Marswpial

Marswpialod
Cangarŵ Llwyd y Dwyrain
(Macropus giganteus)
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Mammalia
Is-ddosbarth: Theria
Inffradosbarth: Marsupialia
Illiger, 1811
Urddau
  • Didelphimorphia
  • Paucituberculata
  • Microbiotheria
  • Dasyuromorphia
  • Peramelemorphia
  • Notoryctemorphia
  • Diprotodontia
  • †Sparassodonta
  • †Yalkaparidontia

Grŵp o famaliaid yw marswpialod (hefyd bolgodogion neu codogion). Mae ganddynt goden arbennig (sef y marsupium) a ddefnyddir gan y benywod i gario eu hepil yn ystod plentyndod cynnar. Mae tua 331 o rywogaethau o farswpialod: mwy na 200 yn Awstralasia, tua 100 yng Nghanolbarth a De America ac un yng Ngogledd America. Fe'u ceir mewn llawer o gynefinoedd gwahanol ac maent yn cynnwys hollysyddion, cigysyddion, llysysyddion a phryfysyddion.

Tacsonomeg

Oposwm Virginia
(Didelphis virginiana)
  • Uwch-urdd Ameridelphia
    • Urdd Didelphimorphia (87 o rywogaethau)
      • Teulu Didelphidae: oposymiaid
    • Urdd Paucituberculata (6 rhywogaeth)
      • Teulu Caenolestidae: llŷg-oposymiaid
  • Uwch-urdd Australidelphia
    • Urdd †Yalkaparidontia
    • Urdd Microbiotheria (1 rywogaeth)
      • Teulu Microbiotheriidae: Monito del Monte
    • Urdd Dasyuromorphia (71 o rywogaethau)
    • Urdd Peramelemorphia (21 o rywogaethau)
      • Teulu Thylacomyidae: bilbïaid
      • Teulu †Chaeropodidae
      • Teulu Peramelidae: bandicŵtiaid
    • Urdd Notoryctemorphia (2 rywogaeth)
      • Teulu Notoryctidae: tyrchod daear bolgodog
    • Urdd Diprotodontia (143 o rywogaethau)
      • Teulu Phascolarctidae: Coala
      • Teulu Vombatidae: wombatiaid
      • Teulu †Diprotodontidae
      • Teulu Burramyidae
      • Teulu Phalangeridae: cwscwsiaid a pherthnasau
      • Teulu Pseudocheiridae
      • Teulu Petauridae
      • Teulu Tarsipedidae: Poswm y Mêl
      • Teulu Acrobatidae
      • Teulu Hypsiprymnodontidae
      • Teulu Potoridae
      • Teulu Macropodidae: cangarŵod a walabïod
      • Teulu †Thylacoleonidae: llewod bolgodog
    • Urdd †Sparassodonta

Cyfeiriadau

  • MacDonald, David W., gol. (2009) The Encyclopedia of Mammals, Oxford University Press, Rhydychen.
  • Wilson, D. E. & D. M. Reeder, goln. (2005) Mammal Species of the World, 3ydd argraffiad, Johns Hopkins University Press.

Dolenni allanol

Chwiliwch am marswpial
yn Wiciadur.