Nicanor Parra

Nicanor Parra
Ganwyd5 Medi 1914 Edit this on Wikidata
San Fabián Edit this on Wikidata
Bu farw23 Ionawr 2018 Edit this on Wikidata
La Reina Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTsile Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethbardd, mathemategydd, ffisegydd, academydd, llenor Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol Tsile Edit this on Wikidata
Arddullbarddoniaeth Edit this on Wikidata
PlantColombina Parra Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrodoriaeth Guggenheim, Gwobr Miguel de Cervantes, Gwobr FIL , Mecsico, Gwobr Genedlaethol am Lenyddiaeth, Bicentennial Prize, Gwobr Reina Sofía, Pablo Neruda Ibero-American Poetry Award Edit this on Wikidata

Bardd o Tsile yn yr iaith Sbaeneg a ffisegwr oedd Nicanor Parra (5 Medi 191423 Ionawr 2018) sy'n nodedig am arloesi gwrthfarddoniaeth.

Bywyd cynnar ac addysg

Nicanor Parra, tua 1935.

Ganwyd yn San Fabián de Alico, pentref yn ne Tsile. Roedd ei dad yn athro a'i fam yn wniadwraig, ac roedd ganddo saith o frodyr a chwiorydd, gan gynnwys y gantores Violeta Parra. Enillodd Nicanor ysgoloriaeth i ysgol uwchradd o fri yn y brifddinas Santiago. Astudiodd fathemateg a ffiseg ym Mhrifysgol Tsile, Santiago, a derbyniodd ei radd yn 1938. Aeth i astudio mathemateg uwch ym Mhrifysgol Brown, Rhode Island, a chosmoleg yng Ngholeg y Santes Catrin, Rhydychen.

Gyrfa academaidd

O 1948 i 1991 addysgodd ffiseg ddamcaniaethol ym Mhrifysgol Tsile. Roedd hefyd yn athro gwadd i sawl prifysgol yn yr Unol Daleithiau, gan gynnwys Columbia ac Yale. Daeth i sylw yn myd gwyddoniaeth fel un o'r prif arbenigwyr ar ffiseg Newtonaidd.

Gyrfa lenyddol

Arloesodd Parra yr hyn a elwir wrthfarddoniaeth drwy wrthod hen dechnegau ac ieithwedd flodeuog y beirdd traddodiadol, a chreu ffurf ddigrif a chyfwynebol a oedd yn chwyldroadol ym marddoniaeth America Ladin. Yn ei gerddi, defnyddiodd iaith y stryd, arddull di-lol, a golygwedd lem wrth ymdrin â themâu oedd yn berthnasol i weithwyr, myfyrwyr, cardotwyr, a dihirod.

Gwelir ambell nodwedd o wrthfarddoniaeth yn ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth Cancionero sin nombre (1937), er i Parra ymwrthod â'r llyfr hwnnw yn ddiweddarach. Mae'n debyg ei gyfrol bwysicaf oedd Poemas y antipoemas (1954), ei ymgais i wneud barddoniaeth yn ddealladwy i'r werin. Mae cerddi La cueca larga (1958) a Versos de salón (1962) yn defnyddio tafodiaith ac hiwmor y dosbarth isaf, eironi a chwarae ar eiriau. Dechreuodd Parra ysgrifennu cerddi byrion arbrofol yn 1967, a chyhoeddwyd y rheiny ar ffurf y gyfrol Artefactos yn 1972. Ymhlith ei gasglaidau diweddarach o farddoniaeth mae Sermones y prédicas del Cristo de Elqui (1977), Hojas de Parra (1985), a Discursos de sobremesa (1997).[1]

Dylanwadodd ei wrthfarddoniaeth ar feirdd mewn amryw iaith ar draws y byd, gan gynnwys ei gydwladwr Pablo Neruda, yr offeiriad a bardd Saesneg Thomas Merton, a rhai o genhedlaeth y Bitniciaid megis Allen Ginsberg a Lawrence Ferlinghetti. Canmolir ei waith gan sawl beirniad o fri, gan gynnwys Emir Rodríguez Monegal, Alexander Coleman, ac Harold Bloom. Condemniwyd ei farddoniaeth gan ambell un, megis yr offeiriad ac awdur Prudencio de Salvatierra, a ddisgrifiodd Versos de salón fel llyfr sy'n "rhy aflan i fod yn anfoesol. Nid yw bin sbwriel yn anfoesol."[2]

Treuliodd chwe mis yn yr Undeb Sofietaidd yn 1963 yn cyfieithu barddoniaeth Rwseg i'r Sbaeneg. Er hynny, gwrthododd ymaelodi â Phlaid Gomiwnyddol Tsile. Yn 1970 cafodd ei wahodd gan lywodraeth Ciwba i fod yn feirniad yng ngŵyl lyfrau La Habana, ond cafodd y gwahoddiad ei ddiddymu wedi i ffotograffydd dynnu llun o Parra yn yfed te gyda Pat Nixon, Prif Foneddiges yr Unol Daleithiau, yn y Tŷ Gwyn. Digiodd Parra sosialwyr drwy wneud hwyl am ben yr Arlywydd Salvador Allende a'i lywodraeth yn y gyfrol Artefactos. Wedi'r coup a ddaeth ag Augusto Pinochet i rym yn 1973, gwrthododd Parra ymuno â'r llenorion ac arlunwyr oedd yn ffoi o'r wlad. Beirniadodd lywodraeth Tsile mewn ambell gerdd yn y gyfrol Sermones y prédicas del Cristo de Elqui, ond fel arall nid oedd Parra yn cyhoeddi ei farnau gwleidyddol yn y cyfnod hwn.[2]

Roedd yn hoff o ymddwyn yn ymosodol mewn cyfweliadau, ac yn datgan i'w gynulleidfaoedd bod ei ymdrechion llenyddol yn fethiant. Yn aml byddai'n gorffen ei ddarlleniadau cyhoeddus gan ddweud, "Me retracto de todo lo dicho" ("Dad-ddywedaf popeth yr wyf wedi ei ddweud"). Enillodd Parra Wobr Lenyddol Genedlaethol Tsile yn 1969, a derbyniodd Gymrodoriaeth Guggenheim yn 1972.

Diwedd ei oes

Nicanor Parra yn 2014.

Derbyniodd Parra Wobr Cervantes, y wobr uchaf ei bri yn llenyddiaeth Sbaeneg, yn 2011.

Treuliodd ei flynyddoedd olaf yn Las Cruces yng nghymuned El Tabo. Bu farw yn Santiago yn 103 oed. Cyhoeddwyd ei farwolaeth gan Michelle Bachelet, Arlywydd Tsile.[3]

Cyfeiriadau

  1. (Saesneg) Nicanor Parra. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 5 Mai 2019.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) John Otis, "Nicanor Parra: Chilean physicist who became the father of ‘anti-poetry’", The Independent (2 Chwefror 2018). Adalwyd ar 5 Mai 2019.
  3. (Saesneg) Sewell Chan, "Nicanor Parra, Chilean Voice in an ‘Anti-Poet’ Movement, Dies at 103", The New York Times (23 Ionawr 2018). Adalwyd ar 5 Mai 2019.