Neognathae

Neognathae
Amrediad amseryddol:
Cretasaidd hwyr – Holosen
120–0 Ma
Pg
[1]
Ceiliog coedwig coch benywaidd (Gallus gallus)
Aderyn to (Passer domesticus)
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Inffradosbarth: Neognathae
Isgrwpiau

Galloanserae
Neoaves

Grŵp o adar yw'r Neognathiaid (Neognathae) o fewn y Dosbarth Aves. Mae'r Neognathae yn cynnwys bron y cyfan o'r adar sy'n fyw heddiw; yr eithriad yw'r chwaer dacson, y Palaeognathae),sy'n cynnwys y Tinamŵaid a'r adarn nad ydynt yn hedfan a elwir yn ratites.

Ceir bron i 10,000 o rywogaethau o neognathiaid. Ers cyfnod y Cretasaidd hwyr, maen nhw wedi addasu i'w hamrywiol ffurfiau - amrywiaeth eang iawn o liw, maint ac ymddygiad. Ceir ffosiliau ohonynt o'r Cretasaidd hwyr.

Mae'r grŵp yma, y Neognathiaid yn cynnwys yr urdd Passeriformes (adar sy'n clwydo), sef y cytras (clade) mwyaf o unrhyw anifail gydag asgwrn cefn (neu 'fertibratau'), gyda 60% o'r holl adar sy'n fyw heddiw o fewn y grŵp.

Mae gan y Neognathiaid fetacarpalau sydd wedi asio i'w gilydd, mae'r trydydd 'bys' yn hirach na'r cyffredin ac mae ganddynt 13 fertebra yn llai. Maen nhw'n whanol i'r Palaeognathae oherwydd nodweddion fel esgyrn eu gên. dyma darddiad y gair "Neognathae", sef "esgyrn gên newydd".

Cyfeiriadau

  1. Van Tuinen M. (2009) Birds (Aves). In The Timetree of Life, Hedges SB, Kumar S (eds). Rhydychen: Oxford University Press; 409–411.

Llyfryddiaeth

  • Michael J. Benton (2004). "Origin and relationships of Dinosauria". In David B. Weishampel; Peter Dodson; Halszka Osmólska (Hrsg.) (gol.). The Dinosauria. Berkeley: Zweite Auflage, University of California Press. tt. 7–19. ISBN 0-520-24209-2.