Migwyn

Migwyn
Sphagnum fimbriatum
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Rhaniad: Bryophyta
Dosbarth: Sphagnopsida
Urdd: Sphagnales
Teulu: Sphagnaceae
Genws: Sphagnum
Rhywogaethau

Llawer

Mwsogl llwydaidd sbyngaidd tra amsugnol o’r genws Sphagnum yw migwyn (neu fwsogl y gors). Mae’r genws yn cynnwys tua 150–300 o rywogaethau sy’n tyfu ar ardaloedd asid gwlyb ledled y byd, yn arbennig yn Hemisffer y Gogledd. Mae migwyn marw’n pydru’n araf iawn, ac yn ffurfio mawnogydd dros amser. Mae mawnogydd o bwysigrwydd ecolegol mawr ond mae llawer ohonynt wedi cael eu dinistrio er mwyn cael mawn.

Cyfeiriadau

  • Peter H. Raven, Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.
Eginyn erthygl sydd uchod am blanhigyn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato