset.
  • Geoffrey de Mandeville, Iarll Essex a Caerloyw.
  • William Marshall Jr, etifedd iarllaeth Penfro.
  • Roger de Montbegon, Arglwydd Castell Hornby, Swydd Gaerhirfryn.
  • Richard de Montfichet, Barwn.
  • William de Mowbray, Arglwydd Castell Axholme.
  • Richard de Percy, Barwn.
  • Saire/Saher de Quincy, Iarll Caerwynt.
  • Robert de Roos, Arglwydd Hamlake Castell.
  • Geoffrey de Saye, Baron.
  • Robert de Vere, etifedd iarllaeth Rhydychen.
  • Eustace de Vesci, Arglwydd Alnwick Castell.

Esgobion

Roed yr esgobion rhain yn dystion (cyfeirir atynt gan y brenin a'i gynhorwyr yn y ystod y pernderfyniad i arwyddo'r ddogfen):

  • Stephen Langton, Archesgob Caergaint, Cardinal yr Eglwys Sanctaidd Rhufeinig,
  • Henry, Archesgob Dulyn, Henry de Loundres,
  • E. Esgob Llundain
  • J. Esgob Bath, Jocelin o Wells,
  • P. Esgob Winchester, Peter des Roches,
  • H. Esgob Lincoln, Hugh de Wells,
  • R. Esgob Salisbury, Herbert Poore - "Robert",
  • W. Esgob Rochester,
  • W. Esgob Worcester, Walter de Gray,
  • J. Esgob Ely, Geoffrey de Burgo,
  • H. Esgob Hereford, Hugh de Mapenor,
  • R. Esgob Chichester, Richard Poore (brawd Herbert/Robert uchod),
  • W. Esgob Caerwysg.

Abadau

Roedd yr abadau isod hefyd yn dystion:

  • Abad Sant Edmunds
  • Abad Sant Albans
  • Abad Bello
  • Abad Abaty Sant Augustines yng Nghaergaint
  • Abad Evesham
  • Abad Westminster
  • Abad Peterborough
  • Abad Reading
  • Abad Abingdon
  • Abad Abaty Malmesbury
  • Abad Winchcomb
  • Abad Hyde
  • Abad Certesey
  • Abad Sherborne
  • Abad Cerne
  • Abad Abbotebir
  • Abad Middleton
  • Abad Selby
  • Abad Cirencester
  • Abad Hartstary

Eraill

Cyfeiriadau

  • Jennings: Magna Carta and its influence in the world today
  • H. Butterfield; Magna Carta in the Historiography of the 16th and 17th Centuries
  • G.R.C. Davis; Magna Carta
  • J. C. Dickinson; The Great Charter
  • G. B. Adams; Constitutional History of England
  • A. Pallister; Magna Carta the Legacy of Liberty
  • A. Lyon; Constitutional History of the United Kingdom
  • G. Williams and J. Ramsden; Ruling Britannia, A Political History of Britain 1688-1988
  • Royal letter promulgating the text of Magna Carta (1215), treasure 3 Archifwyd 2007-07-15 yn y Peiriant Wayback of the British Library displayed via The European Library

Dolenni allanol